|
|
Dyddiad cau 10 Tachwedd 2017.
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn gwahodd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 mewn ysgolion cynradd i gynllunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.
Caiff yr enillydd gyfle i gwrdd â’r Prif Weinidog a bydd hefyd yn derbyn copi o’r cynllun buddugol wedi ei arwyddo a’i fframio.
|
Newidiadau i'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, wedi cyhoeddi newidiadau i'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion a fydd yn dod i rym ar unwaith.
Darllenwch y datganiad yma. Danfonir llythyr i bob ysgol gyda rhagor o wybodaeth am y newidiadau.
Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Genedlaethol
Lansir trydydd arolwg gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bydd yr arolwg yn cefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd. Os gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr drwy e-bost yr wythnos hyn, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest
1 Rhagfyr - Gwesty'r Metropole, Llandrindod
Cyfle gwych i glywed gan siaradwyr allweddol, gan gynnwys Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghylch y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i EOTAS. Gwahoddir cynrychiolwyr i gyfrannu at y trafodaethau mewn dewis o weithdai.
Mae cystadleuaeth 2018 yn gyfle i bobl ifanc ddweud wrthon ni sut mae’r rhyngrwyd yn gwneud iddyn nhw deimlo drwy eiriau, ffilm, cerddoriaeth neu gelf.
Er mwyn datblygu’r cynllun gweithredu cenedlaethol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, mae arnom angen clywed barn plant a phobl ifanc.
Mae pum Rhestr Chwarae ar gael bellach i gefnogi plant, pobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr a llywodraethwyr, er mwyn iddynt fod yn ddiogel ar-lein.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y manteision o ddefnyddio 360 degree safe Cymru, teclyn dwyieithog i hunan asesu diogelwch ar-lein.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod adnoddau Casgliad y Werin Cymru nawr ar gael drwy Hwb.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i’r Consortia Addysg Rhanbarthol ledled Cymru i’w galluogi i gynnig digwyddiadau cysylltiedig â Hwb a fydd wedi’u teilwra’n lleol yn unol ag anghenion eu hysgolion.
Chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu cymhwysedd digidol eleni? Edrychwch ar adnoddau hyn a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer elfen rhyngweithio a chydweithio Fframwaith.
Mae Cystadleuaeth Codio’r DVLA wedi'i hanelu at blant ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 oed yng Nghymru. Caiff timau o hyd at bump mewn nifer, o ysgolion a chlybiau codio cymunedol, eu gwahodd i arddangos eu sgiliau rhaglennu drwy ddylunio gêm gyfrifiadurol o'r newydd yn seiliedig ar un o'r 4 thema sydd wedi’u pennu gan noddwyr y digwyddiad.
Mae CGA yn cynnal sesiwn friffio polisi ar brifathrawon ac arweinyddiaeth yng Nghymru - Dydd Iau, 14 Rhagfyr, 2017
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer pob rhanddeiliad sydd â diddordeb mewn materion sy'n ymwneud â phenaethiaid/uwch arweinwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy ebostio neu drwy ffonio 029 2046 0099
Darllenwch yr astudiaethau achos o arfer orau yn ein hadroddiad diweddaraf ar hanes a daearyddiaeth yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Mae hyn yn cynnwys Fframwaith Canlyniadau Athrawon, sy’n adnabod y canlyniadau a’r dangosyddion allweddol a fydd yn helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon i sicrhau eu bod yn addysgu addysg ariannol effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
Enillydd Prosiect Addysg Gorau yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 #Cymraeg2050
Menter sydd wedi codi o lawr gwlad yw CodeWeek Ewrop gyda’r bwriad o gyflwyno codio a llythrennedd digidol i bawb mewn ffordd sy’n hwyl ac yn apelgar. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ewch i wefan CodeWeek Ewrop.
27 o Hydref yn y Novotel, Caerdydd
Mae'r digwyddiad am ddim ac wedi cael ei gynllunio i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o symudiadau poblogaeth gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, grymuso mynychwyr i fynd i'r afael â hiliaeth ac islamoffobia, a rhannu arfer effeithiol ac adnoddau. Ebostiwch erbyn 17 Hydref ar yr hwyrach er mwyn neilltuo lle.
|