|
|
Nodyn i'r dyddiadur:
Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn cynnal dwy gynhadledd:
-
16 Tachwedd, SSE SWALEC, Caerdydd (Consortia EAS a Canolbarth y De)
-
23 Tachwedd, Venue Cymru, Llandudno (GwE)
-
14 Rhagfyr, Parc y Scarlets (ERW)
Gwahoddir penaethiaid a rhanddeiliaid addysg allweddol. Bydd yn gyfle pellach i benaethiaid i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ein taith diwygio addysg genedlaethol. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, bydd mwy o wybodaeth yn dilyn yn fuan.
|
Gweithdai:
Atgoffir ysgolion i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer cynllun arloesol Cyngor Celfyddydau Cymru - Cydweithio Creadigol.
Gall ysgolion a sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth geisio am rhwng £5,000 a £25,000 i ddatblygu gweithgareddau creadigol arloesol ac arbennig. Darganfyddwch fwy.
Trwy gymryd rhan yn yr arolwg, byddwch yn helpu Estyn i ddeall pa mor dda y mae hyn yn digwydd nawr a beth y gellid ei wella, ac felly helpu i ffurfio polisi yn y dyfodol.
Diwygio PCET: Digwyddiadau Llais y Dysgwr
- 4 Hydref 2017 – Y Gwesty Quay a Spa, Deganwy
-
12 Hydref 2017 – Arena Motorpoint Caerdydd
Cyfleoedd gwych i ddysgwyr gael siarad yn uniongyrchol â'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau a chael dweud eu dweud am eu profiad. Rydym am i ddysgwyr gael lleisio eu barn fel rhan o’r ymgynhoriad PCET. Dim ond ychydig leodd sydd ar gael felly i gadw un neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch ni ar DiwygioPCET@llyw.cymru
Arbedwch gostau a phostio eich swydd am ddim ar Cyfnewid Pobl Cymru. Ebostiwch i gofrestru er mwyn hysbysebu eich swyddi gwag.
Diwygio PCET: Digwyddiadau Llais y Dysgwr
Helpwch ni i roi’r gair ar led fel bod cyfle i ddysgwyr fynegi eu barn ynghylch dyfodol addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Byddwn yn cynnal digwyddiadau bywiog a rhyngweithiol ar gyfer dysgwyr ar:
- 4 Hydref 2017 – The Quay Hotel & Spa, Deganwy
- 12 Hydref 2017 – Motorpoint Arena, Caerdydd
Bydd y digwyddiadau uchod yn gyfle gwych i’ch myfyrwyr leisio eu barn. I archebu lle ar gyfer eich grŵp neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at DiwygioPCET@wales.gsi.gov.uk
Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, allan o gannoedd o ymgeiswyr. Darganfyddwch pwy yw terfynwyr y Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn 2017.
Cofrestrwch nawr ar gyfer sesiynau hyfforddiant diogelwch ar-lein hanner diwrnod ar gyfer unigolion dynodedig sydd â chyfrifoldeb uwch dros ddiogelu plant, a fydd yn cael eu cynnal mewn chwe lleoliad yng Nghymru yn ystod Medi a Hydref.
Cofrestrwch nawr ar gyfer digwyddiadau hyfforddi hanner diwrnod mewn 6 lleoliad ledled Cymru.
Bydd y sesiynau'n canolbwyntio ar sut i greu strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â bwlio ar-lein ac ar eich helpu i ddeall beth i'w wneud os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei fwlio ar-lein.
Fedrwch chi ymddiried ym mhopeth rydych chi’n ei weld neu’n ei ddarllen ar-lein?
Nod adnodd newydd – ‘Ymddiried ynof fi Cymru’ – yw helpu athrawon cynradd yn rhan uchaf CA2 ac athrawon uwchradd i addysgu plant a phobl ifanc i werthuso gwybodaeth ar-lein anghywir yn feirniadol, gan gynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ceisio dylanwadu ar eu barn yn fwriadol.
Adnoddau sydd ar gael ar Hwb wythnos yma:
Ar gyfer y TGAU newydd: i’w addysgu gyntaf ym Medi 2016
Gwerslyfr ar gyfer datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o fwyd a maeth ac i wella sgiliau ymarferol wrth baratoi bwyd a choginio. Adnodd defnyddiol i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu hasesu.
Bobl bach! Dyma rifyn 18 o Ciwb. Y tro yma, rydyn ni’n defnyddio patrymau o rifynnau 1-17. Beth ydy’r hobïau diddorol? Ble mae Carwyn Claude Crawford eisiau mynd ar wyliau? Pam gwisgo mwgwd nwy ar eich gwyliau?
Darllenwch yr argymhellion o’n hadroddiad diweddaraf ar sut i gefnogi disgyblion yn well â’u dewisiadau gyrfa.
Ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn adolygu cymwysterau TGAU a Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol mewn TGCh y mae disgyblion yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer, yn ogystal â'r sgiliau y maent yn eu datblygu drwy wneud hyn cyn dechrau gyrfa ym maes TGCh.
Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad llawn gweithdai yn y gogledd a'r de (Ty Menai ym Mangor ac Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr) i athrawon TGCh. Mae angen eich help arnyn i nodi cynnwys ac anghenion asesu cymwysterau TGCh yn y dyfodol i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed.
Mae Adoption UK wedi cyhoeddi'r adnodd hwn i helpu rhieni sydd wedi mabwysiadu i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol addysg, enwedig y rhai yn yr ysgol, ac i roi'r wybodaeth a'r sgiliau i rieni i wneud hynny.
Darganfod Addysgu
Mae Darganfod Addysgu yn ceisio cynyddu nifer yr athrawon yng Nghymru drwy gynnal safonau addysgu ac ansawdd uchel.
Mae’r ymgyrch genedlaethol hon yn cael ei harwain gan y pedwar consortiwm addysg yng Nghymru – ERW, EAS, GwE a Chonsortiwm Canolbarth y De. Caiff ei chefnogi hefyd gan amryw o bartneriaid eraill megis Cyngor y Gweithlu Addysg, Gyrfa Cymru, Cyngor Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysg Athrawon Cymru (USCET) a Llywodraeth Cymru. info@discoverteaching.wales am fwy o wybodaeth.
Beth am ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd yn adfywio dulliau addysgu ac archebu lle ar gwrs dysgu proffesiynol Connecting Classroom yn yr hydref sy’n rhad-ac-am-ddim. Archwiliwch fannau ar-lein y Cyngor Prydeinig i sefydlu partneriaeth gydag athro/athrawes sy'n cymryd rhan yn y rhaglen dramor. Gallwch fynd â'ch cydweithio ymhellach drwy weithio ar brosiect neu wneud cais am grant o £3,000 i weithio gyda'ch gilydd wyneb yn wyneb.
|