eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 6 Chwefror 2018 (Rhifyn 183)

6 Chwefror 2018 • Rhifyn 183

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

ALNACT9090

Cydsyniad Brenhinol i’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

I nodi hyn, aeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i Ysgol Penmaes yn Aberhonddu.

blog9090

Diweddariad ar y Blog

KWTakeTime

Mae ‘na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae

Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch newydd wedi'i hanelu at rieni a gefnogir gan gymorth o £700,000 ar gyfer ysgolion. Fideo Mae ’na amser’ i siarad, gwrando a chwarae.

  

Chwilio am ffyrdd i ymgysylltu â theuluoedd y dosbarth Derbyn y tymor hwn?

Adnoddau Pori Drwy Stori er mwyn cefnogi ymgysylltu â theuluoedd mewn llythrennedd a rhifedd.

PupilAward9090

Mae cyfnod ymgeisio am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 wedi dechrau!

Gallwch bellach gyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018. Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Dydd Miwsig Cymru - 9 Chwefror 2018

Cofiwch rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru.

Cymru’n gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed

Mae cyfraith newydd wedi  dod i rym yn ei gwneud yn drosedd i ymarferwyr tyllu drefnu a/neu roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl o dan 18 oed.

Adroddiad Estyn yn dangos bod addysg yng Nghymru yn uno mewn cenhadaeth o hunanwella - Kirsty Williams

Adroddiad Estyn yn dangos bod addysg yng Nghymru yn uno mewn cenhadaeth o hunanwella - Kirsty Williams

Yr ydym angen eich barn am gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mawrth 2018

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

Dyddiad can: 2 Ebrill 2018

Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol. 

Lansio ymgyrch DYMA FI i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac atal camdriniaeth

Yn ddiweddar, lansiwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion: Canllawiau cam–wrth-gam ar gyfer Arweinwyr, Athrawon a Staff sy ddim yn dysgu, Fersiwn Cymru  

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi treialu’r canllaw yn llwyddiannus mewn wyth ysgol. Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i wella’r dull o nodi’r dysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu a darparu’r cymorth priodol.

Cynllun cymhelliant iaith athrawon yfory 2018 (2018 Rhif 42)

Mae’r cynllun cymhelliant Cymraeg newydd Iaith Athrawon Yfory, a fydd yn targedu cymorth ar gyfer athrawon-fyfyrwyr TAR sydd wrthi’n hyfforddi i addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn cychwyn Medi 2018 ar gael. Bydd canllawiau llawn y cynllun ar gael yn yr haf.

Cynadleddau rhanbarthol 2018 Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol

Cynlluniwyd y digwyddiad hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru a bydd anerchiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. 

Defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle am ddim a cliciwch y dolenni perthnasol isod am wybod mwy.

hwb

Ychwanegu Google ar gyfer Addysg at Wasanaethau Hwb

Ychwanegir G Suite for Education i Hwb ond byddwn yn parhau i gynnig offer poblogaidd fel:

  • Office 365
  • Just2easy
  • Rhestrau Chwarae
  • Dosbarthiadau
  • Rhwydweithiau

Nodweddion newydd ar Hwb

Darllenwch am y nodweddion newydd fydd yn dod i Hwb yn fuan,  yn cynnwys:

  • Adnoddau Rheoli Ffeiliau mewn Rhwydweithiau
  • Tanysgrifio’n awtomatig i hysbysiadau Rhwydwaith
  • Adnoddau ar gyfer trefnu rhestrau chwarae
  • Gwella’r nodwedd chwilio

Adnoddau

A oes angen cymorth arnoch i ddarparu addysg ariannol yn eich ysgol? 

Mae’r adnoddau hyn yn adnabod ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr.

Gwasanaeth Cynghori Ariannol - Fframwaith Canlyniadau Athrawon (dolen Saesneg yn unig)

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Llawer mwy i weld yma.

Blwyddyn Newydd Tsieineaidd: Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru (dolen Saesneg yn unig)

Mae’r pecyn addysgol hwn wedi’i ddylunio i helpu dysgwyr a myfyrwyr i ddeall yn well a dathlu Blwyddyn Newydd Tseinieaidd. Trwy'r prosiect hwn gellir cyflawni cydlyniant a hyder pellach rhwng y dau gymuned (dolen Saesneg yn unig).

newyddion arall

Eisiau 'Gwobr Menter' i annog eich disgyblion?

Dyddiad cau 11/05/18

Gwnewch eich cais drwy ddweud wrth Syniadau Mawr Cymru am eich gweithgarwch menter a siawns o dderbyn Gwobr ddigidol am fod yn Ysgol Fentrus.

Grwpiau Ysgolion a Ieuenctid - Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2018 (dolen Saesneg yn unig)

Thema’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni (5-11 Chwefror) yw unigrywiaeth. Ewch i’r gwe-dudalen am amrywiaeth o syniadau i helpu’ch ysgol neu grŵp.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews