eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 16 Ionawr 2018 (Rhifyn 514)

16 Ionawr 2018 • Rhifyn 514

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog

Mae’r cylchlythyr diweddaraf ar ddiwygio addysg ar gael

Mae’r cylchlythyr diweddaraf i randdeiliaid yn rhoi newyddion am bob elfen o ddiwygio addysg, o’r cwricwlwm newydd a dysgu proffesiynol i arweinyddiaeth ac atebolrwydd.

KWconference

Wedi methu’r cynadleddau Cwricwlwm i Gymru: Troi’r Gornel ddiweddar?

Peidiwch â phoeni gallwch wylio eto areithiau’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, Yr Athro Mark Priestley, Dr Dylan Jones a’r Athro a’r Fonesig Alison Peacock.

TRRAB9090

Cyfarfod cyntaf Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon

Wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf ein bwrdd ymgynghori. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar ei waith drwy glicio ar ddolen y pennawd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Swyddi gwag yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol - dyddiad cau 21/1/18  

Penodi Cadeirydd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol - dyddiad cau 11/2/18

Penodi Aelodau i'r Bwrdd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol - dyddiad cau 11/2/18

Cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion: Canllawiau cam–wrth-gam ar gyfer Arweinwyr, Athrawon a Staff sydd ddim yn dysgu, Fersiwn Cymru (dolen Saesneg)

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi treialu’r canllaw yn llwyddiannus mewn wyth ysgol. Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i wella’r dull o nodi’r dysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu a darparu’r cymorth priodol.

Gwyliwch anerchiad ysbrydolgar Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn llawn yn Yr Athrofa (a’i sesiwn holi ac ateb gydag athrawon dan hyfforddiant)

Cymhellion hyfforddi athrawon – gwybodaeth i fyfyrwyr

Canllawiau ar y grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau addysg gychwynnol TAR llawn amser i athrawon cyn iddynt ddechrau addysgu 2018/19.

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

Dyddiad can: 2 Ebrill 2018

Fel rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar y cynnig i ddileu amddiffyniad cosb resymol. 

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi’i basio

Darganfyddwch sut bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn bwriadu rhoi'r system newydd ar waith yng Nghymru.

Rheoli presenoldeb y gweithlu yn effeithiol

Nawr wedi’i diweddaru mae’r canllaw’n darparu trosolwg o rolau a chyfrifoldebau, yn ymwneud â rheoli presenoldeb, o bawb sy’n rhan o’r gwaith o addysgu plant a phobl ifanc.

Cynadleddau rhanbarthol 2018 Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes Ysgol

Cynlluniwyd y digwyddiad hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru a bydd anerchiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. 

Defnyddiwch y cod CM7m6Opn i archebu eich lle am ddim a cliciwch y dolenni perthnasol isod am wybod mwy.

diweddariadau ôl-16

Gwobrau VQ 2018: gwahodd enwebiadau

Y Gwobrau VQ yn cydnabod ac yn dathlu rhai sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i sicrhau llwyddiant.

Bydd y Gwobrau VQ yn cydnabod llwyddiannau unigolion a chyflogwyr ar draws pedwar chategori gwahanol: Dysgwr (Canolradd), Dysgwr (Uwch), Hyfforddwr a Chyflogwr

hwb

Lleihau baich gwaith – Canllaw i athrawon a phenaethiaid

Nod y canllaw hwn yw helpu a chynorthwyo pob athro i ganolbwyntio ar gyflawni’r effaith fwyaf i ddysgwyr, a lleihau baich gwaith athrawon ar yr un pryd.

Hunan-barch a lles mewn byd digidol (Uwchradd) - Pecyn adnoddau ar gyfer ysgolion i gynnal weithdy i rieni a gofalwyr.

Mewngofnodwch i ymweld a'r adnodd.

newyddion arall

Sesiynau ymgysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Digwyddiadau Ymgysylltu ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Hoffai Estyn gael eich barn ar ba mor dda mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynorthwyo ysgolion a gwasanaethau ieuenctid.

Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Pa mor dda y mae eich ysgol yn deall arfer dda yn y cyfnod sylfaen?  Mae adroddiad a ffilm newydd Estyn yn disgrifio arfer effeithiol o ran cyflwyno llythrennedd a rhifedd, sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y cyfnod sylfaen. 

Gwobrau Ysbrydoli 2018 ar gyfer Addysg Oedolion yn awr wedi agor ar gyfer eich enwebiadau!

Enwebwch erbyn: dydd Gwener 16 Mawrth 2018

Am ragor o wybodaeth am y categorïau ac ar sut i enwebu, ewch i'r wefan.

Arolwg Meincnod Cyflogwr Chwarae Teg

Bydd eich ymatebion yn helpu Chwarae Teg i ddeall a meincnodi cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth yng Nghymru.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews