eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 20 Gorffennaf 2018 (Rhifyn 192)

20 GOrffennaf 2018 • Rhifyn 192

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

education - kirsty williams 90 x 90

Kirsty Williams yn canmol ysgolion yn dilyn blwyddyn o ddiwygiadau mawr i'r system addysg yng Nghymru

Kirsty Williams wedi nodi'r hyn a gyflawnwyd drwy genhadaeth genedlaethol Cymru ar gyfer addysg a beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i ddisgyblion, athrawon a rhieni.

education - blog - hannah mathias 90 x90

Diweddariadau blog newydd - Sut y mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymgorffori cymhwysedd digidol ac yn datblygu ei weledigaeth ddigidol

Tests130130

Grant Datblygu Disgyblion (PDG) – Mynediad

Am £125 gallwch brynu gwisg ysgol, offer, pecyn chwaraeon a phecyn ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn. Bydd plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gymwys ar gyfer y grant hwn os ydynt yn mynd i'r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd; mynd i flwyddyn 7 yn ysgol uwchradd; neu'n oed 4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ar gael nawr: Sut oedd yr ysgol heddiw? Canllaw ysgol cynradd i rieni a gofalwyr plant 7 i 11 oed

 

Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol: ymateb y Llywodraeth

Beth yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn ar sut mae ysgolion yn datblygu eu cymhwysedd digidol
Gallwch ddarllen adroddiad llawn Estyn ar ei gwefan

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2018 ar gael nawr i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’, allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar wefan Dysgu Cymru.

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol. 

Dyddiadau Profion Cenedlaethol 2019

Ysgolion cynradd: Dydd Mawrth 7 Mai – Dydd Mawrth 14 Mai
Ysgolion uwchradd: Dydd Llun 29 Ebrill – Dydd Mawrth 14 Mai

Yr Ysgrifennydd Addysg yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf

Ymunodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams â phlant yn Llyfrgell Merthyr Tudful heddiw i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Tim Peake yn ymuno â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gyhoeddi £7.2m i annog merched i astudio pynciau STEM

Tim Peake yn ymuno â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gyhoeddi £7.2m i annog merched i astudio pynciau STEM

Cynhadledd Dyfodol Ymchwil Addysg yng Nghymru, Caerdydd, Tachwedd 14, 2018

Bydd y digwyddiad hwn yn darparu llwyfan cyffrous ar gyfer y gymuned addysg i drafod y weledigaeth ar gyfer addysgu ar sail ymchwil a thystiolaeth yng Nghymru. Trefnwyd  gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain; mwy o fanylion i ddilyn yn fuan.

Gwobrau Dewi Sant – Ydych chi’n adnabod enillydd nesaf y wobr Person Ifanc?

Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.

Ydych chi’n adnabod person ifanc sy’n ysbrydoli neu grŵp o bobl ifanc talentog dan 19? Enwebwch nawr! 

Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2019.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sector Addysg a Sgiliau sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad  erbyn 30 Gorffennaf 2018. Er mwyn cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cysylltwch â David.Gardiner@gov.wales

Hwb ac ADNODDAu arall

Taflen nodweddion newydd Hwb

Mae rhai newidiadau mawr wedi'u gwneud i Hwb yn ddiweddar. Mae'r daflen hon yn crynhoi'r newidiadau a gellir ei ddosbarthu i aelodau staff yr ysgol. 

Her Haf Mathemateg j2blast

Mae j2e yn lansio her arbennig ym maes mathemateg i gynnal sgiliau mathemateg meddwl dysgwyr yn ystod gwyliau’r haf. 

Newyddion arall

EBSCO: ymchwil a adolygir gan gymheiriaid ar flaenau’ch bysedd

Yr wythnos hon, rydym yn dangos i chi sut y gallwch ddefnyddio'ch cyfrif EBSCO am ddim i ddod o hyd i ymchwil i gefnogi eich datblygiad proffesiynol trwy'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol CGA. Byddwn yn dangos i chi yr offer sydd ar gael yn EBSCO i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi.

Grŵp Rhanddeiliaid yr Academi Genedlaethol at gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Mae’r AGAA yn edrych am aelodau ar gyfer ei Grŵp Rhanddeiliaid a fydd yno i roi gwybodaeth, a hefyd i gefnogi a herio’r Academi a’i gwaith. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13 Medi. 

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ail-lansio Ymgyrch Ysgol Gynradd ‘Shoctober’

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymweld ag ysgolion cynradd ledled Cymru yn ystod mis Hydref i hyrwyddo ‘Shoctober’. Ymgyrch sy’n anelu at addysgu plant ysgol iau sgiliau achub bywyd. Bydd disgyblion yn dysgu am CPR, ystum adferol, diffibrilwyr a sut i ddelio â rhywun sy’n tagu.

Mae lleoedd yn gyfyngedig. Am wybodaeth bellach ewch i’r adran cymorth cyntaf ac argyfyngau yma www.ambulance.wales.nhs.uk/theroom

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales/educationmissionwales

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

HWB

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews