eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 30 Tachwedd 2017 (Rhifyn 180)

30 Tachwedd 2017 • Rhifyn 180

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Googlebrand9090

Cyflwyno Google for Education mewn ysgolion yng Nghymru y flwyddyn nesaf

Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd athrawon yn cael mwy o ddewis yn fuan o ran y cyfarpar digidol y maent yn eu defnyddio, o ganlyniad i gyflwyno Google 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Canllawiau newydd i gefnogi rôl y person dynodedig ar gyfer plant mewn ysgolion sy'n derbyn gofal

Mae 'Gwneud gwahaniaeth' yn canolbwyntio'n bennaf ar rôl y person dynodedig mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig, ond mae hefyd yn ymdrin â chyfnod pontio plant sy'n derbyn gofal o oed cyn ysgol i addysg orfodol a phellach ac addysg uwch. 

Canllawiau newydd ar gael – Secstio: Ymateb i achosion sy’n codi a diogelu dysgwyr 

Mae Gweithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd wedi llunio canllawiau mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru i helpu ysgolion a cholegau yng Nghymru i ddelio ag achosion o secstio.  

Cyfnewid Pobl Cymru

Edrych i recriwtio? Hysbysebwch eich swydd ar borthol recriwtio sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Cyfnewid Pobl Cymru.

Mae Cyfnewid Pobl Cymru bellach yn cael ei ymestyn i'r sector Addysg Bellach yn dilyn ei lansiad yn ddiweddar i ysgolion. Darganfyddwch fwy ac e-bostiwch 

adnoddau

Sefyll dros eich credoau

Mae’r adnodd hwn yn caniatáu i ddysgwyr CA2 (Blynyddoedd 5 – 6) edrych ar y dewisiadau oedd yn wynebu pobl yn ystod Y Rhyfel Mawr, a chanlyniadau’r penderfyniadau a wnaed ar gyfer unigolion a’u teuluoedd. 

Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata (Cynradd)

Adnodd newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 wedi’i greu gan Gasgliad y Werin Cymru. Cynlluniau gwers ar hawlfraint a metadata i'ch helpu chi i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol i'ch dysgwyr.

Adnoddau Gwrth-fwlio

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a pha adnoddau gwrth-fwlio sydd ar gael, ewch i’n gwefan wrth-fwlio yma.

Bwlio Ar-lein

Mae pum rhestr chwarae newydd am fwlio ar-lein ar gael nawr i blant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr a llywodraethwyr.

Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru 

Adnoddau sydd yn defnyddio mapiau a deunyddiau eraill i ddysgu'r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru yng Nghyfnod Allweddol 2,3 a 4.

newyddion arall

Blog CGA – 'Sôn'

Tegwen Ellis - Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth mewn Addysg: Dechreuad newydd i Gymru?

Cymhwyster Digidol yng Ngogledd Iwerddon - Ceisiadau Nawr ar Agor!

Bydd y daith yma, sydd ar gyfer ysgolion cynradd sydd angen cymorth bellach i weithredu’r Fframwaith Cymhwyster Digidol, yn rhoi’r cyfle i athrawon Cymraeg i arsylwi arfer gorau yn nefnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer dysgu trawsgwricwlaidd. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org

IPLC Tsieina- Ceisiadau Nawr ar Agor!

Prif bwrpas IPLC 2018 i Chonqing, a gynhaliwyd gan British Council Tsieina a Chomisiwn Addysg Drefol Chonqing, yw ysbrydoli dulliau newydd o ddysgu Maths Cynradd bydd yn trawsnewid i weithred o fewn ysgolion Cymraeg. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org

Rhannu rhagoriaeth ledled Cymru

Yn 2016-2017, barnodd Estyn fod 34 o ddarparwyr yn 'Rhagorol'. Dysgwch am strategaethau eu llwyddiant trwy wylio ein ffilm a darllen eu hastudiaethau achos.

Newyddion Rhaglen Dysgu Byd-Eang – Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. 

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Bob blwyddyn mae Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gystadlu ar brosiectau treftadaeth Cymru gyfan. I ddarganfod mwy, ewch i @whsiawards.

Mae #TaithySgriblwyr yn ôl. Digwyddiadau rhad-ac-am-ddim ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru ym mis Ionawr

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews