Rhifyn 89 Advances Wales
Y dulliau o arloesi a welir yn y rhifyn hwn yw edrych ar fanteision iechyd llaeth camelod a phlatfform arloesol sy'n caniatáu i bobl fonitro eu hiechyd eu hunain.
Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys ymchwil arloesol i frwydro yn erbyn sepsis gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gallwch weld y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma.
|
|
 |
Ceisiadau Lloeren Catapult i dyfu presenoldeb yng Nghymru
Bydd y Ceisiadau Lloeren Catapult agor swyddfa ranbarthol newydd yng Nghanolfan Aerofod Eryri yn Llanbedr, Gwynedd.
Bydd y swyddfa yn hyrwyddo datblygiad ceisiadau lloeren a gwasanaethau sydd o fudd i'r economi wledig, gyda ffocws cychwynnol ar ofal iechyd.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Ydych chi am gael y cyfle i weithio gyda cwmnïau mawr yn ardal Gwlad y Basg?
Mae BIND 4.0 yn rhaglen sbarduno cyhoeddus-preifat yng Ngwlad y Basg. Mae'n cael ei dargedu at y cwmnïau newydd gorau, all gynnig atebion yn seiliedig ar dechnolegau busnes 4.0 (Data mawr, rhith-wirionedd / realiti estynedig, roboteg cydweithredol, seibrddiogelwch, y rhyngrwyd pethau, argraffu 3D, etc.) sy'n berthnasol i'r sectorau gweithgynhyrchu uwch, ynni, iechyd a thechnoleg bwyd. Pam na ddewch chi i'r Tramshed Tech, Caerdydd ar 23 Gorffennaf a chlywed mwy am y rhaglen arloesol hon.
Ydych chi'n rhan o'r gymuned beirianneg neu'r gwyddorau ffisegol?
Hoffai y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) gyfarfod â rhanddeiliaid i ddod i ddeall y cyd-destun presennol yn well. Mae cyfle hefyd i glywed am y cyfleoedd sy'n codi o fewn Ymchwil ac Arloesi y DU drwy Gynllun Cyflawni newydd EPSCR. Cofrestrwch eich diddordeb i fod yn bresennol erbyn 31 Gorffennaf
Gwasanaethau y Genhedlaeth Nesaf: Galluogi Cystadleuaeth gyda Data 22 Gorffennaf 2019 - Stadiwm SWALEC, Caerdydd Bydd Innovate UK yn buddsoddi hyd at £3.5 miliwn i ddatblygu dulliau o gasglu data fel bod modd defnyddio'r technolegau deallusrwydd artiffisial o fewn y sector cyfrifyddiaeth, yswiriant a gwasanaethau cyfreithiol. Cofrestrwch yma
Sbarduno Her y Chwyldro Trydan 30 Gorffennaf 2019 - Casnewydd A oes gennych ddiddordeb clywed am y cyfleoedd cyllido yn sgîl yr her? Cofrestrwch eich diddordeb yma
Digwyddiad Dathlu Sêr Cymru
19 Medi 2019 - Gwesty'r Mercure Caerdydd Cynhelir gan Swyddfa Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru i ddathlu llwyddiant Rhaglen Sêr Cymru. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â SERCYMRUII@gov.wales
Arloesi ac Amrywiaeth Cymru 26 Medi 2019 - Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt Ydych chi yn bwriadu arallgyfeirio eich busnes? Digwyddiad newydd a chyffrous ar gyfer busnesau ffermio, coedwigwyr a phobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru sy'n chwilio am syniadau i arloesi ac arallgyfeirio er mwyn gwella eu busnes a dod â llif incwm newydd i fusnes sy'n bodoli eisoes. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr 2019 30 Medi - 1 Hydref - Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd 14 & 15 Hydref - Canolfan Pontio, Bangor Mae'r Gwobrau Arloesi yn gystadleuaeth uchel ei pharch ac yn arddangosfa ryngweithiol ar gyfer y gwaith prosiect mwyaf arloesol ar lefel TGAU a lefel A Dylunio a Thechnoleg. Mae disgwyl i dros 2000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau fod yn bresennol. Darllenwch sut y mae CBAC a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn annog pobl ifanc yng Nghymru i arloesi yn y byd technolegol.
|