Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 3

29 Hydref 2018

 
 

Croeso

Dyma trydydd rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar byls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rannwch y cylchlythyr hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Ers inni gyhoeddi'r rhifyn cyntaf, mae nifer y tanysgrifwyr wedi treblu. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Y Diweddaraf am y Cynllun Morol

Hoffai'r tîm cynllunio morol ddiolch i'n rhanddeiliaid am fod mor barod eu cymorth ac am roi cyngor ar gynllunio morol yng Nghymru ar ôl y broses ymgynghori. Ers cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion, rydym wedi cynnal nifer o weithdai a chyfarfodydd dilynol. Gan edrych i'r dyfodol, rydym yn ystyried yr opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r drafft ymgynghori.

mp

Er enghraifft, dyma rai o'r ffyrdd o fireinio’r cynllun rydym wrthi’n eu hystyried:

  • symud deunydd nad yw'n ddeunydd craidd i atodiadau neu i ddogfennau ategol er mwyn gwneud y cynllun yn fyrrach ac yn llai cymhleth;
  • nodi'n gliriach sut y mae Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gweithio'n ymarferol;
  • gwneud y diffiniad o Dwf Glas yn fwy clir;
  • cyflwyno set gytbwys o bolisïau cynllunio yn well er mwyn cefnogi datblygu cynaliadwy.

Wrth inni barhau i fynd drwy'r ymatebion a mireinio’r drafft, byddwn yn parhau i ystyried yr angen am ymchwiliad annibynnol.

Adolygu'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd

O dan Atodlen 6 i Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (DMMA), mae gofyn inni baratoi a chynnal Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd (DGC) sy'n nodi sut rydym yn bwriadu galluogi pobl a sefydliadau i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun morol, gan gynnwys yr amserlen arfaethedig. Cyhoeddwyd y DGC cyntaf yn 2001 ac fe'i diweddarwyd ym mis Ionawr 2017. Rydym wedi'i ddiweddaru unwaith eto i ddangos yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma a rhai o'r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal wrth inni fwrw ymlaen i gwblhau Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2019.

spp

Gweithgor Technegol ar Forlynnoedd Llanw

O ystyried y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i fersiwn ddrafft y Cynllun Morol, rydym wedi sefydlu Gweithgor Technegol i ystyried y Polisi ar Forlynnoedd Llanw a chanlyniadau'r Arfarniad Cynaliadwyedd a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â chefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe, aeth Gweinidogion Cymru ati unwaith eto i gadarnhau eu bod yn cefnogi ynni'r môr yng Nghymru a'u bod yn dymuno cynnal momentwm cadarnhaol y sector.

tl

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal uwchgynhadledd ar ynni'r môr yn ddiweddarach eleni a bydd gwaith y Gweithgor Technegol yn dylanwadu ar y trafodaethau bryd hynny ac ar y polisi terfynol yn y Cynllun Morol. Mae fersiwn ddrafft y Cynllun yn nodi bod gan Gymru gryn botensial o ran ynni adnewyddadwy o’r môr ac y gallai hynny arwain at amrywiaeth eang o fanteision. Mae hefyd yn pwysleisio bod yn rhaid i brosiectau fod yn rhai cynaliadwy ac na ddylent gael effeithiau annerbyniol ar ein hamgylchedd.  

Prosiect rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol y môr

Er mwyn i gynllunio gofodol mewn perthynas â'r môr fod yn effeithiol, rhaid wrth ddata gofodol o ansawdd uchel y gellir eu defnyddio wrth fynd ati i wneud penderfyniadau. Er mwyn helpu i fodloni'r angen hwnnw, mae'r prosiect 'Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol y Môr', sy'n cael ei ariannu gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru, wrthi'n datblygu'r sylfaen dystiolaeth amgylcheddol ar gyfer ynni ffrydiau llanw, ynni'r tonnau ac adnoddau dyframaethu yn ardal forol Cymru. Mae'r prosiect yn edrych yn benodol ar sut gallai defnyddio'r adnoddau hyn effeithio ar ardaloedd morol gwarchodedig ac ar rywogaethau a chynefinoedd sensitif eraill.

tg

Mae’r gwaith ar gam cyntaf y prosiect yn mynd rhagddo ac mae ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2019. Bydd mapiau o gwmpas data, haenau o ddata gofodol, adolygiad o'r dystiolaeth, ac adroddiad ac ynddo argymhellion ar sut i fynd i'r afael â bylchau yn y dystiolaeth, ar gael bryd hynny. Rhagor o wybodaeth

€4.3m o gyllid yr UE i gynllun arsylwi morol Iwerddon Cymru

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi €4.3m o gyllid yr UE i ddatblygu systemau monitro morol uwch ym Môr Iwerddon. Bydd y prosiect STREAM (Sensor Technologies for Remote Environmental Aquatic Monitoring) yn dod â phartneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon ynghyd i gael gwell dealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd; gostwng cost arsylwi morol a chyflymu'r broses o ddarparu data. Rhagor o wybodaeth

Mark

£10.3m o gyllid yr UE yn rhoi hwb i sector technoleg y môr yng Nghymru

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi gwerth £10.3m o gyllid yr UE i'r sector technoleg y môr wrth iddo ymweld â Doc Penfro. Bydd cyllid yr UE yn helpu i ddylunio a phrofi teclyn i'w osod o dan y môr i gynhyrchu symiau mawr o drydan o'r tonnau - gan arwain y ffordd i'r datblygwyr, Bombora Wave Power Europe adeiladu a masnacheiddio'r dechnoleg o'r ganolfan yn Sir Benfro. Disgwylir i'r prosiect gwerth £15m greu hyd at 20 o swyddi medrus yn y De-orllewin, gan gefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd i gymunedau yn Sir Benfro. Rhagor o wybodaeth

£10

Cynllunio tir

Cynhaliwyd ymgynghoriad am gyfnod o 12 wythnos rhwng 30 Ebrill a 23 Gorffennaf ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Materion, Opsiynau a’r Opsiwn a Ffefrir. Daeth 86 set o sylwadau i law oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol, cyrff cyhoeddus, busnesau, grwpiau diddordeb arbennig a chyrff proffesiynol.

NDF

Mae'r sylwadau hynny'n cael eu hystyried ar hyn o bryd a bydd adroddiad yn crynhoi'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi yn y man. Cam nesaf y gwaith fydd paratoi fersiwn ddrafft o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Bydd rhagor o gysylltu a thrafod â rhanddeiliaid yn ystod y cam hwnnw a byddant yn cael eu cynnwys yn y gwaith. Bydd y Fframwaith yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019 pan gynhelir ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r tîm.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural