Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 7

29 Mai 2019

 
 

Croeso

Dyma seithfed rhifyn ein newyddlen a fydd yn eich hysbysu ynghylch y datblygiadau diweddaraf wrth i ni agosáu at gyfnod mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rannwch y cylchlythyr hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Monitro'r Cynllun ac Adrodd Arno

Mae Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cynllunio morol barhau i adolygu ac adrodd ar effeithiau polisïau yn eu cynllun a'u heffeithiolrwydd o safbwynt sicrhau amcanion y cynllun. Bydd gwaith monitro ac adolygu yn ein galluogi i bennu effaith ac effeithiolrwydd y cynllun, sicrhau bod polisïau'r cynllun yn addas i'w diben a bydd hefyd yn pennu a oes angen unrhyw ddiwygiadau er mwyn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion newydd sydd wedi codi.

m&r

Fel cam cyntaf tuag at bennu dangosyddion ar gyfer y Cynllun Morol Cenedlaethol mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith monitro ac adrodd sy'n anelu at integreiddio gofynion ar draws ysgogwyr deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol ac â'r Grŵp Penderfyniadau Cynllunio Morol er mwyn datblygu cyfres o ddangosyddion ac ategu gwybodaeth sylfaenol a gwybodaeth am fonitro gan ddefnyddio'r fframwaith monitro ac adrodd. Bydd angen ystyried yn ogystal yr angen am fonitro mwy manwl o waith gweithredu yn ystod blynyddoedd cyntaf y cynllun

AMP

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol

Bydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn "gyfaill beirniadol" drwy gydol y broses Cynllunio Morol ac yn cynghori ar ffyrdd o fynd ati i ddatblygu cynlluniau morol ac ar ganlyniadau penodol y cynllunio hwnnw, gan gynnwys yr hyn a gynhwysir yn y cynllun. Yn y cyfarfod diwethaf ar Ebrill 2il bu’r grŵp yn trafod cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Datganiadau Ardal, Monitro a Chofnodi’r cynllun, canllawiau gweithredu a phrosiect Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Bydd crynodeb o’r cyfarfod i’w gael yma.

SRG

Prosiect rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol y môr

Er mwyn i gynllunio gofodol mewn perthynas â'r môr fod yn effeithiol, rhaid wrth ddata gofodol o ansawdd uchel y gellir eu defnyddio wrth fynd ati i wneud penderfyniadau. Er mwyn helpu i fodloni'r angen hwnnw, mae'r prosiect 'Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol y Môr', sy'n cael ei ariannu gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru, wrthi'n datblygu'r sylfaen dystiolaeth amgylcheddol ar gyfer ynni ffrydiau llanw, ynni'r tonnau ac adnoddau dyframaethu yn ardal forol Cymru.

EMFF

Roedd prosiect cynharach a gafodd ei gwblhau ym mis Ionawr yn cynnwys gwaith casglu a sicrhau ansawdd setiau data ynghylch amgylcheddau ffisegol, cemegol, biolegol a dynol sy'n berthnasol i rai gweithgareddau morol. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar waith cynharach a bydd yn anelu at ddeall yn well y cyfleoedd gofodol allweddol a'r cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio ynni ffrwd lanw, ynni tonnau a gweithgareddau adnoddau dyframaethu yn ardal forol Cymru. ABPmer sy'n cyflawni'r gwaith hwn, a hynny gyda chymorth MarineSpace, a bydd yn gwella ein dealltwriaeth o ystyriaethau amgylcheddol drwy ddefnyddio data presennol, casglu data newydd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid gydol y broses hon. Caiff pecynnau tystiolaeth eu datblygu er mwyn cyfrannu at waith cynllunio yn y dyfodol. Bydd y gwaith yma'n cynnwys dewis safleoedd ac asesiadau gan ddatblygwyr unigol.

Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES) yn Iwerddon

Gwnaethom fynychu cyfarfod Gweithgor Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr ar Gynllunio Morol a Rheoli Parthau Arfordirol ym mis Ebrill. Fe'i cynhaliwyd gan Sefydliad Morol Iwerddon a daeth cynrychiolwyr o'r Alban, Cymru ac Iwerddon. Gwnaeth y mynychwyr gyflwyno'r diweddaraf ynghylch eu cynlluniau morol a chafwyd sesiynau trafod â myfyrwyr graddau meistr ym maes cynllunio morol o'r brifysgol leol yn Galway ynghylch cynlluniau morol amrywiol y DU.

ICES

Ymgyngoriadau: Mynegi eich barn

Rheoli amgylchedd hanesyddol morol Cymru

Rydym am wybod eich barn ynghylch sut y dylem ddiweddaru'r canllawiau ar reoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol morol. Mae'r amgylchedd hanesyddol morol yn cynnwys asedau treftadaeth; llongddrylliadau ac archaeoleg cynhanesyddol sydd dan ddŵr ac archaeoleg arfordirol a rhynglanwol. ‘Mae Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru' yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â threftadaeth dan y môr ac mae'n cynnig canllawiau ar yr arferion gorau i'w ddiogelu a'i reoli. Mynegwch eich barn erbyn 3 Mehefin 2019.

BEACH

Rhan Un o'r Strategaeth Forol: Asesiad wedi'i ddiweddaru ar gyfer y DU a statws amgylcheddol da

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am dargedau newydd ar gyfer sicrhau statws amgylcheddol da. Mae Strategaeth Forol y DU yn ymdrin ag 11 o elfennau'r ecosystem. Yn 2012, aethom ati yn Rhan Un o'r Strategaeth Forol i bennu targedau ar gyfer sicrhau statws amgylcheddol da. Mae'r ymgynghoriad yn ymdrin â'r asesiad o'r cynnydd a wnaed o ran cyrraedd y targedau hynny. Rydym yn ymgynghori ar:

  • y cynnydd a wnaed o ran cyrraedd y targedau a bennwyd yn 2012 ar gyfer elfennau'r ecosystem;
  • cynigion i ddiweddaru amcanion, targedau a thargedau gweithredol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 a 2024

Mynegwch eich barn erbyn 20 Mehefin 2019

pu

Polisïau morol a physgodfeydd ar gyfer Cymru ar ôl Brexit

Bydd Brexit a'n Moroedd yn llywio ein polisi ynghylch pysgodfeydd yn y dyfodol, a hynny wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wrthi'n ymgynghori ynghylch y cam cyntaf o ran creu polisi newydd, trefn o reoli a deddfwriaeth. Rydym am glywed eich barn chi am y canlynol:

  • rheoli pysgodfeydd
  • pysgodfeydd cynaliadwy
  • cyfleoedd pysgota
  • pysgod cregyn a dyframaethu
  • masnach
  • twf ac arloesedd
  • cynaliadwyedd fflyd
  • tystiolaeth 
  • cymorth ariannol

Mynegwch eich barn erbyn 21 Awst 2019.

brex

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural