Newyddion Arloesi

 

Medi 2017

 

English

 
 
 
 
 
 
dmm  

 

Cynnyrch o Ogledd Cymru yn llwyddo

Cwmni DMM International o Lanberis yw’r unig gwmni yn y DU sy’n cynhyrchu cyfarpar dringo ac maen nhw’n ei ddosbarthu i bob cwr o’r byd.

 

Yn sgil cyngor arbenigol a chefnogaeth ariannol gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi gwella eu galluoedd i gynhyrchu ac wedi datblygu cynhyrchion a thechnolegau newydd.

Gwyliwch y Rheolwr Gyfarwyddwr, Gethin Parry, yn trafod sut mae'r gefnogaeth hon wedi hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu cynnyrch newydd.

 

Arian arloesi yn hyrwyddo twf mewn cwmni awyrofod yn y Gogledd

Cwmni rhyngwladol yw Electroimpact sy’n darparu’r systemau cydosod awtomataidd gorau i rai o brif gwmnïau awyrofod y byd.

Enillodd y cwmni gontract proffidiol sy’n torri tir newydd i sefydlu system gweithgynhyrchu adenydd cyfain ond roedden nhw angen arbenigedd ym maes dylunio. 

Darllenwch sut roedd Cymorth Arloesi gan Lywodraeth Cymru wedi eu helpu nhw i ddod o hyd i'r arbenigedd.

 

  electro
button
wjec  

 

Y genhedlaeth nesaf o Arloeswyr.

 

Mae’r Gwobrau Arloesi yn gystadleuaeth bwysig ac yn ffenest siop ryngweithiol a gyflwynir am y gwaith prosiect TGAU a Safon Uwch mwyaf arloesol ym maes Dylunio a Thechnoleg. Y nod yw annog pobl ifanc ledled Cymru i fod yn ddyfeisgar ym maes technoleg ac i werthfawrogi pwysigrwydd y maes hwn.

Disgwylir i fwy na 2000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau fynychu cystadleuaeth 2017 a gynhelir yng Nghaerdydd a Bangor y mis nesaf.

 

Darllenwch sut mae CBAC a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn annog dyfeisgarwch ymhlith pobl ifanc.

 

Advances Wales - Rhifyn 82 ar gael yn awr.

 

Mae Cymru ar flaen y gad fel canolfan dechnolegol ddigidol yn y DU.

 

Mae’r rhifyn hwn o Advances Wales yn canolbwyntio ar y dechnoleg ddigidol a sut mae’n trawsnewid meysydd o iechyd ac addysg i blismona a rhianta.

 

Darllenwch rifyn diweddaraf Advances Wales yma

 

  advances

 

Gwobrau Dewi Sant 2018.

 

Dyma’r amser i enwebu ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2018. Mae’r gystadleuaeth yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau aruthrol pobl Cymru. Mae 9 gwobr ar gael, ac mae un ar gyfer Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

 

Yr Athro Meena Upadhyaya OBE oedd yr enillydd y llynedd ym maes Arloesedd, a chafodd ei chydnabod fel yr Athro benywaidd Prydeinig-Indiaidd gyntaf ym maes geneteg feddygol yn y DU

 

Dysgwch ragor ac enwebwch rywun ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2018 yma

 

button

Digwyddiad Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

11 Hydref - Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae KTP yn un o raglenni’r DU sydd wedi bod yn helpu busnesau ers 40 mlynedd a mwy i wella eu gallu i gystadlu, a’u defnydd o dechnoleg a sgiliau.

Dewch i glywed sut mae busnesau a seiliau gwybodaeth wedi elwa a dewch i ystyried y cyfleoedd y gallai cynlluniau KTP eu cynnig i chi.

Cofrestrwch yma

 

Innovate 2017

8-9 Tachwedd – Birmingham

Mae Innovate 2017 yn ddigwyddiad sy’n rhoi cyfle i chi gyfarfod â phobl greadigol, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid ac i rwydweithio yn ogystal â chael eich ysbrydoli. Mae’n gyfle i glywed siaradwyr ysbrydoledig ac i weld arloeswyr newydd a nodedig.

Prynwch eich tocynnau yma

 

button
 
 

 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

 

Dilyn ar-lein: