Bwletin Pysgodfeydd a Brexit - Rhifyn 1

22 Tachwedd 2018

 
 

Croeso

Croeso i rifyn cyntaf y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota. Does neb yn gwybod eto beth fydd y trefniadau masnachu ac allforio newydd, ond rydyn ni am i'r bwletin hwn:

  • eich helpu i ddeall effeithiau Brexit ar y diwydiant pysgota yng Nghymru;
  • eich helpu i baratoi'ch busnes ar gyfer 30 Mawrth 2019 pan fyddwn ni wedi gadael yr UE;
  • rhoi gwybod ichi ba gymorth sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch busnes i fyw gyda'r newid.

Bydd hwn yn fwletin rheolaidd a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wrth i bethau ddod yn gliriach. Cofiwch ddarllen pob rhifyn i gadw'ch bys ar byls pethau.

Allforio i'r UE

Mae Llywodraeth Cymru'n pwyso am fynediad dirwystr i farchnadoedd yr UE pan fyddwn ni'n gadael ym mis Mawrth 2019. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n bwysig iawn i'n diwydiant pysgota gan fod 80% o'n hallforion yn mynd i'r UE. Hyd yn oed os cawn fynediad dirwystr, efallai y bydd gofyn i'ch busnes gadw at drefniadau newydd. Byddwn yn rhoi gwybod ichi am y trafodaethau ac unrhyw drefniadau newydd.

fish

Tystysgrifau

Os bydd yn rhaid gadael yr UE heb gytundeb, byddwn yn 'drydedd wlad', fel y cawn ein galw. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid cael tystysgrifau a dogfennau i allforio cynnyrch i'r UE, gan gynnwys Tystysgrifau Daliadau Allforio a Thystysgrifau Iechyd Allforio.

boat

Allforio cregyn moch i Dde Corea

Rydyn ni'n allforio cregyn moch o dan gytundeb masnachu rhwng yr UE a De Corea. Mae hynny'n golygu nad oes tariffau i'w talu. Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd y DU yn colli manteision y cytundeb hwn. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gofyn i Dde Corea am gael trafod un newydd. Os na fydd modd cael cytundeb, bydd yn rhaid inni gadw at ba drefniadau bynnag y gellir cytuno arnyn nhw; er enghraifft, efallai y bydd tariffau ar ein hallforion.

whelk

Rhannu gyda’ch rhwydweithiau

Os oes gennych cydweithwyr neu rwydweithiau yr ydych yn meddwl fyddai â diddordeb mewn derbyn y bwletin hwn bydd angen iddyn nhw gofrestru ar wefan Cymru a’r Mor.

marine wales

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Bydd y cysylltiadau isod yn darparu gwybodaeth bellach i’ch helpu i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn cyfathrebu â diwydiant pysgota Cymru i’w helpu i baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd fis Mawrth nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural