Newyddlen Bwyd aDiod Cymru - Awst 2019

Awst 2019 • Rhifyn 0012

 
 

Newyddion

Cael blas ar lwyddiant – Lansio ymgynghoriad newydd ar Gynllun Gweithredu Bwyd a Diod

Cynllun Gweithredu
Andy Richardson

Nodyn gan Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

A ninnau ar drothwy'r hydref, mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y mae'r flwyddyn hon yn diflannu.
Mae’n ymddangos mai dim ond ddoe roedden ni’n dathlu llwyddiant rhyfeddol Taste Wales / Blas
Cymru fis Mawrth ac erbyn hyn rydyn ni’n dod atom ein hunain ar ôl gwres llethol y Sioe Frenhinol
eleni – pinacl arall yng nghalendr digwyddiadau bwyd a diod Cymru.

Bwyd a Diod Cymru

Strategaeth a Chynllunio at y dyfodol ar gyfer Bwyd a Diod yng Nghymru

Cyhoeddwyd papur ymgynghori newydd 'Ein huchelgais i ddatblygu sector bwyd a diod Cymru ymhellach'. Gwahoddir adborth a sylwadau ar flaenoriaethau'r dyfodol.

 

Food Innovation Helix_cym

Dros £110 miliwn o hwb i ddiwydiant bwyd a diod Cymru diolch i Brosiect HELIX

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod Prosiect HELIX, menter a ddatblygwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn niwydiant bwyd a diod Cymru, eisoes wedi cael effaith o dros £110 miliwn ers ei lansio dair blynedd yn ôl.

Prosiect Allforio Bwyd Atlantic

Lansio prosiect cydweithredol Ewropeaidd newydd i helpu busnesau bwyd a diod bach a chanolig eu maint i arloesi yn y sector bwyd iach

Mae busnesau bwyd a diod bach a chanolig eu maint yng Nghymru ar fin elwa ar brosiect rhyngwladol €1.2 miliwn sy'n cael ei gyllido trwy raglen Ardal yr Iwerydd Interreg i ehangu eu gwybodaeth a'u gallu i ateb y galw cynyddol am fwyd iach newydd.

Bwyd a Diod i Twristiaeth

Bwyd a Diod o Gymru mewn Atyniadau Ymwelwyr

Comisiynwyd yr astudiaeth gan Lywodraeth Cymru a oedd eisiau cael gwell dealltwriaeth o’r graddau y mae bwyd a diod o Gymru yn cael eu darparu mewn atyniadau ymwelwyr yng Nghymru.

Sgiliau Bwyd Cymru

Sgiliau Bwyd Cymru

Yn ddiweddar, mae Sgiliau Bwyd Cymru wedi dyfarnu contract i 'Hyfforddiant Swydd Amwythig' ar gyfer cyflwyno Hyfforddiant Lles Anifeiliaid ar adeg Lladd (Saesneg yn unig).

Mae cyllid ar gael i fusnesau o bob maint, i gael gafael ar y cyllid ar gyfer cwblhau’r hyfforddiant Lles Anifieiliad ar adeg Lladd. Mae angen i fusnesau cymwys lenwi’r Offeryn Sgiliau Diagnostig a ariennir yn llawn, gydag aelod o’r tîm a chyflwyno ffurflen gais am gyllid. Mae gwybodaeth am y cyllid ar gael yma drwy Sgiliau Bwyd Cymru.

 

 

Allforio

Mae allforion bwyd o Gymru yn fwy na'r DU

Cyhoeddwyd ystadegau allforio bwyd a diod Cymru ar gyfer 2018. Maent yn datgelu bod allforio o Gymru wedi tyfu 32% ers 2014. Mae’r adroddiad yn cynnwys ffigurau yn ôl categori cynnyrch a cyrchfan y wlad.

Food Poverty_cym

Mesur newydd o Dlodi Bwyd (Saesneg yn unig)

Amlinellwyd cynlluniau i greu mesur swyddogol o dlodi bwyd yn y DU. Roedd y cynlluniau hyn yn ganlyniad cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Adran Gwaith a Phensiynau, Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill. Bydd yn cymryd amser i greu mesur cadarn i Gymru, ond mae’r cynlluniau hyn yn paratoi’r ffordd.

Bwyd a Ffermio

Trosiant Bwyd a Ffermio ar £6.8 biliwn

Mae arfarniad economaidd Bwyd a Diod 2018 yn crynhoi ystadegau economaidd ar draws y diwydiant Bwyd a Diod, ac is-sectorau cynyrchu.

Digwyddiadau

Calendr Digwyddiadau ar gyfer 2019 - 2020

Calendr Digwyddiadau
Gulfood Dubai

Gulfood, Dubai 2020

Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Cymru/Wales yn sioe Gulfood, Dubai 16 - 20 Chwefror 2020. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais i arddangos yw'r 20 o Fedi 2019. 

Doha Qatar

Ymweliad Datblygu Masnach - Doha, Qatar

Brysiwch - mae dal ambell i le ar ôl os hoffech gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach yn Doha Qatar ar 9 - 14 Tachwedd.

 

Start and grow a food and drink business_cym

Dechreuwch dyfu busnes bwyd a diod

Mae'r digwyddiad hwn yn nodi pythefnos bwyd a diod yn siop Clicks a Mortar yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd. Cefnogir gan rwydwaith bwyd a diod Llywodreath Cymru.

 

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru