 |
|
Sut allwn ni ddefnyddio data a thechnoleg digidol i ddarparu gofal cymdeithasol gwell i oedolion?
Mae cadw poblogaeth sy’n heneiddio yn iach ac yn byw’n annibynnol yn sylfaenol o ran cynaliadwyedd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles ein cymunedau yn yr hirdymor.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi sicrhau £1.25 miliwn gan Gronfa Catalydd GovTech i annog cwmnïau technoleg i gyflwyno atebion arloesol a all ein helpu i ddelio ag un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma
|
Rhifyn 88 Advances Wales
Mae'r arloesi a welwyd yn y rhifyn hwn yn cynnwys sganiwr sensitif iawn i gyflymu prosesau diogelwch mewn meysydd awyr a thechnoleg rhith-wirionedd gan helpu cleifion ddelio gyda phoen, straen a phryder.
Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys ymchwil arloesol i sut y mae'r ymennydd yn paratoi ar gyfer gweithredoedd cymhleth.
Gallwch weld y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma.
|
|
 |
 |
|
Cymorth technolegol ar-lein i ddatblygu eich busnes yng Nghymru
Boed eich marchnad yn lleol, cenedlaethol neu ryngwladol; mae technoleg ar-lein yn helpu busnesau o Gymru i wella eu cyllidebau.
Cliciwch yma i ddod i wybod mwy
|
Gŵyl Arloesedd Cymru
15-29 Mehefin 2019 – Ledled Cymru
Mae Gŵyl Arloesedd Cymru yn rhoi'r cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant fel y gallant arddangos eu cynnyrch a'u syniadau i gwsmeriaid posibl ledled Cymru a thu hwnt.
Os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan o unrhyw un o'r digwyddiadau hyn ewch i'r wefan yma
Gweithdy Llywodraeth Cymru i drafod y Cyllid Nerth Mewn Llefydd UKRI a'i potensial i Gymru
17 Mehefin 2019 - Gwesty'r Marriott, Caerdydd
20 Mehefin 2019 - Llywodraeth Cymru - Swyddfa Cyffordd Llandudno
Nod yr achlysur yw i ddod ag arweinwyr prifysgol a diwydiant ynghyd i drafod syniadau gyda Llywodraeth Cymru, CCAUC, Innovate UK a’r KTN ar sut i:
- Gymhorthi twf rhanbarthol dan arweiniad arloesi trwy gydnabod a chymhorthi meysydd sydd â nerth mewn YaD
- I wella cydweithrediadau lleol sy’n cynnwys ymchwil ac arloesi
I gofrestri diddordeb cliciwch yma
Cyd-Fuddsoddi mewn Busnesau Ymchwil a Datblygu ar gyfer Twf Cynaliadwy
26 Mehefin 2019 - Tramshed Tech
Mae arloesi yn hanfodol i lwyddiant unrhyw fusnes. Bydd y digwyddiad hwn AM DDIM yn eich helpu i:
*Ddod i wybod sut y gall arloesi helpu eich busnes i ddatblygu
*Dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy ein rhaglen SMARTCymru
*Cyfarfod y tîm fydd yn trafod y broses ymgeisio gyda chi
*Clywed gan fusnesau eraill sydd wedi elwa o’n cymorth Arloesi
I sicrhau eich lle, cliciwch yma
Digwyddiad Blynyddol Horizon 2020 Llywodraeth Cymru
4 Gorffennaf 2019 - Mercure Caerdydd Holland House
Mae Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru yn cynnal eu pumed Digwyddiad Blynyddol, gan edrych ar sut y gall cyllid ymchwil ac arloesi yng Nghymru, y DU a'r UE gydweithio i hybu cystadleurwydd rhyngwladol Cymru.
I sicrhau eich lle am ddim cofrestrwch yma
Gweithdy gan Co-innovate i Edrych ar Her y Strategaeth Ddiwydiannol ac ar Brosiectau
4 Gorffennaf 2019 – Gwesty St Pierre, Cas-gwent
Dewiswyd tair her :
- Rhwydwaith cryf a diogel i gysylltu data, cwsmeriaid a thimau gweithredol er mwyn darparu gwell gwasanaethau i bawb
- Dulliau amser real a rhagfynegol o ddadansoddi data i wella cynhyrchiant yn y DU
- Deall defnydd o ynni ar raddfa ficro a macro
Nod y gweithdy yw dod â phobl â’r gallu priodol at ei gilydd a ffurfio gweithgorau a fydd yn cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau uchod.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru
26 Medi 2019 - Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Hoffech chi gynnal gwaith ymchwil a datblygu o fewn eich busnes?
Digwyddiad newydd a chyffrous wedi'i anelu at ffermwyr, coedwigwyr a phobl wledig sy'n chwilio am syniadau arloesi ac arallgyfeirio i wella eu busnes ac i gyflwyno ffrydiau incwm newydd i fusnesau presennol.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
|