Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 6

3 Ebrill 2019

 
 

Croeso

Dyma chweched rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar byls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rannwch y cylchlythyr hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Y Diweddaraf am y Cynllun

Yn y sylwadau a gyflwynwyd gan randdeiliaid mewn ymateb i ymgynghoriad ar ddrafft yr WNMP (dWNMP), dywedwyd bod angen canllawiau gweithredu manwl a oedd yn wreiddiol yn rhan o'r dWNMP. Fodd bynnag, yn ôl nifer o'r rhanddeiliaid, roedd hyd y canllawiau hynny, a'u cymhlethdod, yn golygu nad oedd polisïau ac amcanion allweddol y Cynllun yn glir.

ree

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid i fireinio fersiwn ddrafft y Cynllun cyn iddo gael ei fabwysiadu, er mwyn ei gwtogi a'i wneud yn haws i'w ddefnyddio. Rydym wedi newid ffurf y Cynllun drafft er mwyn tynnu'r canllawiau gweithredu manwl a'r dystiolaeth sy'n sail iddynt o gorff y testun a'u cynnwys mewn fframwaith ategol. Bydd rhan graidd fyrrach yr WNMP yn cynnwys gweledigaeth, amcanion a pholisïau. Bydd y canllawiau gweithredu yn rhan o gyfres o ganllawiau ategol yr ydym yn eu datblygu gyda mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod y canllawiau yn gallu cael eu diweddaru cyn gynted â'n bod yn dysgu gwersi yn sgil gweithredu'r cynllun. Bydd o gymorth hefyd wrth ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf ar Borth Cynllunio Morol Cymru cyn mynd ati i wneud penderfyniadau. Byddwn yn parhau i ystyried yr angen i archwilio'n annibynnol wrth inni lunio fersiwn derfynol y Cynllun.

Y Porth Cynllunio Morol

Fel rhan o'r broses cynllunio morol, rydym wedi creu Porth Cynllunio Morol sy'n galluogi defnyddwyr i weld ac i ddeall tystiolaeth ofodol sy'n ymwneud â Moroedd Cymru. Wrth inni symud yn ein blaenau i fabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, byddwn yn defnyddio'r Porth i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf y gall y rheini sy'n gwneud penderfyniadau ei hystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth am y Porth i'w gweld yn y fideo esboniadol.

h

Y Camau Nesaf

Ers i'r ymgynghoriad ddod i ben, rydym wedi bod yn gweithio ar gwblhau'r polisïau o fewn y Cynllun a phenderfynu ar ei eiriad gyda mewnbwn wrth amrywiaeth o randdeiliaid. Ar ddiwedd mis Ionawr, cynhaliom gyfarfod i roi adborth i aelodau’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol. Gwnaeth ein rhanddeiliaid groesawu'r drafft newydd a chydnabod y trafodaethau a fu cyn yr ymgynghoriad. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac arweinwyr polisi'r DU i gymeradwyo'r polisïau o fewn y Cynllun a bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn. Wedyn, byddwn yn paratoi cyngor i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a fydd yn cymeradwyo'r cynllun terfynol.

k

Cyfarfod gydag Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol

Gwnaethom gynnal ein hail gyfarfod wyneb yn wyneb â'r awdurdodau cyhoeddus perthnasol a fydd â dyletswyddau mewn perthynas â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, o dan Adran 58 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Gwnaeth y ‘Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol’ gwrdd ar 6 Chwefror, a thrafod canllawiau ar weithredu’r cynllun ac edrych yn fanwl ar y gwaith o ddatblygu astudiaethau achos. Bydd yr astudiaethau achos hyn yn rhoi enghreifftiau ymarferol o'r hyn y gallai'r gwaith o weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei olygu ar gyfer penderfynwyr a datblygwyr. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Gorffennaf. Am ragor o wybodaeth am y grŵp neu os ydych yn credu y dylai eich sefydliad fod yn aelod, ewch i'n tudalennau gwe.

bec

Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru am wybod eich barn chi am sut y dylwn ddiweddaru canllawiau rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol morol. Mae'r amgylchedd hanesyddol morol yn cynnwys asedau treftadaeth; llongddrylliadau, cynhanes sydd dan y dŵr ac archeoleg arfordirol a rhynglanwol. Mae Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â threftadaeth dan y môr ac mae'n cynnig canllawiau ar yr arferion gorau i'w ddiogelu a'i reoli. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud erbyn 3 Mehefin 2019.

d

Datblygu agenda polisi – Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol

Rydym yn edrych ar Strategaeth Gymesur yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol mewn ymateb i ddatblygu agenda polisi a nodir yn y dWNMP. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys gweithdy i edrych ar sicrhau bod dull cymesur yn ymwreiddio wrth weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Elfen allweddol o'r dull hwn fydd parhau i gydweithio gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid y cynllun a byddwn yn edrych ar sut i wneud hyn dros y misoedd nesaf, er enghraifft drwy brosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy a ariennir gan EMFF. Darllenwch fwy am Strategaeth Gymesur yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yma.

df

Ymgysylltu

Gan symud tuag at gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, rydym yn parhau i adeiladu ar ein gwaith ymgysylltu trawsffiniol. Gwnaeth cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru fynychu gweithdai'r Sefydliad Rheoli Morol ar gyfer De-orllewin a Gogledd-orllewin Lloegr yn ystod mis Chwefror. Mae'r cynlluniau hyn yn rhannu ffin â chynllun Cymru ac mae'n bwysig ein bod yn cydweithio yn yr ardaloedd aberol hyn.

Rachel

Am glywed y newyddion diweddaraf am Bysgodfeydd a pharatoi ar gyfer Brexit?

Wrth i'r DU baratoi i ymadael âr UE, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota. Rydym wedi creu bwletin i roi'r newyddion diweddaraf i randdeiliaid ar ba gymorth sydd ar gael, i helpu i baratoi eich busnes a helpu ichi ddeall goblygiadau Brexit i'r diwydiant pysgota yng Nghymru. Cofrestrwch yma.

EU

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://beta.llyw.cymru/cynllunio-morol

Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r tîm.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural