Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 8

25 Gorffennaf 2019

 
 

Croeso

Dyma wythfed rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Y Diweddaraf am y Cynllun

Yn dilyn proses o ymgysylltu helaeth ynghylch datblygu cynlluniau mae fersiwn ddrafft derfynol wrthi'n cael ei chyfieithu a'i dylunio cyn iddi gael ei chyflwyno i'w chymeradwyo gan y Gweinidog. Bydd angen i'r cynllun gael ei gymeradwyo gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, cyn iddo gael ei fabwysiadu a'i gyhoeddi.

Anim

Gan fod Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cynnwys nifer o swyddogaethau nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru bydd angen cymeradwyaeth yn ogystal gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod â swyddogion polisi y DU gan gynnwys DEFRA gydol y broses o ddatblygu'r cynllun. Bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo'n derfynol yn ystod yr Haf.

mp

Bydd cyfres o ddogfennau ategol yn cyd-fynd â'r cynllun adeg ei gyhoeddi gan gynnwys Adroddiad Crynodeb o Newidiadau, Arfarniad o Gynaliadwyedd, datganiad ar ôl mabwysiadu ac Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd. Bydd deunyddiau ategol eraill yn cael eu datblygu maes o law yn ogystal gan gynnwys: Canllawiau Gweithredu a Fframwaith Monitro ac Adrodd.

mp

Daw Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru i rym ar y diwrnod mabwysiadu. O'r dyddiad hwn bydd unrhyw benderfyniadau gan awdurdodau cyhoeddus a allai effeithio ar faes y cynllun, er enghraifft trwyddedau morol, yn cyfeirio at y cynllun wrth ystyried cais am ddatblygiad.

MP

Cyfarfod gydag Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol

Rydym wedi cynnal ein trydydd cyfarfod wyneb yn wyneb ag awdurdodau cyhoeddus perthnasol sydd â dyletswyddau mewn perthynas â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru o dan A58 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Cynhaliwyd cyfarfod o Grŵp y Penderfynwyr Cynllunio Morol ar 10 Gorffennaf a thrafodwyd y canllawiau gweithredu a fyddai'n cyd-fynd â'r Cynllun Morol Cenedlaethol, syniadau o ran gweithredu'r cynllun a chynigion ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd y Cynllun Morol Cenedlaethol. Gallwch weld crynodeb o'r cyfarfod yma. I gael rhagor o wybodaeth am y grŵp neu os ydych o'r farn y dylai eich sefydliad fod yn aelod ohono ewch i'n gwefan.

pc

Hysbysiad contract: Prosiect ar fethodoleg mapio System Gwybodaeth Ddaearyddol

Mae contract bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru sy'n gwahodd tendrau ar gyfer cefnogi gwaith mapio adnoddau Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith yma yn rhan o waith ehangach y tîm Cynllunio Morol ar gyflwyno dull gofodol o gefnogi gwaith gweithredu'r cynllun. Rydym yn chwilio am sefydliad a fydd yn adolygu dulliau o fapio System Gwybodaeth Ddaearyddol o safbwynt 'cyfyngiadau meddal' a datblygu methodoleg wedi'i theilwra i Gymru ar gyfer adnabod SRA a phennu a chyflwyno cyfyngiadau gofodol perthnasol. Y dyddiad cau yw 5 Awst.

EU

Fforwm Morol Môr Iwerddon

Gwnaeth swyddogion fynychu cyfarfod o Fforwm Morol Môr Iwerddon yn Belfast fis diwethaf. Mae'r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth Ynys Manaw, y Sefydliad Rheoli Morol a Phrifysgolion sy'n cyflawni prosiectau morol ar Fôr Iwerddon. Cynhaliwyd y cyfarfod gan Brifysgol Ulster a chafwyd diweddariadau gan y cynrychiolwyr ynghylch eu cynlluniau gofodol morol a phrosiectau eraill sy'n digwydd ar Fôr Iwerddon. Tra roeddem yn Belfast cawsom gyflwyniad gan Swyddfa Comisiynydd yr Harbwr a rhith-daith o amgylch Harbwr Belfast. Trafodwyd llwyddiannau eu cynlluniau adfywio yn ystod y cyflwyniad hwn.

ISMF

Prosiect newydd sy'n cael cyllid gan yr UE a fydd yn agor Porthladdoedd Cymru a Môr Iwerddon i dwristiaeth

Bydd pump o borthladdoedd Cymru a Môr Iwerddon yn elwa ar brosiect newydd gwerth €2.6m sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i helpu i'w trawsnewid o fod yn fannau y mae pobl yn pasio drwyddynt yn unig i fod yn fannau allweddol i dwristiaid.Bydd y prosiect yn gwella cyfleoedd twristiaeth, profiadau twristiaid ac yn cefnogi bywoliaeth cymunedau arfordirol bob ochr i Fôr Iwerddon. Mae Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi'r newyddion am y Prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, sy'n rhan o Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, yn ystod ymweliad â Gweriniaeth Iwerddon. Rhagor o wybodaeth

Ports

Diwydiant ynni'r llanw yn y Gogledd i gael £12m o fuddsoddiad gan yr UE

Mae diwydiant ynni'r llanw yn y Gogledd wedi cael hwb sylweddol heddiw ar ôl i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £12.6m o gyllid yr UE yng nghwmni datblygu Minesto ar Ynys Môn. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi cam nesaf prosiect arloesol y cwmni lle bydd barcutiaid tanddwr yn cynhyrchu ynni o lif y llanw. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi cam nesaf prosiect arloesol y cwmni lle bydd barcutiaid tanddwr yn cynhyrchu ynni o lif y llanw a'r môr. Rhagor o wybodaeth

kite

Ymgyngoriadau: Mynegi eich barn

Polisïau morol a physgodfeydd ar gyfer Cymru ar ôl Brexit

Bydd Brexit a'n Moroedd yn llywio ein polisi ynghylch pysgodfeydd yn y dyfodol, a hynny wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wrthi'n ymgynghori ynghylch y cam cyntaf o ran creu polisi newydd, trefn o reoli a deddfwriaeth. Rydym am glywed eich barn chi am y canlynol:

  • rheoli pysgodfeydd
  • pysgodfeydd cynaliadwy
  • cyfleoedd pysgota
  • pysgod cregyn a dyframaethu
  • masnach
  • twf ac arloesedd
  • cynaliadwyedd fflyd
  • tystiolaeth 
  • cymorth ariannol

Mynegwch eich barn erbyn 21 Awst 2019.

brexit

Mesurau rheoli ar gyfer rhywogaethau goresgynnol estron sydd wedi lledaenu'n helaeth yng Nghymru a Lloegr

Hoffem glywed eich barn ynghylch mesurau rheoli ar gyfer 14 o rywogaethau goresgynnol estron gan gynnwys cranc manegog Tsieina.

Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar fesurau rheoli arfaethedig â'r nod: 

  • waredu
  • rheoli poblogaethau
  • atal rhag lledaenu

Mynegwch eich barn erbyn 12 Medi 2019.

boat

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural