Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gaffael
cyhoeddus
Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei
ail sesiwn dystiolaeth ar gaffael cyhoeddus ddydd Llun 5 Mawrth. Rhoddodd Andrew
Slade, Sue Moffatt a Jonathan Hopkins dystiolaeth ar ran Llywodraeth
Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae'r agenda, papurau a'r gweddarllediad ar gael ar dudalennau gwe'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
|
|
|
Cod Ymarfer
Ar 9 Mawrth bydd blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lansio'r
Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Mae
animeiddiad byr sy'n rhoi trosolwg o'r Cod ar gael. Darllen mwy
|
Diweddariad GDPR
Mae
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE yn dod i rym ar 25 Mai 2018.
I baratoi ar gyfer y GPDR, mae'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol (GCC) wedi datblygu cynllun lefel uchel ac wedi cynnal
asesiadau risg o bob fframwaith sydd eisoes ar waith. Darllen mwy
|
|
|
Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd
Anogir prynwyr sy'n gosod tendrau drwy Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb
Ewropeaidd, a chyflenwyr sy'n awyddus i gael gwybod am y datblygiadau
diweddaraf yn yr un modd a'r mae'r sector cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau,
i ddarllen am y ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd (ESPD) sydd i ddod. Darllen mwy
|
Rhestr o Fframweithiau Byw
Mae'r rhestr o fframweithiau byw sydd ar gael i'w
defnyddio wedi'i diweddaru ar ein gwefan. Darllen mwy
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl
ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a
chyd-weithwyr caffael ledled Cymru, rydym wedi creu’r Calendr Digwyddiadau
isod.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a
gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y
newyddion diweddaraf i gael gwybod am y fframwaith Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo; prisiau'r fframwaith Papur Copïo, Digidol ac Offset Swyddfa; a diweddariad pwysig ynghylch fframwaith Gwasanaethau Argraffu Cymru Gyfan.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
Fflyd
Darllenwch y
newyddion diweddaraf ar Fframweithiau ar gyfer Darparu Telemateg Cerbydau,
Llogi Cerbydau II, Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig; a Gwirio Trwyddedau Gyrwyr; manylion ar estyniadau i’r
fframwaith Tanwyddau Hylif; a sut i
fod yn rhan o feysydd datblygu yn y dyfodol.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd
Darllenwch y
newyddion diweddaraf am arweiniad ar ddefnyddio ein fframweithiau Cyflenwi a
Dosbarthu Bwyd a Diodydd Ffres, a Chyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd wedi’u
Pecynnu; a chyfle i roi adborth ar ein fframweithiau Bwyd cyfredol.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
Gwasanaethau
Pobl
Darllenwch y
newyddion diweddaraf er mwyn cael gwybod manylion yr estyniad i'r fframwaith Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth.
Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch y
newyddion diweddaraf i gael gwybod sut i fod yn rhan o Grŵp Fforwm Categori Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau
Ariannol; cyfleoedd hyfforddi Gwasanaethau Cyfreithiol; a Hysbysiadau Contract a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|