Croeso i rifyn wyth y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit.
Mae'n bwysig eich bod yn dal ati i baratoi'ch busnes ar gyfer Brexit. Mae'r bwletin hwn yn eich helpu i ddeall yn well beth yw'r gofynion a pha help sydd ar gael ichi.
|
|
|
Mewn ymateb i adborth gan y diwydiant, mae Llywodraeth Cymru yn lansio'r Cynllun Costau Safonol. Dyluniwyd y cynllun hwn er mwyn symleiddio’r broses newydd ar gyfer ‘Iechyd a Diogelwch ar Gychod’ ac ‘Ychwanegu Gwerth ac Ansawdd Cynnyrch i Ddalfeydd’. Bydd hyn yn galluogi pysgotwyr yng Nghymru i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt yn haws trwy gynnig cais syml ar-lein gyda rhestr o offer sydd wedi'i bennu ymlaen llaw ar gostau safonol. Bydd hyn yn ychwanegol i gynlluniau presennol.
Mae'r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau yn agored am 4 wythnos ac os nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru gwnewch hynny cyn gynted â phosibl.
I gofrestru fel cwsmer ewch i gov.wales/rural-Payments-wales-rpw-online ac yna defnyddiwch ein canllaw ‘RPW Ar-lein: sut i gofrestru' neu, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar y dolenni isod
https://llyw.cymru/cynllun-cost-safonol-pysgodfeydd-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais?_ga=2.261603213.1258082593.1559123195-1354089427.1559123195
https://llyw.cymru/cymorth-ar-gyfer-buddsoddi-mewn-iechyd-diogelwch-cychod-pysgota-eitemau-am-bris-safonol?_ga=2.261603213.1258082593.1559123195-1354089427.1559123195
https://llyw.cymru/cynllun-cost-safonol-pysgodfeydd-cwestiynau-cyffredin?_ga=2.69573392.1258082593.1559123195-1354089427.1559123195
https://llyw.cymru/cynllun-costau-safonol-pysgodfeydd-rhestr-o-eitemau-syn-gymwys-i-gael-arian?_ga=2.69573392.1258082593.1559123195-1354089427.1559123195
Cafodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei lansio ar 1 Mai. Bydd yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i lunio polisïau'r môr a physgodfeydd yn y dyfodol wrth i effeithiau Brexit ddod yn amlwg. Y dyddiad cau ar gyfer eich sylwadau yw 21 Awst. I weld y ddogfen, ewch i:
https://llyw.cymru/polisiau-morol-physgodfeydd-ar-gyfer-cymru-ar-ol-brexit
Rydyn ni wedi gofyn i'r ymgynghorwyr Kinetic Cubed helpu i allforwyr. Bydd yr help hwn yn ddi-dâl i gwmnïau sy'n cymryd rhan i'w helpu i fanteisio ar farchnadoedd yr UE ac EFTA ar ôl Brexit.
Os ydych chi'n allforiwr yng Nghymru, gallwch ofyn am help sy'n bersonol i chi. I gael gwybod rhagor, e-bostiwch Laura Harris at laura.harris006@gov.wales
Mae'r system ddigidol newydd ar gyfer rhoi tystysgrif dalfeydd pysgod i'w hallforio nawr yn fyw.
Gallwch nawr gofrestru ar y system newydd, yn barod ar gyfer Brexit. Ar ôl cofrestru, gallwch greu tystysgrifau dalfeydd a dogfennau allforio eraill ichi ddod yn gyfarwydd â'r system.
Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, gallai amodau masnachu newid. Rydyn ni wedi paratoi rhestr o bethau y bydd gofyn ichi eu hystyried os byddwch yn allforio i'r UE fel Trydedd Wlad.
Canllaw yn unig yw'r rhestr a chyfrifoldeb pob allforiwr yw sicrhau bod ganddo'r dogfennau angenrheidiol ar gyfer pob llwyth y bydd yn ei allforio.
https://llyw.cymru/rhestr-wirio-ar-gyfer-allforwyr-pysgota
Os na fydd cytundeb, efallai y bydd yr UE yn mynnu bod yr holl gynnyrch pysgodfeydd a fydd yn cael eu hallforio o'r DU i'r UE yn cael eu hanfon o Sefydliad Bwyd Cymeradwy. Bydd hynny'n golygu darparu Marc Adnabod Hirgrwn i fynd gyda'ch Tystysgrif Iechyd Allforio.
Dylai busnesau yn y DU sydd ar hyn o bryd yn gweithredu mewn eiddo cofrestredig ac sy'n bwriadu parhau i allforio cynnyrch pysgodfeydd i'r UE naill ai:
- Gwneud cynlluniau i allu allforio'u cynnyrch o Sefydliad Bwyd Cymeradwy - gallai hynny olygu gwerthu'r pysgod mewn marchnad bysgod sy'n Sefydliad Bwyd Cymeradwy;
- Dechrau'r broses o ddod yn Sefydliad Bwyd Cymeradwy trwy gysylltu â'ch Awdurdod Lleol. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gael statws Sefydliad Bwyd Cymeradwy, cysylltwch â'ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Mae Llywodraeth y DU wedi agor cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer cwmnïau sy'n defnyddio tystysgrifau Euro V a VI. Ni ddylai cwmnïau sydd eisoes wedi gwneud cais ymgeisio eto.
https://www.gov.uk/government/publications/allocation-of-ecmt-haulage-permits-guidance-for-hauliers?utm_source=a78a7b88-69f9-4247-994e-f5a3bca9f4da&utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications&utm_content=immediate
Y Môr a Physgodfeydd
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Paratoi Cymru
https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/pysgodfeydd-a-masnach
Porthol Brexit
https ://businesswales.gov.wales/brexit/cy/
|