Y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit

15 Chwefror 2019                                                                 Rhifyn 6 

 
 

Croeso

Croeso i chweched rhifyn y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota.

Bydd y bwletin hwn yn;

  • Helpu ichi ddeall effeithiau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
  • Helpu ichi baratoi eich busnes ar gyfer 29 Mawrth 2019 pan fyddwn yn gadael yr UE;
  • Rhoi gwybod ichi pa gymorth sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch busnes fyw gyda'r newid.

Rydym am annog cynifer o bobl â phosibl i gofrestru a-lein ar

https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd 

Wedi'i ohirio o'r 31ain Ionawr

burry port

Mae Sioe Deithiol Porth Tywyn bellach ar 18 Chwefror 2019

Cynhelir y sioe deithiol yng Nghlwb Hwylio Porth Tywyn, SA16 0ER. Bydd y sesiwn yn dechrau am 17:00 ac yn para am hyd at 2 awr. Ni fydd angen ichi gofrestru ymlaen llaw.

Adborth o'r Sioeau Teithiol Pysgodfeydd a Brexit

Diolch i bawb aeth i'r gweithdai ledled Cymru. Dyma'r atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin.   

 

  • A oes unrhyw gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi fel iawndal am fethu pysgota?

Rydym yn ystyried opsiynau cymorth ar draws amrywiol sectorau er ei fod yn annhebygol iawn y bydd unrhyw ymyrraeth gan y llywodraeth yn gallu lliniaru goblygiadau difrifol Brexit heb gytundeb yn gyfan-gwbl.

  • Yn hytrach na defnyddio Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, a oes modd cael person cymwys arall i lofnodi?

Nagoes. Bydd angen i filfeddyg neu swyddog iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol lofnodi Tystysgrifau Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer cynnyrch pysgodfeydd.  

  • Nid yw'r allforion presennol yn cael eu gwirio'n rheolaidd iawn gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, a fydd hyn yn newid?

Bydd angen gwirio popeth a gaiff ei allforio. Mae'n ofynnol gan yr UE i gynnal y gwiriadau hyn, neu gallai'r DU golli ei thystysgrif.  

  • Rwyf yn allforio i nifer o gwsmeriaid, a oes angen Tystysgrif Iechyd Allforio gwahanol ar gyfer pob cwsmer?

Nagoes, mae'n bosibl cyfuno llwythau, ond bydd angen gallu eu holrhain yn llawn (cael sancsiynau swyddogol) o'r safle cynhyrchu neu'r man glanio. Y diwydiant sydd i drefnu hyn yn y dull mwyaf effeithiol.

  • Sut mae tystysgrifau daliadau yn gweithio ar gyfer dalfa gyda nifer o gychod?

Mae pysgotwyr yn llenwi ffurflen tystysgrif dilysu daliad ar-lein ar gyfer pob llwyth o bysgod. Os ydych yn allforio pysgod o nifer o gychod, bydd angen ichi nodi y symiau o bob cwch.

  • Sut fydd y cyflenwyr yn gallu rhannu'r llwyth fesul cwch pan gaiff y cyflenwad ei gyfuno?

Byddwch yn llenwi tystysgrif dilysu dalfa ar-lein ar gyfer pob llwyth o bysgod. Os ydych yn allforio pysgod a ddaeth o nifer o gychod, bydd angen ichi nodi y symiau o bob cwch.

  • Sut fyddai tariffau yn gweithio?

Treth ar fewnforion yw tariff sy'n cael ei dalu i awdurdod tollau y wlad sy'n codi'r tariff. Er bod tariffau yn dreth ar y ffin i'r prynwr, nid y gwerthwr, maent yn ei gwneud yn ddrutach i'r prynwr fewnforio nwyddau i'r wlad, allai gael effaith ar elw yr allforiwr a'r pris sy'n cael ei dalu gan y defnyddiwr.  

  • A oes yn rhaid i fewnforion o Ganada fynd drwy Fan Archwilio ar y Ffin yn yr UE?

Oes, mae Canada yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol i fasnachu gyda'r UE. Mae'n rhaid i allforion o Ganada fodloni rheolau y Farchnad Sengl er mwyn ymuno â'r farchnad Ewropeaidd, ac mae gwiriadau'n cael eu gwneud ar y ffin i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau cynnyrch iawn. Caiff nwyddau o anifeiliaid a phlanhigion eu profi ar safleoedd archwilio ar y ffin, ac mae'n rhaid i nwyddau sy'n cael eu rheoleiddio, megis cemegau, dderbyn caniatâd ymlaen llaw.

Bydd rhagor o gwestiynau ac atebion yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar    

https://beta.llyw.cymru/paratoi-cymru

 

Canllaw cam wrth gam i allforio

Mae'n helpu ichi ddeall y prif gamau sydd angen ichi eu cymryd i barhau i fasnachu gyda busnesau yr UE os digwydd i'r DU ymadael â'r UE heb gytundeb.

 

Y ddeddfwriaeth

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth wedi'i llunio os digwydd 'Brexit heb gytundeb'. Maent yn bwysig gan y byddant yn caniatáu inni barhau i fasnachu â'r UE. Rydym yn bwriadu llunio'r ddeddfwriaeth hon erbyn 29 Mawrth 2019 gan gynnwys;

  • Sicrhau bod deddfwriaeth Cymru a'r DU yn parhau i fodloni gofynion rhyngwladol Confensiwn y CU ar Gyfraith y Môr (UNCLOS). Mae UNCLOS yn pennu'r rheoliadau ar gyfer, ymysg pethau eraill, rheoli pysgodfeydd.
  •  
  • Cynnal safonau morol ac amgylcheddol uchel yn ogystal ac arferion pysgota cynaliadwy.
  •  
  • Sicrhau bod unrhyw gwch bysgota o dramor sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru yn dilyn deddfwriaeth Cymru neu'r DU.
  •  
  • Gweithio gyda'r Gweinyddiaethau Datganoledig ar Fil Pysgodfeydd y DU. Mae'r Bil yn caniatáu inni symud oddi wrth Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE, tra'n cydweithredu gyda'r UE a gwledydd arfordirol eraill ar gynnal stociau pysgod sy'n croesi ffiniau yn gynaliadwy.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am y diwydiant yn cael ei gynnwys yn adran yr amgylchedd ac amaethyddiaeth

Gwefan Paratoi Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Gwefan Paratoi Cymru. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth i'ch helpu i fod yn barod ar gyfer diwrnod 1. https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Y Porthol Brexit

I helpu'ch busnes liniaru'r risgiau ac i nodi'r heriau a'r cyfleoedd, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth i'ch helpu i baratoi.

https ://businesswales.gov.wales/brexit/cy/

Y Cyfryngau Cymdeithasol

twitter

https://twitter.com/wgmin_rural

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn cyfathrebu â diwydiant pysgota Cymru i’w helpu i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd fis Mawrth nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural