Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 4

10 Rhagfyr 2018

 
 

Croeso

Dyma pedwerydd rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar byls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rannwch y cylchlythyr hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Crynodeb o'r flwyddyn

Cafodd ein hymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei lansio yr amser hwn y llynedd. Gwnaethom gynnal nifer o ddigwyddiadau galw heibio lleol i gyd-fynd â'r ymgynghoriad hwn a gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig arwain dadl yn y Senedd. Cawsom dros 80 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Deilliodd nifer o themâu allweddol o'r ymgynghoriad a gwnaethom dreulio misoedd yr Haf yn eu hystyried mewn rhagor o fanylder gydag aelodau o'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG).

beach

Gwnaethom sefydlu Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol ac rydym yn cydweithio â'r grŵp hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi awdurdodau cyhoeddus y bydd gofyn iddynt wneud penderfyniadau'n unol â'r cynllun pan ddaw i rym. Rydym hefyd wedi cyhoeddi'n ddiweddar gwestiynau cyffredin. Byddwn yn cyfarfod â'r MPSRG yr wythnos hon ac yn trafod â nhw ein cynigion o safbwynt galluogi adborth terfynol ynghylch ein dull. Bydd hyn yn sail i benderfyniadau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y camau nesaf ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

dolphin

Wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben hoffem ddiolch i bob un ohonoch am eich adborth a'ch mewnbwn sydd wedi ein helpu i ddatblygu'r cynllun cenedlaethol cyntaf ar gyfer ein moroedd. Hoffem ddiolch yn arbennig i aelodau'r MPSRG am eu hymrwymiad a'u hamser wrth i ni lywio ein dull. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall lwyddiannus ac at groesawu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2019.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

coasteering

Cadeirydd WMAAG, Peter Davies, yn rhannu ei farn ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Fel cadeirydd annibynnol Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol (WMAAG) dros y 5 mlynedd diwethaf, mae gen i farn ar ddatblygiad Cynllun Morol Cymru. Bu’r broses o ddatblygu’r Cynllun yn un hir, gan fynd yn ôl i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Nod y cynllun yw cyflwyno fframwaith ar gyfer datblygu ein hamgylchedd morol mewn ffordd gynaliadwy, gan hwyluso rheolaeth well o’r galw cynyddol ar ein moroedd, a darparu cyfeiriad ar gyfer beth rydym eisiau ei gyflawni ar gyfer ein hardal forol.

Peter

Gan fod y broses ddatblygu’n hir, mae llawer o’r gwaith yn hŷn na’n fframwaith deddfwriaethol newydd. Fodd bynnag, dylai cyhoeddi fersiwn derfynol y cynllun yn ystod haf 2019 adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn llawn. Bydd y cyhoeddiad hwn yn gam cyntaf proses hirdymor o ddatblygiad morol ac yn gam olaf cyfnod hir o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ddylunio’r cynllun. Rhagor o wybodaeth 

Sut bydd Deddf yr Amgylchedd a Chynllunio Morol yn gweithio law yn llaw?

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cynnig fframwaith newydd i gefnogi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) yng Nghymru. O dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i hwyluso cyflawni Polisi Adnoddau Naturiol Gweinidogion Cymru. Mae Cynllunio Morol yn offeryn newydd a fydd yn sicrhau dull mwy integredig o wneud penderfyniadau am weithgareddau sy’n digwydd mewn amgylchedd morol. 

nrw

Yn yr haf, buom yn cyfarfod gyda rhanddeiliaid i drafod rhyngweithiadau’r ecosystem ac SMNR yng nghyd-destun y cynllun, ynghyd â’r cysyniad o Ardaloedd Adnoddau Strategol. Trwy ddatblygu’r trafodaethau hyn ymhellach, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan sut bydd cynllunio morol a Deddf yr Amgylchedd yn gweithio ar y cyd i gefnogi cynllunio a rheoli adnoddau morol Cymru yn gynaliadwy. Darllenwch i wybod mwy.

Monitro a Chofnodi'r Cynllun

Ers yr haf rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol i roi cyngor ac i fonitro ac adrodd yn ôl ar y Cynllun Morol Cenedlaethol. I gefnogi'r gwaith hwn, rydym wedi trefnu contract: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: Nodi y prif ddangosyddion i lywio datblygiad fframwaith fonitro a chofnodi integredig. Y nod yw comisiynu cyfres o ddangosyddion enghreifftiol, fydd yr is-grŵp Monitro a Chofnodi yna'n eu hystyried wrth inni ddatblygu fframwaith monitro a chofnodi ar gyfer y Cynllun Morol. Bydd y prosiect yn dod i ben ar ddiwedd Ionawr 2019.

Monitoring

Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn amlinellu ei uchelgais ar gyfer ynni morol yng Nghymru

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi amlinellu uchelgais Cymru i arwain ar ddatblygu ynni morol. Traddodwyd y brif araith ganddo yng nghynhadledd ac arddangosfa Ynni'r Môr Ewrop yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, ble y bu Llywodraeth Cymru yn cynnal stondin fasnach gydag 16 o gwmnïau o Gymru. Darllenwch fwy yma

Fin

Ystyriaethau ar draws ffiniau

Aeth cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i Bartneriaeth Dalgylch Llanw'r Ddyfrdwy a chynhadledd flynyddol Partneriaeth Aber Hafren. Rhoddodd Rachel Mulholland a Stacey Clarke gyflwyniad ar y cyd gyda'r Sefydliad Rheoli Morol ar ddatblygiadau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, cynllunio morol, cysylltu ar draws ffiniau a sut y mae'r adborth ar y Cynllun Morol yn cael ei gynnwys yn y cynllun terfynol. Roedd ymateb positif yn y ddau ddigwyddiad i'r Cynllun Morol, gyda cwestiynau ar weithredu'r cynllun yn bennaf.

Post it

Fforwm Morol Môr Iwerddon

Ym mis Hydref cynrychiolodd Patrick Cowdy, y Swyddog Polisi Cynllunio Morol Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod cyntaf grŵp llywio Fforwm Morol Môr Iwerddon (ISMF) a Chanolfan Môr Iwerddon yn Ynys Manaw. Roedd y cyfarfod, a oedd yn cynnwys adrannau eraill y Llywodraeth, yn ystyried sut y gallai'r ddau sefydliad gydweithio i gynnal a sicrhau cadwraeth ym Môr Iwerddon. Yn ogystal â'r grŵp llywio roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd gyda nifer o'r prif randdeiliaid ac ymweliadau ag amrywiol safleoedd o bwysigrwydd i Fôr Iwerddon.

Pat

Mae'r ISMF yn cynnal eu cynhadledd bob yn ail blwyddyn yng Nghaerdydd ar 15 Ionawr. Daw y digwyddiad â rhanddeiliaid ledled Môr Iwerddon i ddysgu a thrafod y materion sydd o ddiddordeb cyffredin ar hyn o bryd. Cewch wybod mwy a chofrestru yma.

Cyhoeddi Gwahoddiad i Dendro

Cyhoeddwyd gwahoddiad i dendro am gytundeb i gwblhau ail gyfnod prosiect ‘Rheoli adnoddau naturiol morol yn gynaliadwy’. Mae’r gwahoddiad ar gael ar Sell2Wales/eTender Wales/OJEU, a’r dyddiad cau yw 17 Rhagfyr 2018.

EMFF

Am glywed y newyddion diweddaraf am Bysgodfeydd a pharatoi ar gyfer Brexit?

Wrth i'r DU baratoi i ymadael âr UE ar 29 Mawrth 2019, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota. Rydym wedi creu bwletin i roi'r newyddion diweddaraf i randdeiliaid ar ba gymorth sydd ar gael, i helpu i baratoi eich busnes a helpu ichi ddeall goblygiadau Brexit i'r diwydiant pysgota yng Nghymru. Cofrestrwch yma.

EU

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://beta.llyw.cymru/cynllunio-morol

Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r tîm.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural