Gwybodaeth, Cyngor, Arweiniad

Cael trafferth gweld yr e-bost hwn? Darllenwch yn eich porwr

Busnes Cymru

27 Medi 2018


Cyllid | Dechrau a Chynllunio Busnes | Marchnata | Sgiliau a Hyfforddiant | Syniadau Busnes | TG


Brexit



Porth Brexit Busnes Cymru wedi’i lansio

Mae porth newydd wedi‘i ddatblygu i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit ac i ymateb i newidiadau a heriau’r dyfodol. 

Mae wedi'i ddylunio i roi'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf i gwmnïau ar amrywiaeth o faterion pwysig gan gynnwys masnachu rhyngwladol a chynllunio’r gweithlu.  

Mae hefyd yn cynnwys offeryn diagnostig sy'n helpu busnesau nodi pa mor barod ydynt ar gyfer Brexit, ac yn argymell camau y dylent eu cymryd i wella eu cydnerthedd, ac yn eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol.

Canfod mwy yma....


SMART Productivity

Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam ei rhaglen arloesi lwyddiannus SMART Productivity

Wedi’i lansio’n wreiddiol yn 2015, nod cynllun SMART Productivity, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yw helpu busnesau i gynyddu cynhyrchiant, gwella cynllun y cynnyrch a sicrhau eu bod wedi’u diogelu i’r dyfodol.

Canfod mwy yma....



Export Event Link

Marchnata Digidol

A oes angen hwb ar eich marchnata digidol chi neu ychydig o gymorth?

Cofrestrwch eich busnes am gefnogaeth marchnata digidol am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan gynnwys gweithdy ymarferol gyda chyngor a chanllawiau wedi’i ddilyn gan sesiwn unigol gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol sy’n canolbwyntio ar eich busnes chi. Mae am ddim, mae’n hawdd dechrau arni a gallai gynyddu eich elw.

Cadwch eich lle nawr....



Syniadau Mawr Cymru

Ceisiadau ar agor i Bŵtcamp i Fusnes Syniadau Mawr Cymru

Ydych chi’n 18-25 oed? Yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol ac yn barod i fentro?  

Os ydych chi'n barod am yr her, byddwch yn ehangu'ch gwybodaeth a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ichi allu rhedeg eich busnes. 

Bydd y Bŵtcamp nesaf yn cael ei gynnal yn y Rock UK Summit Centre, Treharris rhwng 16-18 Tachwedd 2018.

Canfod mwy yma....


Export


GwerthwchiGymru

Tudalen Facebook newydd GwerthwchiGymru

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar bopeth  GwerthwchiGymru drwy ddilyn eu tudalen Facebook newydd.  

Os nad ydych ar Facebook, beth am gael golwg ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill Twitter, LinkedIn neu YouTube.

  


Cyllid ecwiti

Pedwar arwydd bod eich busnes yn barod am gyllid ecwiti

Os ydych chi'n fusnes sefydledig, gall cael y cyllid cywir fod yn allweddol i dwf llwyddiannus.  

Ond sut wyt ti'n gwybod pryd mae'ch busnes yn barod i chwilio am ecwiti twf? Rydyn ni'n trafod rhai o'r senarios lle gall cyllid ecwiti fod yr opsiwn cywir i chi.

Canfod mwy yma....



Hunanasesiad

Dyddiad cau cofrestru ar gyfer Ffurflen Dreth Hunanasesiad yw 5 Hydref

Os oes rhaid i chi anfon ffurflen dreth ac ni wnaethoch anfon un y llynedd, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 5 Hydref 2018.

Canfod mwy yma....


Hoffwch ni ar Facebook

Dilynwch ni ar Twitter


Dilynwch ni ar Instagram

Dilynwch ein tudalen LinkedIn