|
Dyma ail rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar byls y datblygiadau diweddaraf a ninnau
ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru
(CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn
siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu
rannwch y cylchlythyr hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth
droed y cylchlythyr.
Trafodaethau
dros yr haf
Mae wedi bod yn brysur arnom yn ystod wythnosau'r haf
wrth inni fynd ati i gyfarfod ag aelodau'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
Cynllunio Morol i drafod nifer o'r meysydd allweddol yng Nghynllun Morol
Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd gweithdai yng Nghyffordd Llandudno ar 4 a 5
Gorffennaf i edrych ar y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg ar ôl yr
ymgynghoriad, a chynhaliwyd gweithdy ar 1 Awst i edrych ar gynllunio morol o
safbwynt Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a'r Dull Gweithredu sy'n
seiliedig ar Ecosystemau.
|
|
|
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd gweithdy i edrych yn
fanylach ar yr Ardaloedd Adnoddau Strategol a nodir yn y cynllun ac ar y
cysylltiad rhyngddyn nhw a'r themâu allweddol. Aed ati hefyd yn ystod y
cyfarfodydd i edrych ar ffurf a chynnwys y Cynllun Morol, ar y dystiolaeth sydd
ar gael ar gyfer cynllunio morol ac ar Dwf Glas. Mae gwaith yn cael ei wneud
hefyd ar y cyd â rhanddeiliaid ar sut i fynd ati i fonitro ac i adrodd. Mae'r
cyfraniadau gwerthfawr hyn gan randdeiliaid yn ein helpu wrth inni fynd ati i
ystyried y camau nesaf. Byddwn yn rhoi golwg gyffredinol ar y ffordd ymlaen yn
y cylchlythyr nesaf.
Ailwampio Cynllun
Morol Cenedlaethol Cymru
At ei gilydd, roedd y rheini a ymatebodd i'r
ymgynghoriad ar y Cynllun Morol, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, yn
croesawu’r Cynllun, gan gynnwys ei fformat. Yn y sylwadau a gyflwynwyd gan randdeiliaid
mewn ymateb i ddrafft cyntaf y Cynllun, dywedwyd bod angen canllawiau
gweithredu manwl, felly aeth swyddogion ati i gynnwys canllawiau o'r fath yn
fersiwn ddrafft y Cynllun Morol. Fodd bynnag, yn ôl nifer o'r
rhanddeiliaid, roedd hyd y canllawiau
hynny, a'u cymhlethdod, yn golygu nad oedd polisïau ac amcanion allweddol y
Cynllun mor glir ag o'r blaen. |
|
|
Rydym wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid
dros yr haf i fireinio fersiwn ddrafft y Cynllun cyn iddo gael ei fabwysiadu,
er mwyn ei gwtogi a'i wneud yn haws i'w ddefnyddio. Mae'n fwriad gennym newid
ffurf y Cynllun drafft er mwyn tynnu'r canllawiau gweithredu manwl a'r
dystiolaeth sy'n sail iddynt o gorff y testun a'u cynnwys mewn fframwaith
ategol.
Bydd y Cynllun craidd yn fyrrach ac yn
canolbwyntio ar y weledigaeth, yr amcanion a'r polisïau, gan ymateb i sylwadau
gan randdeiliaid ar yr angen i'w gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r
wybodaeth allweddol. Bydd y canllawiau gweithredu manwl sydd yn y Cynllun
drafft ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys mewn cyfres o ganllawiau ategol. Bydd
hynny'n caniatáu inni ddiweddaru'r canllawiau mewn da bryd ac ymateb wrth i
amgylchiadau newid. Bydd o gymorth hefyd wrth ystyried y dystiolaeth
ddiweddaraf ar Borth Cynllunio Morol Cymru cyn mynd ati i wneud penderfyniadau.
Y
Porth Cynllunio Morol
Fel rhan o'r broses cynllunio morol, rydym wedi creu Porth
Cynllunio Morol sy'n galluogi defnyddwyr i weld ac i ddeall tystiolaeth
ofodol sy'n ymwneud â Moroedd Cymru. Wrth inni symud yn ein blaenau i
fabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, byddwn yn defnyddio'r Porth i
gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf y gall y rheini sy'n gwneud penderfyniadau ei
hystyried wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth am y
Porth i'w gweld yn y fideo esboniadol.
|
|
|
Cyfarfod
gydag Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol
O dan adran 58 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r
Arfordir (2009), bydd gan Awdurdodau Cyhoeddus penodol ddyletswyddau mewn
perthynas â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru unwaith y bydd yn cael ei
fabwysiadu yn 2019. Bydd yn rhaid i'r awdurdodau hynny sydd â swyddogaethau
rheoleiddio (awdurdodi neu orfodi) wneud penderfyniadau yn unol â'r dogfennau
polisi morol perthnasol (Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a'r Datganiad Polisi
Morol). |
|
|
Er mwyn helpu Awdurdodau Cyhoeddus perthnasol i
ddeall eu rôl yn hyn o beth, cynhaliwyd cyfres o gyflwyniadau gweminar dros y
ffôn yn ystod mis Awst, a bydd cyfarfod dilynol yn cael ei gynnal ddiwedd mis
Medi / ddechrau mis Hydref. Mae'r llythyr sy'n estyn gwahoddiad i'r cyfarfod hwnnw i'w weld yma. Gallwch
gysylltu â ni drwy'r blwch post isod os ydych yn meddwl bod eich sefydliad
chi'n gwneud penderfyniadau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Morol ac yr hoffech
gael rhagor o wybodaeth.
Gweithio
ar draws ffiniau
Cyfrannodd cynrychiolwyr
ar ran Llywodraeth Cymru at y Gweithdy 'Across the Sands of Dee' a drefnwyd gan
Fforwm Arfordir Gogledd Orllewin Lloegr ar gyfer y Sefydliad Rheoli Morol ar 21
Awst. Buont yn siarad hefyd am hynt y gwaith ar Gynllun Morol Cenedlaethol
Cymru. Cymerodd Rachel Mulholland a Lucie Skates (Cyfoeth Naturiol Cymru) ran
mewn sesiynau ar oblygiadau
trawsffiniol enghreifftiau o bolisïau sydd wrthi'n cael eu datblygu yng
Nghynllun Morol Gogledd-orllewin Lloegr
ac ar gysylltu a thrafod â
rhanddeiliaid ar draws ffiniau. |
|
|
Rydym yn parhau i
ddatblygu'n ffordd o weithio ar draws ffiniau ar y môr ac ar y tir. Cyflwynwyd
adborth cadarnhaol am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru gan y rheini a oedd yn
bresennol yn y gweithdy, a hynny oherwydd ei fod yn cydnabod materion
trawsffiniol, a chroesawyd y berthynas waith dda rhwng Llywodraeth Cymru a
chynllunwyr morol y Sefydliad Rheoli Morol.
Polisi
ar echdynnu petrolewm yng Nghymru
Yn dilyn Deddf Cymru 2017, Gweinidogion Cymru,
yn lle Awdurdod Olew a Nwy'r DU, fydd yn gyfrifol o 1 Hydref 2018 ymlaen am roi
trwyddedau i echdynnu petrolewm ar y tir. Rydym yn awyddus ichi ddweud eich
dweud am ein polisi drafft ar echdynnu petrolewm yng Nghymru ac am y
dystiolaeth a fu'n sail i'r polisi drafft hwnnw. Mae gennych tan 25 Medi i gyflwyno'ch ymateb. |
|
|
Cysylltwch a ni
Os oes gennych gwestiynau am y bwletin
hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu
ewch i'n gwefannau:
marineplanning@llyw.cymru
https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i
system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r
tîm.
|
|