Bwletin Gwaith Ieuenctid - Y Gaeaf 2018

  Y Gaeaf 2018

 
 

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Fel y cyhoeddodd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn mis Mawrth 2018, mae gan Gymru Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Bydd y Bwrdd yn cynrychioli pobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddatblygu a chyflwyno’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Hefyd, bydd yn gwneud argymhellion ynglŷn â’r hyn sydd angen ei newid yng Nghymru er mwyn cefnogi model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am y Bwrdd ar gael yma.

Mae’r Bwrdd eisoes wedi cyfarfod yn ffurfiol dair gwaith - 30 Hydref, 16 Tachwedd a 7 Rhagfyr – a bydd papurau a chofnodion y Bwrdd ar gael yma cyn bo hir.

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd – Llais Keith

Er mai dim ond rhai wythnosau yn ôl y cafodd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru ei sefydlu, rydym eisoes wedi cael tri chyfarfod. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r sector mewn ffordd mor agored â phosibl. Tasg y Bwrdd yw datblygu cyfres o gynigion ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac rydym eisiau gwneud hyn trwy gydweithio â sector gwaith ieuenctid unedig. Hefyd, rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle parhaus i lunio gwasanaethau gwaith ieuenctid y dyfodol yng Nghymru.

Byddwn ni’n rhannu ein Cynllun Gwaith yn 2019. Bydd hyn yn cynnwys nifer o ffrydiau gwaith a nodwyd gennym i lywio ein hargymhellion. Bydd pob ffrwd waith yn cael ei harwain gan aelod unigol o’r Bwrdd, a byddwn ni’n chwilio’r sector am unigolion sy’n awyddus i ymuno â gweithgorau er mwyn llywio’r gwaith. Byddwn ni’n rhannu manylion ein presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol cyn bo hir fel bod cyfle i bawb ymgysylltu â’r Bwrdd a dilyn ein cynnydd.

Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon cadarnhaol o gefnogaeth a chymorth sy’n cyrraedd o bob cwr o’r sector. Rwy’n ymwybodol bod cyni wedi cael effaith wirioneddol ar waith ieuenctid a bod amser yn brin i lawer o bobl. Nid oes erioed adeg bwysicach wedi bod o safbwynt gwaith ieuenctid yng Nghymru. Yn ystod cyfarfod diweddaraf y Bwrdd, fe gawsom gyfle i gwrdd â myfyrwyr Ieuenctid a Chymuned ym Mhrifysgol Glyndŵr – a chael ein hysbrydoli ganddynt. Roedd eu hymrwymiad i waith ieuenctid a phobl ifanc yn heintus, ac roedd eu hanesion personol o ymgysylltu â gwaith ieuenctid yn cyfleu gwirioneddau tragwyddol. Roedd eu neges yn glir – mae gwaith ieuenctid yn gallu newid bywydau pobl ifanc er gwell. Mae’r Bwrdd yn benderfynol o sicrhau bod ein cynigion yn seiliedig ar wybodaeth, yn gredadwy ac yn canolbwyntio ar gyflawni o blaid pobl ifanc.

Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid ym mis Chwefror ac yn gobeithio y bydd cynifer ohonoch â phosibl yn gallu ei mynychu er mwyn helpu i lunio’r dyfodol. Fe welwn ni chi yno!

Keith Towler

Cadeirydd – Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru a Prifysgol Glwyndwr

Dewch i Drafod Gwaith Ieuenctid – Arolwg Pobl Ifanc

Fel rhan o’i waith, mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ifanc a gwrando ar eu llais. Mae’r Bwrdd eisiau deall beth sy’n bwysig i bobl ifanc, sut maent yn teimlo am y cymorth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, a pha fath o gymorth sydd ei angen arnynt yn y dyfodol.

Mae’r Bwrdd wedi gweithio gyda grŵp o weithwyr ieuenctid i ddatblygu arolwg pobl ifanc a phecyn cymorth. Mae’r Bwrdd wedi gofyn am gymorth y sector trwy ddefnyddio’r adnoddau hyn i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r bobl ifanc y mae’r sector yn gweithio gyda nhw. Cofiwch gysylltu os nad ydych chi wedi derbyn eich copi o’r arolwg neu’r pecyn cymorth. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau’r ymarferiad, neu’n bwriadu gwneud hynny cyn bo hir, byddem yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno’ch dalen adborth, gan goladu a chrynhoi’ch trafodaethau â phobl ifanc, i’r blwch negeseuon e-bost erbyn dydd Llun 14 Ionawr 2019.

Cyllid newydd Llywodraeth Cymru trwy'r Grant Cymorth Ieuenctid

Er mwyn cydnabod cyfraniad allweddol gwaith ieuenctid/gwasanaethau ieuenctid, a’r angen i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael arnynt lle bynnag y maent yn byw, mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol trwy’r Grant Cymorth Ieuenctid yn 2019/20. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnydd 10% yng nghyllideb sylfaenol y Grant Cymorth Ieuenctid, sy’n gwrthdroi’r toriad blaenorol yn 2018/19, er mwyn darparu gwaith ieuenctid a gweithgarwch ymgysylltu ag ieuenctid;
  • cyllid ychwanegol gwerth £2.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl, emosiynol a llesiant ymysg pobl ifanc trwy ddefnyddio dulliau gwaith ieuenctid;
  • cyllid ychwanegol gwerth £3.7 miliwn i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg pobl ifanc trwy waith ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid.

Felly, mae cyfanswm o dros £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith ieuenctid a gweithgarwch ymgysylltu a datblygu ieuenctid a fydd yn helpu i ddiogelu cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc fwyaf agored i niwed. Hysbysir Awdurdodau Lleol am eu dyraniadau cyn bo hir, a disgwylir iddynt weithio gyda phobl ifanc ac amrywiaeth eang o bartneriaid i ddatblygu eu cynlluniau.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Cliciwch yma i weld y llyfryn ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ ar ei newydd wedd.

Cafodd y ddogfen hon ei llunio ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid ac yn weithwyr cymorth ieuenctid, pobl ifanc sydd eisoes yn ymwneud â sefydliadau ieuenctid a’r rhai sydd am ddysgu mwy am sefydliadau ieuenctid.

Cynhyrchwyd ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ ar sail gydweithredol gan gynrychiolwyr y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdod lleol yng Nghymru, ac ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid 2019

Yn dilyn Cynhadledd Gwaith Ieuenctid hynod lwyddiannus yn 2018, cynhelir y gynhadledd flynyddol nesaf ar 20 Chwefror 2019 yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud ganddo, a chlywed am ddatblygiad y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Hefyd, bydd cyfle i glywed gan ymarferwyr gwaith ieuenctid, gan gynnwys enghreifftiau o ymarfer arloesol, a dysgu am y gwaith sydd wedi’i wneud eleni i ddatblygu gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd manylion agenda’r gynhadledd ar gael cyn bo hir, a byddwn yn anfon gwybodaeth am sut i archebu lle maes o law.

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2019 – mae’r broses enwebu ar agor

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu rhagoriaeth o safbwynt prosiectau gwaith ieuenctid, gweithwyr ieuenctid, a’r rhai sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Cynhelir Gwobrau 2019 ddydd Gwener 28 Mehefin, a bydd enwebeion llwyddiannus yn cael gwahoddiad i ddathlu yng Ngwesty’r Cei, Deganwy.

Mae naw categori ar gael: chwech ar gyfer prosiectau a thri ar gyfer unigolion.

Eleni, gofynnir am enwebiadau ar-lein. Cliciwch yma  I gael am ragor o wybodaeth.

Swyddfa Archwilio Cymru – Gyfnewidfa Arfer Da

“Pobl ifanc yn dylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â materion sy’n bwysig iddynt. Sut mae gwneud hynny?”

Mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru, mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal digwyddiad i roi sylw i’r heriau allweddol sy’n wynebu pobl ifanc Cymru. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynllunio a darparu gwasanaethau gyda phobl ifanc er mwyn eu helpu i ymateb i’r heriau hynny. Mae’r heriau hyn wedi deillio o amrywiol ffynonellau pan gynhaliwyd sgyrsiau go iawn gyda phobl ifanc i ofyn am eu safbwyntiau ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.  

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bob sector, ac mae’n addas i bawb sy’n ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau sy’n ceisio cynnwys ac ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon.  

Ble a phryd:

12 Mawrth 2019, 09:30 - 15:30

Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd

28 Mawrth 2019, 09:30 – 15:30

Canolfan Datblygu Gwledig Glasdir, Llanrwst, Dyffryn Conwy

Cofrestru

Gallwch gofrestru yma ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, ffoniwch Sara Woollatt ar 02920 320614 neu anfonwch e-bost.

Y Diweddaraf am y Nod Ansawdd Gwaith Ieuenctid

Llongyfarchiadau i Youth Cymru, sef y sefydliad diweddaraf i ennill Nod Ansawdd Efydd, ac i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen am ennill Nod Ansawdd Arian. Y dyddiad nesaf i wneud cais am Nod Ansawdd yw dydd Iau 10 Ionawr.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau arolwg o’n rhanddeiliaid er mwyn canfod eu barn am y Nod Ansawdd, eu rhesymau dros wneud cais i gwblhau proses y Nod Ansawdd/peidio â gwneud cais, a manteision ac anfanteision y broses. Cafodd canlyniadau’r arolwg hwn eu hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol ac arolwg a gwblhawyd gan Atkins Associates sy’n gyfrifol am y Nod Ansawdd. Yn gyffredinol, roedd y canlyniadau’n gadarnhaol o safbwynt effaith ennill y Nod Ansawdd ar sefydliad ac ar unigolion sy’n cofrestru i fod yn Aseswyr. Fodd bynnag, roedd yr adborth yn awgrymu bod yna le i wella, a rhoddir ystyriaeth bellach i’r modd y gellid sicrhau bod y Nod Ansawdd yn fwy cynhwysol i holl adrannau’r sbectrwm gwaith ieuenctid, ac yn fwy hygyrch i sefydliadau bach sydd ag adnoddau cyfyngedig. Bydd y broses o ystyried sut y gallwn roi’r canfyddiadau hyn ar waith yn cychwyn ar unwaith.  

Yn y cyfamser, nid oes unrhyw fwriad rhoi’r gorau i gynnal y Nod Ansawdd, ond fe all newid yn y dyfodol. Mae’r contract presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2019, a bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal proses dendro agored wedyn. O ganlyniad, bydd ychydig o oedi rhwng diwedd yr hen gontract a dechrau’r contract newydd wrth i waith cynllunio’r model newydd fynd rhagddo. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r blwch negeseuon e-bost.

Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd ac ERASMUS+

Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd – Trosolwg

Beth yw’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd?

Mae’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yn fenter newydd gan yr Undeb Ewropeaidd i ddod â phobl ifanc at ei gilydd er mwyn creu cymdeithas fwy cynhwysol, cefnogi pobl sy’n agored i niwed ac ymateb i’r heriau sy’n wynebu cymdeithas ledled y cyfandir. Mae’n ariannu cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli neu weithio yn eu gwlad eu hunain neu dramor.

Mae’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yn targedu pobl ifanc rhwng 18 a 30 oed yn bennaf. Mae sefydliadau o bob maint yn y DU yn gallu gwneud cais, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol a chyrff anllywodraethol bach sy’n gweithio mewn cymunedau, yn cefnogi gweithredu cymdeithasol ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.   Hefyd, gall pobl ifanc eu hunain wneud cais am fathau penodol o gamau gweithredu a gefnogir gan y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yma.

ERASMUS+

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Ei nod yw hyrwyddo sgiliau a chyflogadwyedd, moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid, a hyrwyddo arloesi, entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd ledled Ewrop. Mae gan y rhaglen gyllideb o tua €14.7 biliwn (£12 biliwn) ledled Ewrop sy’n helpu dros bedair miliwn o bobl i astudio, hyfforddi, ennill profiad gwaith neu wirfoddoli dramor. Un sefydliad sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid o dan y rhaglen hon yw Clybiau Bechgyn a Merched Cymru.

ERASMUS+ ar waith – YMGYRCHU YN ERBYN XENOCIDE – Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Yn ddiweddar, mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru wedi cymryd rhan ym mhrosiect Erasmus+ 'Ymgyrchu yn erbyn Xenocide'. Mae’r prosiect yn seiliedig ar gyfarfod ieuenctid rhyngwladol yn trafod mudo i Ewrop (ac o fewn Ewrop) heddiw ac yn y gorffennol. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gweithdai ar Hunaniaeth a Mudo, Ffilm, Ffotograffiaeth, Hanes a Hawliau Dynol. Yn gynharach eleni, ymwelodd tri aelod o staff â Krzyzowa yng Ngwlad Pwyl ar gyfer cynhadledd Gweithwyr Ieuenctid, ac ar ôl hynny fe gawsant gyfle i fynd â grŵp o bobl ifanc i fynychu’r Gyfnewidfa Ieuenctid (neu gyfarfod ieuenctid) ym mis Hydref. Fe aeth Cathryn Evans, Cydgysylltydd y Prosiect, â phedwar o bobl ifanc i gymryd rhan yn y Cyfarfod Ieuenctid yng Ngwlad Pwyl. Gydol yr wythnos, fe gawsant gyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant, gweithdai a seminarau rhyngddiwylliannol yn ymwneud â gwleidyddiaeth, treftadaeth a mudo, ac fe gawsant hyfforddiant ym meysydd ffilm a ffotograffiaeth. Hefyd, cawsant gyfle i gyflwyno ffilm fer ar brosiect yn ymwneud â Brexit a Chymru. Roedd y cyfarfod ieuenctid yn gyfle ardderchog i bobl ifanc o Gymru gyfarfod â phobl ifanc eraill o chwe gwlad arall o leiaf, gan gynnwys Gwlad Groeg, Macedonia, Serbia, Gwlad Pwyl, Estonia a’r Almaen. Roedd rhai o’r unigolion hyn yn ffoaduriaid, neu wedi bod yn ffoaduriaid ar ryw adeg o’u bywydau. Dyma ymateb y bobl ifanc pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio eu profiad o’r prosiect mewn pum gair:

“Cyfle i ehangu fy ngorwelion.”

“Cynhwysol, Diddorol, Deniadol, Hapus, Da.”

“Ymwybodol, Syndod, Rhyfeddod, Diolchgar, Parch.”

“Teimlo’n rhan o rywbeth mwy.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru trwy eu gwefan.

Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal nifer o ymgynghoriadau ar hyn o bryd a all fod o ddiddordeb i chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod:

Cysylltu cymunedau – Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd sef ‘Cysylltu cymunedau - Mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol’. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn sefydliadau ac unigolion ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael yn effeithiol ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, gan gynnwys mynediad i wasanaethau. Felly, mae’n bwysig clywed barn y sector ieuenctid. Mae’r Ymgynghoriad yn dod i ben ar 15 Ionawr 2019, felly cofiwch gyflwyno ymateb.

Datganiad Ysgrifenedig: Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft

Mae’r ymgynghoriad ar y Cod ADY drafft a’r rheoliadau arfaethedig yn fyw.

Bydd y fframwaith deddfwriaethol newydd yn helpu i wella gwaith cynllunio a darparu #ADYCymru. Er mwyn sicrhau bod y Cod yn arwain at y deilliannau dymunol ar gyfer dysgwyr o bob math ag ADY, mae angen i ni glywed eich safbwyntiau.

Ewch i’r wefan i leisio’ch barn.

Canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae’n awyddus i annog pobl ifanc i gyfrannu at yr ymgynghoriad ac mae wedi creu fersiwn sy’n addas i bobl ifanc. Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc sydd am gyfrannu at yr ymgynghoriad o bosibl, cofiwch roi’r manylion iddynt a’u hannog i leisio eu barn. Mae’r ymgynghoriad ar gael yma. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 21 Chwefror 2019.

Cyfrannu at y Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

Oes gennych chi stori i’w rhannu â gweddill y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru? Mae croeso i chi gysylltu gyda manylion y stori, pam y mae’n enghraifft o arfer da yn eich barn chi, a pham y dylem ei rhannu yma. Gadewch i ni ddathlu’ch gwaith rhagorol!

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: