Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 5

31 Ionawr 2019

 
 

Croeso

Dyma bumed rhifyn ein cylchlythyr a fydd yn rhoi newyddion i chi am y datblygiadau diweddaraf wrth i ni symud tuag at fabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (WNMP). Wrth i ni baratoi fersiwn derfynol o’r cynllun, a gyhoeddir yn 2019, hoffem glywed eich barn felly mae croeso i chi gysylltu â ni neu rannu’r cylchlythyr hwn gyda’ch rhwydweithiau. Ar gyfer y rhai sy’n cael y cylchlythyr am y tro cyntaf gallwch ddod o hyd i’n hen rifynnau ar y wefan. Mae’r manylion cyswllt ar waelod y cylchlythyr.

Cyfarfod Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol

Yn ystod yr hydref, cynhaliwyd ein sesiwn ymgysylltu gyntaf gydag awdurdodau cyhoeddus perthnasol a fydd â dyletswyddau mewn perthynas â WNMP dan Adran 58 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (2009). Er mwyn helpu’r Awdurdodau Cyhoeddus perthnasol hyn i ddeall eu rôl rydym wedi sefydlu’r Grŵp Gwneuthurwyr Penderfyniadau ar gyfer Cynllunio Morol. Bydd y grŵp yn cyfarfod am yr eildro ym mis Chwefror ac yn trafod canllawiau ar gyfer gweithredu cynlluniau ac astudiaethau achos - a fydd yn rhoi enghreifftiau ymarferol er mwyn helpu’r broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r WNMP. Am ragor o wybodaeth am y grŵp neu os ydych yn credu y dylai eich sefydliad fod yn aelod ewch i’n tudalennau gwe.

MPDMG

Gweithgor Technegol Môr-lynnoedd llanw

O gofio’r adborth ar yr WNMP drafft, penderfynwyd cynnull Gweithgor Technegol er mwyn ystyried y Polisi Môr-lynnoedd llanw a chanlyniadau’r Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd. Fe wnaeth y grŵp gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi ac mae wedi cwrdd sawl tro ers hynny ac wedi bod yn ein helpu i bwyso a mesur y gwahanol ddewisiadau ar gyfer y polisi Ynni Carbon Isel yn WNMP. Diolch i’r grŵp am eu holl waith caled a byddwn yn derbyn eu sylwadau terfynol yn ystod yr wythnos nesaf er mwyn ein helpu i lywio polisi ELC yn yr WNMP.

1

Mynychodd aelodau’r tîm Uwch-gynhadledd Ynni Morol yn Abertawe. Agorwyd y digwyddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog ac roedd rhai o’r prif brosiectau ynni morol yng Nghymru yn bresennol.

Ydych chi am ein helpu i ddatblygu’r gwaith monitro ac adrodd ar gyfer y WNMP?

Mae’r is-grŵp ar gyfer monitro ac adrodd yn chwilio am aelodau newydd, yn enwedig o’r sectorau ynni, diwydiant a Chyrff Anllywodraethol. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob rhyw ychydig fisoedd ac mae rhai o’i dasgau’n cynnwys darparu cyfraniadau gan randdeiliaid mewn perthynas â monitro ac adrodd ar WNMP ar ôl ei fabwysiadu. Cysylltwch â Rebecca am ragor o wybodaeth.  

2

Cyllid er mwyn helpu Cyngor Partneriaeth Cymru i gyflawni ymarfer mapio

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £24,500 i Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) er mwyn ariannu’n rhannol eu Prosiect Mapio Gweithgarwch Cymru. Bydd y prosiect yn mapio’r gweithgarwch cyfredol yn nyfroedd y De-orllewin a bydd yn brosiect cydweithredol ar gyfer rhanddeiliaid wedi’i ddatblygu a’i reoli gan Gyngor Partneriaeth Cymru. Bydd y data diweddaraf a dulliau newydd ar gyfer deall y capasiti cario ac effeithiau ar safleoedd penodedig, yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion allweddol o ran tystiolaeth a nodwyd yn y WNMP drafft. Am ragor o wybodaeth am y prosiect neu i gymryd rhan cysylltwch â Paul neu Alec.

pc

Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs)

Mae’r Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig 2018 - 2023 a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli Rhwydwaith MPA 2018-2019 wedi’u cyhoeddi. Mae MPAs yn ystyriaeth bwysig wrth wneud cynlluniau morol. Roedd y Fframwaith a’r Cynllun Gweithredu’n nodi am y tro cyntaf yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i faterion rheoli’r rhwydwaith MPAs ledled Cymru ar gyfer cynnal a gwella ei gyflwr. Mae Adran 4.1 yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllunio strategol fel rhan o’r gwaith o reoli ein rhwydwaith o MPAs.

cr

Prosiect trawsffiniol

Rydym yn cynnal prosiect er mwyn ystyried arferion cynllunio mewn perthynas ag ardaloedd trawsffiniol wrth ddisgwyl y WNMP cyntaf. Mae cyfarfodydd a gweithdai diweddar â rhanddeiliaid wedi ystyried y ffordd orau y gallwn gefnogi’r gwaith o reoli ardaloedd trawsffiniol a lleihau unrhyw ansicrwydd yn ffiniau ardal y Cynllun Morol. Mae’r prosiect yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu hwnnw a bydd yn sail i’r gwaith cydweithredu a rheoli trawsffiniol.

2

Bydd y prosiect yn cefnogi hyn drwy:

  • adolygu gofynion cynllunio morol trawsffiniol cyfredol;
  • adolygu arferion da mewn perthynas â chynllunio cydgysylltiedig mewn ardaloedd trawsffiniol;
  • asesu cyfleoedd ar gyfer cydweithio;
  • ystyried dewisiadau ar gyfer y dyfodol ar gyfer cynllunio a rheoli yn Afon Dyfrdwy ac Aber Afon Hafren

Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y cynlluniau Saesneg

Bydd y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cynnal cyfres o weithdai wyneb yn wyneb a digwyddiadau ymgysylltu ar-lein ar y broses o ddatblygu nifer o’u cynlluniau. Mae’r cynlluniau ar gyfer y de-orllewin a’r gogledd-orllewin yn rhannu ffin â WNMP. Bydd yr ymgysylltu’n canolbwyntio ar; polisïau drafft o ddewis, testun i gefnogi’r fersiwn ddrafft ar gyfer polisïau gan gynnwys gweithredu; a’r camau nesaf o safbwynt cynllunio morol. Bydd yr ymgysylltu ar-lein ar gael tan 28 Chwefror. Rydym yn cydweithio’n agos â’r MMO er mwyn rhannu arferion da a deall yr hyn y mae cynllunio morol yn ei olygu.

3

Cynhadledd ISMF

Ar 15 Ionawr, mynychodd aelodau’r tîm Cynllunio Morol Fforwm Forwrol Môr Iwerddon a gynhelir bob dwy flynedd yn Adeilad y Pierhead, adeilad eiconig Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r Fforwm gael ei gynnal yng Nghaerdydd ac roedd yn wych gweld pa brosiectau cyffrous eraill sydd ar waith ym Môr Iwerddon. Roedd yr agenda’n cynnwys effeithiau Newid Hinsawdd ar ein harfordir, y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio morol ac ardaloedd morol a ddiogelir. Os nad oedd modd i chi fynychu’r gynhadledd, mae’r cyflwyniadau ar gael ar y wefan.

4

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://beta.llyw.cymru/cynllunio-morol

Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r tîm.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural