Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 1

Gorffennaf 2018 - Rhifyn 1

 
 

Croeso

Dyma rifyn cyntaf newyddlen i gadw'ch bys ar byls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun i'w gyhoeddi yn 2019, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rannwch y newyddlen hon â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y newyddlen.

Golwg ar CMCC

Mae'r moroedd o amgylch Cymru yn llenwi. Mae yna gystadlu am le ac am gael defnyddio'n hadnoddau naturiol. Mae potensial anferth i'n moroedd ac rydyn ni am eu rheoli mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a threfnus. Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (MCAA) sy'n ei gwneud yn ofynnol inni gynhyrchu cynllun morol ar gyfer pob ardal cynllun morol. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer glannau a moroedd Cymru a bydd CMCC yn gynllun 20 mlynedd ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy. Rydyn ni wedi paratoi animeiddiad  i helpu i esbonio'r broses cynllunio morol.

Animation

Ymgynghori ar y cynllun draft

Ar 7 Rhagfyr, lansion ni ymgynghoriad 16 wythnos ar Gynllun Morol Cenedlaethol drafft Cymru a nifer o ddogfennau ategol gan gynnwys: trosolwg o'r 'cynllun', asesiad o reoliadau cynefinoedd, asesiad o gynaliadwyedd ac adolygiad o'r polisi interim ar garthu am agregau morol. Daeth 86 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law ac rydyn ni bellach wedi cyhoeddi crynodeb ohonynt.  

con

Gweithdai i Randdeiliaid Cynllunio Morol

Ar 4 a 5 Gorffennaf, cynhalion ni weithdai yng Nghyffordd Llandudno ag aelodau'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol i edrych ar rai o gasgliadau cychwynnol yr ymgynghoriad. Yn ein gweithdai, fe wnaethon ni edrych yn fanylach ar Ddatblygu Cynaliadwy, Ardaloedd Adnoddau Strategol, rheoli ar draws ffiniau a Thystiolaeth ar gyfer cynllunio. Diolch i'r 24 oedd yn bresennol am ein helpu i edrych mor fanwl ar y meysydd hyn. Caiff crynodeb o'r gweithdai ei anfon atyn nhw yn y man.

msp

Trafod yn y Senedd

Ar 9 Ionawr, yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y cynllun drafft, arweiniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig drafodaeth am y Cynllun Morol Cenedlaethol drafft. Yn ei haraith, dywedodd Lesley Griffiths fod CMCC yn esiampl dda o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn llywio polisi. Yna cafwyd trafodaeth lle cynigiwyd nifer o welliannau gan gynnwys cydnabod buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn a galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn rhaglenni cydlyniant rhanbarthol tebyg ar ôl Brexit. Fe welwch gofnod llawn o'r trafodion yma.

min

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig weithdy'n ddiweddar â rhanddeiliaid i drafod y Cynllun Morol Cenedlaethol drafft. Ar 18 Ebrill, cynhyrchon nhw adroddiad gydag 13 o argymhellion ar y Cynllun drafft i'w hystyried wrth baratoi’r Cynllun terfynol. Ymhlith y pwyntiau a godwyd oedd gweithio ar draws ffiniau, twristiaeth, cydnerthedd a thwf glas, casglu tystiolaeth a mesur llwyddiant y cynllun. Fe welwch ymateb Llywodraeth Cymru yma.

senedd

Cyfarfod y 6 gwlad

Cafodd y cyfarfod cyntaf o'r chwe gwlad sy'n datblygu cynlluniau morol o gwmpas Môr Iwerddon ei gynnal ar 20 a 21 Mehefin yng Nghorc, Gweriniaeth Iwerddon. Bydd y grŵp yn helpu i feithrin perthynas weithio dda ar draws ffiniau inni allu gweithio'n glos â'r gwledydd eraill sy'n ffinio â Môr Iwerddon. Roedd Rheolwr Gweithredu a Thystiolaeth ein cynllun morol, Phil Coates, a chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Ynys Manaw a'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf hwn a drefnwyd gan Adran Dai, Cynllunio a Llywodraeth Leol Iwerddon.

j

Trafod Cynlluniau Morol ym Mrwsel

Roedd cynrychiolwyr o Gymru'n bresennol yn y gynhadledd ryngwladol ar gynlluniau morol gofodol o dan arweiniad UNESCO a'r IOC ym Mrwsel ar 24-25 Mai. Daeth gwledydd eraill y DU a thimau cynllunio morol o bob rhan o'r byd gan gynnwys Ffrainc, Mecsico, Tsieina ac Israel ynghyd ar gyfer y gynhadledd i drafod materion traws a chyd-ffiniol ac i ddatblygu arferion gorau/canllaw fel ymateb i'r map ffordd ar y cyd ar gyfer cynllunio morol trwy'r byd a gyhoeddwyd gan UNESCO yn 2017. Roedd yn dda clywed bod y cynrychiolydd o Sweden wedi defnyddio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru fel esiampl o arfer da mewn fforymau eraill.

jj

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@gov.wales

https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Rydym wrthi'n adeiladu'r wefan wrth inni symud i system newydd. Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw beth arall, cysylltwch â'r tîm.

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGCS_rural