Bwletin Gwaith Ieuenctid – Rhifyn yr Hâf

Hâf 2019

 
 

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd Ieuenctid Dros Dro – Llais Keith

Cadeirydd y Bwrdd, Keith Towler

 

Yn sydyn reit, mae’n ymddangos bod llawer o gyfryngau prif ffrwd ledled y DU yn siarad am waith ieuenctid a’r effaith y mae cyni a thoriadau i wasanaethau lleol wedi’i chael ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Roedd rhaglen flaenllaw y BBC, Newsnight, hyd yn oed yn sôn am effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid ar fywydau pobl ifanc. Mae’n drist mai’r rheswm am y trafodaethau hyn yw’r cynnydd mewn troseddau cyllyll ymysg pobl ifanc mewn rhai rhannau o’r DU. Er bod pob adroddiad o’r natur hwn yn sôn am drasiedi a cholled bersonol a theuluol, maent yn ein gorfodi i ofyn cwestiynau ehangach am gymdeithas, cymuned a’r gefnogaeth a roddwn i bobl ifanc wrth iddynt geisio canfod eu ffordd drwy ofynion bywyd bob dydd. Cefnogaeth sydd wedi’i lleihau neu wedi dod i ben mewn llawer o achosion.

Gyda’r toriadau hyn i wasanaethau fe fyddech chi’n disgwyl gweld sector mewn argyfwng. Ond mae fy mhrofiadau i yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid eleni, a’m trafodaethau dyddiol â gweithwyr ieuenctid, yn cyflwyno darlun gwahanol. Mae’n wir fod capasiti wedi lleihau dros amser mewn rhai ardaloedd. Ond yr hyn rwyf i wedi’i weld yw sector gwaith ieuenctid bywiog a brwdfrydig, sy’n gweithio’n galed i ddal gafael ar y ddarpariaeth sydd gennym, ac sy’n awyddus tu hwnt i wella cyfleoedd i holl bobl ifanc Cymru. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol ac yn fraint i’w cyfarfod a’r bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw, ac mae pob un wedi gwneud cyfraniad pwysig at lywio syniadau’r Bwrdd a minnau ar yr hyn sydd angen ei wneud. Mae eu lleisiau wedi bod yn hanfodol yn y gwaith o ddatblygu’n dull strategol newydd, a byddant yn rhan uniongyrchol o sicrhau ei ddarpariaeth.

Ond gadewch i mi fod yn glir am faint ein huchelgais yma. Fel Cadeirydd y Bwrdd, yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth rwyf am weld gwaith ieuenctid yng Nghymru’n cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu: fel gwasanaeth ynddo’i hun, am ei gyfraniad i’n hamcanion a’n huchelgeisiau fel cenedl, ac am ei werth i’r bobl ifanc sy’n derbyn cymorth. Ac mae’r gwerth hwn yn amlwg o leisiau pobl ifanc a gymerodd ran yn nhrafodaeth gyntaf ‘Dewch i Drafod Gwaith Ieuenctid’. Maent yn gwerthfawrogi gwaith ieuenctid am y wybodaeth y mae'n ei rhoi, am y mannau diogel y mae'n eu creu, am y cyfleoedd y mae'n eu cynnig, am y cymorth y mae'n ei sicrhau, ac am y cysylltiadau y mae'n eu meithrin gyda chyfoedion ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt.

Rwy’n hollol grediniol bod gwaith ieuenctid yn newid bywydau pobl ifanc er gwell. Felly, wrth iddo allu ymateb i gynnydd mewn troseddau cyllyll, i ddigartrefedd pobl ifanc, a phryderon iechyd meddwl a lles, mae’n gwneud hyn fel casgliad o wasanaethau a chymorth sy’n seiliedig ar werthoedd, egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid. Mae’r dull hwn yn dod â gwerth i bobl ifanc ac i gymdeithas yn gyffredinol ac er nad yw’r gwerth hwn yn hawdd i’w fesur bob amser gan ddefnyddio cyfres o ddangosyddion ar wahân – ni fydd byth yn hawdd gan ei fod yn wasanaeth ymatebol sy’n cael ei lywio gan y bobl ifanc eu hunain, pob un yn unigolyn ar wahanol gam o’u bywydau – pan na fydd gwaith ieuenctid yno rydym yn gweld y canlyniadau.

Mae’n rhaid i ni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl ifanc ac i waith ieuenctid yng Nghymru, a bydd y Strategaeth Gwaith Ieuenctid, a fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin, yn gwneud hynny! Mae’n dda bod Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i waith ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid eleni hefyd drwy ddarparu lefelau cyllid na welwyd o’r blaen - dros £10 miliwn yn 2019/20. Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y buddsoddiad hwn ac rwy’n ddiolchgar i chi gyd am gyfrannu a gweithio gyda ni i sefydlu gweledigaeth a rennir a chytuno ar ffordd ymlaen.

Grwpiau Gorchwyl a Gorffen– Mae Gwaith Ieuenctid eich angen chi!

Fel rhan o’n dull strategol newydd o ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i’r cysyniad o ‘Arweinyddiaeth Systemau’ - model grymuso pobl ifanc a’r gweithlu. Drwy’r model hwn, bydd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, a’r sector ehangach yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu’n cyfeiriad strategol newydd.

Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddgar i weithredu fel arweinwyr systemau drwy ymuno â chyfres o is-grwpiau Gorchwyl a Gorffen. Bydd y grwpiau hyn yn cyd-fynd â’r prif ffrydiau gwaith o dan y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd a byddant yn cyfrannu at greu newid yn gyflym, yn ogystal â datblygu tystiolaeth ar gyfer gwelliant parhaus.

Croesewir datganiadau o ddiddordeb o bob rhan o’r sector gwaith ieuenctid ond er mwyn cymryd rhan mae gofyn i chi fod yn awyddus i sicrhau newid a gallu ymrwymo i gymryd rhan mewn gweithgareddau a allai ymestyn y tu hwnt i’ch gwaith bob dydd.

Bydd galwadau am arweinwyr systemau’n cael eu gwneud o dro i dro wrth i’r gwaith o ddarparu’r strategaeth newydd fynd rhagddo. Fodd bynnag, rydym yn estyn gwahoddiad cychwynnol i gymryd rhan yn y ffrydiau gwaith canlynol:

  • Gwasanaethau a darpariaeth y y Gymraeg;
  • Gwaith Ieuenctid Digidol: Trawsnewid, Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Ymgysylltu ag ieuenctid

Rhowch wybod i ni os oes gennych chi ddiddordeb penodol, neu fod gennych chi lefel o arbenigedd, mewn un neu fwy o’r meysydd hyn drwy e-bostio gwaithieuenctid@llyw.cymru. Wrth wneud hynny, a fyddech cystal â chytuno y gallwn gadw’ch manylion cyswllt, eu rhannu â’r Bwrdd, a chysylltu â chi at ddibenion datblygu gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Wythnos Gwaith Ieuenctid: 23 - 30 Mehefin 2019

Cynhelir Wythnos Gwaith Ieuenctid yw digwyddiad blynyddol yn gyfle i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc ddathlu llwyddiannau gwaith ieuenctid, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a chefnogaeth ehangach i waith ieuenctid.

Cynhelir digwyddiad arddangos Wythnos Gwaith Ieuenctid, dan nawdd Llŷr Gruffydd, AC, ddydd Mawrth 25 Mehefin, rhwng 10:30am a 1:30pm yn y Senedd. 

Bydd y Gweinidog Addysg yno i lansio’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd yn ffurfiol.

Bydd amrywiaeth o sefydliadau gwaith ieuenctid o bob cwr o Gymru’n arddangos eu gwaith a fydd yn dangos yr ehangder o waith ieuenctid a’r holl brosiectau rhagorol gwahanol sy’n cael eu darparu ledled Cymru.

Rhannwch eich cynlluniau ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid (a gweithgareddau gydol y flwyddyn) gan ddefnyddio’r hashnodau #GwaithIeuenctidCymru a #YouthWorkWales

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch rachel@youthcymru.org.uk

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2019 – cyhoeddi’r rhestr fer!

logo

Derbyniwyd dros 90 enwebiad ar gyfer gwobrau rhagoriaeth gwaith ieuenctid 2019 ac roeddem wrth ein bodd gyda’r safon, yn arbennig gan ein bod ni’n dathlu 25 mlynedd ers cychwyn cynnal y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni!

Beirniadwyd y gwobrau dros ddau ddiwrnod yng Ngwesty’r Holiday Inn, Caerdydd ym mis Chwefror. Dywedodd pob beirniad bod yna gystadleuaeth gref ym mhob categori a oedd yn gwneud y dasg o dynnu’r rhestr fer yn anodd iawn. Pobl ifanc oedd yn beirniadu’r categori Gwneud Gwahaniaeth eto eleni, a chafwyd trafodaethau a safbwyntiau bywiog gydol y broses feirniadu.

Cynhelir Seremoni Wobrwyo 2019 ddydd Gwener 28 Mehefin yng Ngwesty’r Cei, Deganwy. Edrychwn ymlaen at rannu manylion y buddugwyr ym mwletin yr Haf. Yn y cyfamser, cadwch lygad am #GwaithIeuenctidCymru ar Twitter wrth i ni ryddhau manylion y rhestr fer yn y cyfnod cyn y Gwobrau.

Marc Ansawdd - Diweddariad

Mae Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Cymru yn cynnwys dwy elfen ar hyn o bryd. Cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau eu defnyddio i hunanasesu ansawdd ac effaith eu gwaith, a Marc Ansawdd a asesir yn allanol. Atkin Associates oedd â’r contract i gynnal y Marc Ansawdd rhwng Mis Mehefin a Mawrth 2019. Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniodd deunaw sefydliad lefel Efydd, derbyniodd naw sefydliad lefel Arian ac aeth pedwar sefydliad ymlaen i ennill lefel Aur.

Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i’r Marc Ansawdd a byddwn yn ail-dendro’r contract yr Haf hwn. Bydd gofyn i’r contractwr llwyddiannus reoli fformat cyfredol y Marc Ansawdd a gwneud gwaith datblygu gyda’r nod o’i gryfhau.

Yn olaf, llongyfarchiadau i’r sefydliadau canlynol a dderbyniodd eu Gwobrau Marc Ansawdd yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid ym mis Chwefror

  • Youth Cymru – lefel efydd
  • Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd – lefel efydd
  • Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot – lefel efydd
  • Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen – lefel arian

Edrychwn ymlaen at ddyfarnu’r gyfres nesaf o Wobrau Marc Ansawdd yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ym mis Mehefin.

Cyhoeddi enillydd Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion

Enillydd y Wobr Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion

Cynhaliwyd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn Neuadd Soughton, yr Wyddgrug ar 19 Mai. Eleni, cyflwynwyd gwobr newydd i gydnabod rôl bwysig gwaith ieuenctid mewn ysgolion a phwysigrwydd partneriaethau a chontinwwm rhwng dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r wobr yn cydnabod y rhai sydd wedi darparu gwaith ieuenctid eithriadol mewn lleoliad ysgol, ac sydd wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc mewn ysgol neu ysgolion.

Enillydd y Wobr Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion oedd Amy Bolderson, Ysgol Uwchradd Pontypridd, y mae staff a dysgwyr yn ei disgrifio fel ‘rhywun sydd wastad yno i chi’ a’r ‘un i droi ati’. Creodd ymroddiad ac ymrwymiad rhyfeddol Amy i’w swydd argraff ar y beirniaid, a’r effaith aruthrol roedd yn ei chael ar lesiant a chanlyniadau llawer o unigolion a grwpiau o ddysgwyr ledled yr ysgol.

Llongyfarchiadau Amy!

Roedd safon y ceisiadau’n uchel iawn ac rydym yn llongyfarch y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol hefyd:

  • David Charles, Ysgol Cil-y-coed, Sir Fynwy
  • Gweithwyr Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, Glynebwy

Rydych chi gyd yn glod i waith Ieuenctid.

Adroddiad o Gynhadledd Gwaith Ieuenctid 2019

Cynhaliwyd cynhadledd eleni yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Chwefror. Roedd 180 o gynrychiolwyr yn bresennol gyda chynrychiolaeth sectorol dda o bob rhan o Gymru.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i gyfarfod aelodau’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ac i glywed manylion am ddatblygu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd.

Derbyniodd y cynrychiolwyr adborth ar arolwg ‘Dewch i Drafod’ hefyd, a gynhaliwyd rhwng Tachwedd 2018 a 14 Ionawr 2019 gan gasglu barn 633 o bobl ifanc mewn lleoliadau gwaith ieuenctid ledled Cymru. Croesawodd y cynrychiolwyr lais pobl ifanc yn y gwaith o ddatblygu dull strategol a phwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu’n barhaus â phobl ifanc, yn arbennig y rhai nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaethau gwaith ieuenctid ar hyn o bryd.

Bu Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda rhanddeiliaid drwy’r Grŵp Marchnata Gwaith Ieuenctid i ddatblygu gweithdai’r dydd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i ymarferwyr mewn lleoliadau gwaith. Mae copïau o’r holl gyflwyniadau ar gael ar gais gan youthwork@gov.wales.

Derbyniwyd 63 gwerthusiad. Roedd y rhain yn cadarnhau bod y gynhadledd yn gyfle gwych i’r sector rwydweithio. Ystyriwyd bod y cynnwys yn briodol ond roedd llawer o gynrychiolwyr yn teimlo y byddent wedi hoffi cael mwy o amser i rwydweithio’n anffurfiol. Byddwn yn ystyried hyn wrth gynllunio cynhadledd 2020.

Cyflwyno pecyn cymorth Arian Smart Youth Cymru

Arian Smart event

Ar 12 Mawrth cynhaliodd Youth Cymru ddigwyddiad Hyfforddi’r Hyfforddwr Arian Smart ar gyfer gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys areithiau, trafodaethau, sesiynau hyfforddi carwsél, caffi byd lle y gallai gweithwyr ieuenctid, athrawon ac ymarferwyr rannu safbwyntiau ar bwysigrwydd darparu gallu ariannol i bobl ifanc yng Nghymru.

Dim ond un o blith nifer o ddigwyddiadau gallu ariannol yw hwn a gynhaliwyd gan Youth Cymru i helpu ymarferwyr i ddarparu eu pecyn cymorth Arian Smart yn eang. Ynghyd â hyn, maent wedi darparu cymorth wyneb yn wyneb i 1000 o bobl ifanc dros y flwyddyn ddiwethaf. O sesiynau gwerthuso ac ymgynghori yn eu digwyddiadau hyfforddi, cyfleoedd rhwydweithio o amgylch Cymru, a’r Gynhadledd Gwaith Ieuenctid yn Llandudno, maent wedi gweld bod ymarferwyr yn cytuno ar bwysigrwydd addysgu gallu ariannol i bobl ifanc o bob oed. Gellir cynnwys hyn mewn sesiynau eraill a addysgir neu eu cyflwyno’n benodol fel sesiynau unigol.

Cliciwch y ddolen i lawrlwytho pecyn cymorth Arian Smart Youth Cymru: http://youthcymru.org.uk/cy/money-smart-re-launched/

Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd: gwneud cais am y Label Ansawdd

Label Ansawdd

Diddordeb mewn cynnal prosiectau’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yng Nghymru? Mae’r Label Ansawdd yn rhagofyniad i sefydliadau sydd am wneud cais am gyllid gan y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd, boed ar gyfer prosiectau gwirfoddoli, hyfforddiaethau a swyddi. Mae’n ardystio bod sefydliad sy’n cymryd rhan yn y fenter yn gallu darparu gweithgareddau o ansawdd uchel yn unol ag egwyddorion ac amcanion y Corfflu Cydsefyll. Ewch i wefan Asiantaeth Genedlaethol y DU am ganllawiau. Mae’n cynnwys tiwtorial, sy’n cynnig trosolwg byr o’r Label Ansawdd, camau cyn i chi wneud cais ac awgrymiadau a chyngor. Gwyliwch y tiwtorial a dechrau llunio cais eich sefydliad heddiw. Mae ceisiadau’n cymryd tua wyth wythnos i’w prosesu.

Y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yw menter yr Undeb Ewropeaidd sy’n ariannu cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli neu weithio mewn prosiectau naill ai yn eu gwlad eu hunain neu dramor, prosiectau sydd o fudd i gymunedau a phobl o amgylch Ewrop.

Gall sefydliadau o bob maint yn y DU, o gwmnïau rhyngwladol i gyrff anllywodraethol bach sy’n gweithio mewn cymunedau lleol, sy’n cefnogi gweithredu cymdeithasol ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gyflwyno cais. Yn y DU, Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+, partneriaeth rhwng y Cyngor Prydeinig ac Ecorys UK, sy’n gweithredu’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd. Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr i gael newyddion ac awgrymiadau ar lunio cais.

Arolwg Iechyd Cyhoeddus ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am gael darlun o safbwyntiau a dealltwriaeth ymhlith staff mewn swyddi sector cyhoeddus yng Nghymru o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. I wneud hyn, maent wedi comisiynu Strategic Research and Insight, cwmni ymchwil annibynnol o Gaerdydd, i gynnal arolwg ar-lein. Bydd yn casglu barn gweithwyr sector cyhoeddus ledled Cymru.

Mae’r arolwg yn bwysig gan y bydd yn helpu i ddeall faint o arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau perthnasol sydd gan wasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â chanlyniadau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ym mhoblogaeth oedolion a phlant Cymru, a hynny am y tro cyntaf.

Gellir cwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu Saesneg: www.bit.ly/PHWACES

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu eich bod am gael unrhyw wybodaeth i helpu i hyrwyddo’r arolwg, cysylltwch ag Angus Campbell o SRI yn angus@strategic-research.co.uk  

Gwaith ymchwil newydd ar bobl ifanc - cyfraniadau erbyn 1 Gorffennaf

Mae tîm partneriaeth ieuenctid Cyngor Ewrop yn cydlynu astudiaeth ymchwil ar gynhwysiant cymdeithasol pobl ifanc a digidoleiddio. Mae ERYICA yn aelod o’r Grŵp Llywio.

A fyddech cystal â chyfrannu at y gwaith ymchwil drwy gwblhau arolwg byr drwy’r ddolen yma: https://forms.gle/eq5KipBNWJpmfwF18. Anfonwch eich ymatebion erbyn 1 Gorffennaf 2019.

Mae gwybodaeth gefndirol am y prosiect ymchwil ar gael yma.

Anfonwch unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at Davide Capecchi -davide.capecchi@partnership-eu.coe.int a/neu Lana Pasic - lana.pasic@gmail.com

Bwletin nesaf

Bydd ein cylchlythyr nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Ebostiwch unrhyw gyfraniadau ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn dydd Gwener 16 Tachwedd.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: