|
|
Cyhoeddwyd bod 24 o weithwyr addysg proffesiynol o Gymru
wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau cenedlaethol.
|
|
|
Newyddion pwysig – tanysgrifio i Dysg!
Dros yr ychydig
wythnosau nesaf, dylech dderbyn e-bost bydd yn gofyn i chi os ydych am barhau i
dderbyn cylchlythyr addysg yng Nghymru, Dysg.
Fel rhan o’r
cyfreithiau preifatrwydd newydd sy’n dod i rym ar 25 Mai, bydd angen i chi
gadarnhau eich tanysgrifiad.
|
Blog Cwricwlwm i Gymru
Y trefniadau
asesu ar gyfer darllen a rhifedd yn newid cyn hir er mwyn gweddu i’r
cwricwlwm newydd
Mae cyfnod profi ysgolion cynradd yn dechrau wythnos nesaf ac yn dod i ben ar y 9 Mai.
Dylai bod ysgolion cynradd yn derbyn eu deunyddiau profion cenedlaethol yr wythnos yma
Atgoffir ysgolion y dylai cwricwlwm cytbwys ei gynnal drwy’r cyfnod
sy’n arwain at y profion ac y dylai’r amser a dreulir i wneud dysgwyr yn
gyfarwydd â thechnegau’r profion cael eu cadw i'r fan lleiaf.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyngor i'ch helpu i
ddeall sut i wneud y defnydd gorau o'ch buddsoddiad digidol, gan gynnwys band
eang, seilwaith y rhwydwaith ardal leol a dyfeisiau cyfrifiadura, er mwyn
hwyluso dysgu
Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant? Rydym wedi creu canllaw i addysg Gymraeg i helpu rhieni ddechrau'r daith at ddwy iaith:
I'r rhai sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg gartref, mae Cymraeg i Blant hefyd wedi creu llyfr caneuon a rhestr chwarae fideos ddefnyddiol:
Mae’r Siarter Iaith yn annog ysgolion
cynradd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth mewn tair tref Gymreig – Pwllheli,
Abertawe a’r Bont-faen – ac wedi gosod sticeri yn cynnwys cymeriadau’r Siarter,
Seren a Sbarc, yn ffenestri busnesau yn y trefi yma. Darganfyddwch fwy.
Mae manteision cofrestru eich Clwb
Gofal Plant tu allan i'r Ysgol yn bell gyrhaeddol, ond a ydych yn gwybod pa
fanteision sydd i'ch ysgol a’u deuluoedd?
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen
ysgolion
Mae Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen ysgolion ar gyfer CA3 & 2 ddydd Iau 24 Mai
a CA 4 ar ddydd Gwener 25 Mai. Mae yna 12 digwyddiad i ddewis o bob dydd.
Sut bydd hyn yn effeithio ar eich defnydd o Hwb?
Mae'r cyntaf o bum canllaw newydd i athrawon
wedi'i ryddhau, canllaw sy'n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i athrawon a staff
cymorth. Mae'r cyntaf yn y gyfres hon o ganllawiau i athrawon yn amlinellu
natur y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, a'r hyn y mae'n ei olygu i ysgolion
a cholegau.
Mae pum rhestr chwarae
newydd am amser sgrin ar gael bellach i blant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg,
rhieni a gofalwyr, a llywodraethwyr.
Mae'r
rhestrau chwarae yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau, gwasanaethau cymorth ac
asiantaethau a all fod yn ddefnyddiol i ysgolion, colegau, eu llywodraethwyr, eu
rhieni a'u gofalwyr.
Ail
rifyn o E-bapur newydd cyffrous i ddisgyblion CA2, sy’n cynnwys nifer o
erthyglau amrywiol. Bydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi bob hanner tymor.
Fydd llawer o weithgareddau yn cael ei gynnal i ddathlu’r
achlysur arbennig hwn, gan gynnwys Cystadleuaeth Arlunio GIG70
ar gyfer plant oedran cynradd ledled Cymru.
|