CYNNWYS: Canfyddiadau'r Baromedr Busnesau Twristiaeth, Cofrestru â Marchnad Deithio'r Byd, Ymgyrch Gyrfaoedd Twristiaeth, Datblygiad Chartist Tower, Gwasanaeth Cymru'n Gweithio
Pasg Ardderchog yn rhoi hyder am dymor yr haf
Yn ôl canfyddiadau cychwynnol Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, llwyddodd 85% o'r busnesau twristiaeth a holwyd ar gyfer yr arolwg naill ai i sicrhau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y Pasg neu i gynnal y niferoedd hynny.
Roedd y Pasg hwyr yn hwb i'r diwydiant, a llwyddodd traean o’r rheini i ddenu mwy o fusnes, gan ddweud bod y Pasg hwyr wedi cael effaith gadarnhaol o gymharu â Phasg 2018, a oedd yn gynharach. Ymhlith y rheini a welodd gynnydd yn nifer yr ymwelwyr, dywedodd 39% mai ‘tywydd gwell’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin a dywedodd y mwyafrif llethol o’r busnesau (85%) eu bod yn ffyddiog am yr haf.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae'r ffaith bod y diwydiant yn dweud iddo gael Pasg da a'i fod yn llawn hyder am yr haf yn newyddion gwych, wrth gwrs. Ac wrth i bethau'n argoeli'n dda i’r diwydiant, rydyn ni wrthi'n blaengynllunio ac yn ystyried sut gallwn ni wella hyd yn oed yn fwy.
“Yn Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru, lansiais i drafodaeth am yr hyn a fydd yn dod nesa' i dwristiaeth yng Nghymru, wrth i'r strategaeth bresennol, “Partneriaeth ar gyfer Twf” dynnu at ei therfyn yn 2020. Er mwyn gwthio'r cwch i'r dŵr, rydyn ni'n gofyn 10 cwestiwn pwysig a fydd yn helpu i ddatblygu'n blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr. Rydyn ni’n awyddus i glywed barn unrhyw un sydd â diddordeb, p’un a ydych chi’n ymwelydd, yn rhan o'r diwydiant twristiaeth neu’n rhywun sy'n byw yng Nghymru.
“Rydyn ni am ichi ddweud eich dweud am y ffordd rydyn ni'n mynd ati i lunio'n heconomi ymwelwyr, sydd mor bwysig i Gymru. Gyda'n gilydd, gallwn ni ddyfeisio ffyrdd newydd o ddatblygu twristiaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod”. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 31 Mai ac mae'r 10 cwestiwn i'w gweld yma.
Bydd Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad mwy manwl ar yr 17eg a bydd y dystiolaeth honno'n cael ei defnyddio wrth inni fynd ati i ddatblygu'r cynllun gweithredu. Darllen mwy.
Marchnad Deithio'r Byd, 4-6 Tachwedd 2019 – cofrestrwch erbyn 10 Mehefin
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i fasnachwyr teithio rhyngwladol, gan gynnwys trefnwyr teithiau ac asiantaethau teithio? Ymunwch â ni ym Marchnad Deithio'r Byd, y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir ar 4-6 Tachwedd 2019 yn ExCel yn Llundain.
Mae arddangos ym Marchnad Deithio'r Byd yn cynnig cyfle unigryw i gwrdd, rhwydweithio, cyd-drafod a gwneud busnes â mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 o sectorau yn y diwydiant teithio. Rydym wedi sicrhau lle i'r partneriaid yng Nghymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog ym mlaen Neuadd y DU ac Iwerddon.
Cynigir cyfraddau gostyngol ar hyn o bryd ar gyfer pod partner (cymhorthdal o 50% oddi ar gostau cymryd rhan ar stondin i gyflenwyr twristiaeth o Gymru, yn amodol ar reoliad de minimis):
-
Pod Partner Safonol – £2,625 + TAW, os rhoddir cymhorthdal o 50%, yn amodol ar reoliad cymorth de minimis (cost lawn y pod yw £5,250 + TAW)
-
Pod Partner Uwch (Podiau 1 a 2) tuag at flaen y stondin – £2,965 + TAW, os rhoddir cymhorthdal o 50%, yn amodol ar reoliad cymorth de minimis (cost lawn y pod yw £5,930 + TAW)
Y manylion yn llawn a sut i sicrhau eich lle. I sicrhau eich pod, cofrestrwch erbyn 10 Mehefin 2019. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at Tracey Rogers neu ffoniwch 0300 0616093.
Wythnos Twristiaeth Cymru:Dydd Sadwrn 11 – Dydd Sul 19 Mai -
 Fel rhan o'n gwaith parhaus i newid canfyddiadau ynghylch gyrfaoedd yn y Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch, mae Croeso Cymru yn cydweithio â Gyrfa Cymru i gysylltu busnesau ag ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc, athrawon a rhieni o'r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant.
Yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, rydym yn gofyn i fusnesau ac ysgolion gymryd rhan yn ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar @CroesoCymruBus ac @VisitWalesBiz gan ddefnyddio #GyrfaoeddTwristiaeth a #TourismCareers i rannu eu profiadau o gydweithio.
Cadwch olwg am ein trydariadau a fydd yn rhannu ffilmiau ac astudiaethau achos, ac ewch ati i drydar eich profiadau eich hun hefyd, gan ddefnyddio #GyrfaoeddTwristiaeth a #TourismCareers. Hyd yn oed os nad oes gennych stori sy'n ymwneud ag ysgol, mae croeso i chi drydar unrhyw straeon newyddion da sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd yn ein diwydiant.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Twristiaeth Cymru a chofrestru eich digwyddiad eich hun â Chynghrair Twristiaeth Cymru yma. Hefyd, cofiwch ddefnyddio #wythnostwristiaethcymru a #walestourismweek i rannu'r newyddion diweddaraf a lluniau yn y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos.
£2 filiwn i helpu i droi Chartist Tower yn westy o ansawdd uchel
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i'r gwaith sy'n mynd rhagddo i droi'r adeilad uchaf yng Nghasnewydd – Chartist Tower – yn westy pedair seren.
Mae'r pecyn £2 filiwn yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciad gan Croeso Cymru a rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu £100 miliwn o gymorth cyfalaf ledled Cymru ar gyfer prosiectau adfywio dros y tair blynedd nesaf.
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i drawsnewid yr adeilad yn westy pedair seren ac iddo 154 gwely, campfa, sawna, ystafell frecwast a bwyty ar y to sy'n cynnig golygfeydd o'r holl ddinas.
Ystyrir bod y gwaith o ailwampio'r adeilad yn ddatblygiad hanfodol yn y cyfnod nesaf o fuddsoddi ac adfywio yng Nghasnewydd, ac mae mewn lleoliad delfrydol i fanteisio i'r eithaf ar y dwristiaeth sy'n gysylltiedig ag agor y ganolfan confensiynau ryngwladol newydd, ICC Cymru.
Bydd y prosiect yn creu 45.5 o swyddi ac yn cyfrannu at greu 15 arall. Bwriedir i'r gwesty gael ei agor erbyn haf 2019. Bydd y gwaith o ddatblygu'r tŵr hefyd yn cynnwys llawr manwerthu is, cyfleusterau hamdden a swyddfeydd – yn ogystal â bwyty ar y to ar y 15fed llawr. Darllen mwy.
Gwasanaeth Cymru'n Gweithio newydd yn cael ei lansio i helpu rhagor o bobl i gael swyddi
Mae gwasanaeth newydd sy'n darparu gwasanaeth symlach ar gyfer unigolion sy'n chwilio am swydd wedi cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Mae ‘Cymru’n Gweithio’ yn cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru, ac mae’n ceisio cynnig ffordd symlach o ddarparu cymorth cyflogadwyedd i unigolion drwy un pwynt cyswllt lle gallant gael y cyngor arbenigol a'r hyfforddiant, wedi'u teilwra i'r unigolyn, sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i swyddi da, tymor hir, ac i gadw’r swyddi hynny. Darllen mwy.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ym maes twristiaeth a sgiliau
Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf drwy ein dilyn ar Twitter @CroesoCymruBus. Gallwch hefyd ddarllen y newyddion diweddaraf ar dudalennau Twristiaeth gwefan Llywodraeth Cymru a chlywed mwy am gymorth ar gyfer gwella sgiliau ym maes twristiaeth yma.
|