|
|
Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi croesawu Adroddiad Blynyddol heddiw gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi fel tystiolaeth bellach bod system addysg Cymru yn uno mewn cenhadaeth o hunanwella.
|
|
|
Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch newydd wedi'i hanelu at rieni a gefnogir gan gymorth o £700,000 ar gyfer ysgolion.
|
Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mawrth 2018
Cyfle penigamp i’ch ysgol chi cael hwyl a dathlu cerddoriaeth
Cymraeg. Ewch i’r gwefan am bosteri, rhestrau chwarae ac i weld beth sydd yn
digwydd yn eich ardal neu am ysbrydoliaeth. Cofiwch rannu digwyddiadau’ch
ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook gan ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru
Dyddiad can: 2 Ebrill 2018
Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol.
Cynadleddau
rhanbarthol 2018 Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol
Cynlluniwyd y digwyddiad hwn yn benodol ar
gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru a
bydd anerchiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg.
Defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle
am ddim a cliciwch y dolenni perthnasol isod am wybod mwy.
Mae'r adroddiad yma yn darparu diweddariad ar y
datblygiad o fesur ar gyfer cyrchfannau dysgwyr ôl-16 ac mae’n cyflwyno set
ddata newydd ar gyfer cyrchfannau addysg y flwyddyn academaidd 2014/15.
Os ydych chi'n
adnabod unigolion sydd wedi defnyddio eu cymwysterau galwedigaethol i
lwyddo a rhagori, neu hyfforddwr sydd wedi cefnogi’r dysgwr ar y daith
rydym yn eich annog i'w henwebu am un o’r pedwar gwobr fel rhan o Wobrau VQ
2018.
Ychwanegir G
Suite for Education i Hwb ond byddwn yn parhau i gynnig offer poblogaidd
fel:
- Office 365
- Just2easy
- Rhestrau
Chwarae
- Dosbarthiadau
- Rhwydweithiau
Eleni, dim ond un
categori o wobrau fydd – Gwobr Disgyblion 2018 y Cyngor Dysgu Digidol
Cenedlaethol. Bydd ffurflenni cais a chanllawiau ar gael ar Hwb o 29 Ionawr
2018 ymlaen tan y dyddiad cau ar ddydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00. Gweler enillwyr llynedd.
Darllenwch am y nodweddion newydd fydd yn dod i Hwb yn fuan, yn cynnwys:
- Adnoddau Rheoli Ffeiliau mewn Rhwydweithiau
- Tanysgrifio’n awtomatig i hysbysiadau Rhwydwaith
- Adnoddau ar gyfer trefnu rhestrau chwarae
- Gwella’r nodwedd chwilio
Mae’r adnoddau hyn yn adnabod
ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr.
Mae’r pecyn addysgol
hwn wedi’i ddylunio i helpu dysgwyr a myfyrwyr i ddeall yn well a dathlu
Blwyddyn Newydd Tseinieaidd. Trwy'r prosiect hwn gellir cyflawni cydlyniant a
hyder pellach rhwng y dau gymuned
Mae cronfa ddata ‘Cymwysterau yng Nghymru’ yn cynnwys manylion cyrsiau Iaith Arwyddion a gymeradwyir i'w haddysgu yng Nghymru ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus.
Thema’r
Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni (5-11 Chwefror) yw unigrywiaeth. Ewch i’r gwe-dudalen
am amrywiaeth o syniadau i helpu’ch ysgol neu grŵp.
Ymunwch a'r her cerdded i’r
ysgol gydol y flwyddyn yn 2018
Dyddiad cau 11/05/18
Gwnewch eich cais drwy ddweud wrth
Syniadau Mawr Cymru am eich gweithgarwch menter a siawns o dderbyn Gwobr ddigidol am fod
yn Ysgol Fentrus.
Dydd Sadwrn 24 Mawrth 2018, Caerdydd
Am wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch a Hybu
Cig Cymru ar 01970 625050
|