Croeso i ail rifyn y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota. Does neb yn gwybod eto beth fydd y trefniadau masnachu ac allforio newydd, ond rydyn ni am i'r bwletin hwn:
- eich helpu i ddeall effeithiau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
- eich helpu i baratoi'ch busnes ar gyfer 30 Mawrth 2019 pan fyddwn ni wedi gadael yr UE;
- rhoi gwybod ichi ba gymorth sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch busnes i wneud y newid.
Bydd hwn yn fwletin rheolaidd a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Cofiwch ddarllen pob rhifyn i gadw'ch bys ar byls pethau.
Rydym eisiau annog cynifer o bobl â phosibl i gofrestru ar-lein yn
https://gov.wales/news-alerts/?lang=cy
Allforio i’r UE? Cofrestrwch gyda’r ASB/DEFRA erbyn 12 Rhagfyr 2018
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datgan bod angen i unrhyw gwmni sydd am allforio pysgod cregyn i’r UE ar ôl 29 Mawrth 2019 gofrestru gyda’r ASB/DEFRA.
Rhaid cofrestru erbyn 12 Rhagfyr 2018. E-bostiwch Swyddog Prosiect Rhestri’r EU: eulistings@food.gov.uk
|
|
|
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd £7.5 miliwn ar gael i helpu busnesau Cymru i adeiladu gwydnwch er mwyn ymdopi â heriau Brexit.
Mae’r cyllid yn rhan o Gronfa Bontio’r UE gan Lywodraeth Cymru sydd werth £50 miliwn, a fydd yn cael ei defnyddio dros y tair blynedd nesaf i helpu cwmnïau i ddatblygu’r arbenigedd a’r prosesau gofynnol i’w helpu i ffynnu ar ôl Brexit.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut mae busnesau’n gallu gwneud cais am eu cyfran o’r cyllid yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
|
|
|
Cymorth yn ystod Brexit
Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer Ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu digwyddiadau ymgysylltu i rannu gwybodaeth a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau.
Dyma’r dyddiadau:
Gogledd Cymru: 16 a 17 o Ionawr
Gorllewin Cymru: 22, 23, a 24 o Ionawr
De Cymru: 30 a 31 o Ionawr
Lleoliadau ac amseroedd i’w cadarnhau yn fuan.
A yw’ch busnes yn barod ar gyfer Brexit?
Ydych chi’n gwybod beth sydd angen i chi ei wneud i baratoi’ch busnes ar gyfer Brexit? Mae Porthol Brexit Busnes Cymru wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar faterion pwysig amrywiol, gan gynnwys masnachu.
Mae’n helpu’ch busnes i nodi i ba raddau y mae’n barod am Brexit. Mae’n argymell camau gweithredu posibl i wella gwydnwch eich busnes. Hefyd, mae’n darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth.
Dyma’r ddolen
https://gov.wales/newsroom/businessandeconomy/2018/180925-new-brexit-portal-to-support-business/?skip=1&lang=cy
Gwybodaeth arall:
Cyllid ar gyfer busnesau
https://gov.wales/newsroom/businessandeconomy/2018/181024-7.5m-to-help-business-prepare-for-brexit/?skip=1&lang=cy
|