|
|
Helpwch pobl
ifanc i gymryd y cam nesaf ar ôl canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch.
Mae’r cyfnod sy’n dilyn canlyniadau arholiadau yn gyfnod tyngedfennol i
bobl ifanc. Mae’n bwysig cynnal trafodaethau gyda nhw a'u rhieni/gofalwyr i’w
helpu i wneud y dewis cywir, beth bynnag fo’r canlyniadau. Am wybodaeth ar yr opsiynau
sydd ar gael, rannwch ddolenni i wefannau
'Ble Nesaf'.
|
|
|
Gall
ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau Safon Uwch, TGAU ac arholiadau eraill
gallu ddod o hyd i gymorth emosiynol drwy ffonio Meic.
|
|
|
Mae Cymwysterau Cymru wedi cynhyrchu trosolwg o'r
canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru eleni. Cliciwch yma i ddarllen hyn
neu’r erthyglau ffocws.
|
Ystyried
pa fenthyciadau a grantiau y gallech eu cael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? Rydym
wedi creu fideo i roi esboniad cyflym a rhwydd i chi. Ewch i'n tudalen
You Tube
Mae pobl
ifanc ar draws y wlad yn meddwl am eu dyfodol a’r opsiynau sydd ar gael iddynt
o ran eu gyrfaoedd. Mae prentisiaethau yn fwyfwy poblogaidd fel llwybr at swydd
dda. Maent yn ffordd o gael hyfforddiant
o safon a chaffael sgiliau penodol-i-swydd, gan weithio tuag at gymwysterau
cenedlaethol ac ennill cyflog ar yr un pryd. Dysgwch fwy am brentisiaethau:
ewch i gyrfacymru.com a chwiliwch am ‘prentisiaethau’.
Os
yw'ch myfyrwyr eisioes wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, ond eu dewis o
gwrs, prifysgol neu choleg wedi newid, bydd angen iddynt roi wybod i Cyllid
Myfyrwyr Cymru. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw i drwy fewngofnodi u'w cyfrif www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Skills Cymru
Yn rhad ac am ddim i’w mynychu,
SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf
Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod
ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.
Ewch i’r wefan i
weld beth sydd ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen ar-lein.
Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen
gwirfoddoli #SkillsShow18.
Mae'r AGAA yn edrych am aelodau ar gyfer ei Grŵp
Rhanddeiliaid a fydd yno i roi gwybodaeth, a hefyd i gefnogi a herio'r Academi
a'i gwaith. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan yr AGAA.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13 Medi.
|