Cylchlythyr Gwlad 18 Awst 2017

18 Awst 2017

 
 
 
 
 
 

Newyddion

Grant Busnes i Ffermydd

Grant Busnes i Ffermydd

Agorodd cyfnod ymgeisio newydd ar 2 Awst. Mi fydd y cyfnod yn cau ar 29 Medi. Nod y grant hwn yw helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol. Mae'r grant yn cyfrannu 40% tuag at fuddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau sydd wedi'u nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i fentrau ffermydd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd mae’n rhaid i bartner yn y busnes fynychu un o’r digwyddiadau ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a drefnir gan Cyswllt Ffermio. I gael mwy o wybodaeth am leoliadau a sut i sicrhau eich lle ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

Coed

Glastir Creu Coetir

Bydd y pumed cyfnod ar gyfer Datgan Diddordeb yng nghynllun Glastir – Creu Coetir yn cau ar 25 Awst 2017. Rhaid cyflwyno’r ffurflen Datgan Diddordeb ar gyfer cynllun Glastir – Creu Coetir drwy RPW Ar-lein. 

Glastir uwch

Glastir Uwch 

Bydd y ffenestr Mynegi Diddordeb ar gyfer Glastir Uwch 2019 yn agor ar 18 Medi ac yn cau am hanner nos ar 20 Hydref 2017. Bwriad Glastir Uwch yw gwella'n amgylcheddol amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau, priddoedd a dŵr. Mae’r cynllun ar gael i ffermwyr a rheolwyr tir. Os dymunwch gael eich ystyried ar gyfer Glastir Uwch dylech gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb drwy eich cyfri RPW Ar-lein.

Cefn gwlad

Cynllun Taliad Sylfaenol 2018 – newidiadau i ofynion gwyrddio 

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud newidiadau i’r rheolau presennol ar gyfer yr Ardal Ecolegol fydd yn arwain at waharddiad defnyddio Cynyrchion Amddiffyn Planhigion yn gyfan-gwbl. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Ci

Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2017/18

Dyma'r trydydd Cynllun Gweithredu blynyddol o dan y Fframwaith.  Mae'n brawf o'n hymrwymiad i barhau i wireddu'n blaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a'n cynlluniau gweithredu blynyddol yn golygu bod gennym ffordd gytûn ynghylch sut i fynd ati i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid. 

Buwch

Unedau Cwarantin

O 11 Medi 2017, bydd dewis gan geidwaid gwartheg, defaid neu geifr o sefydlu Uned Cwarantin (UC) i reoli symudiadau neu parhau i ddefnyddio’r Rheol Symud Chwe Niwrnod (6n) ar eu ddaliadau cyfan. 

Buwch

Cymorth amodol i ffermwyr llaeth - cofnodion llaeth

Mae gyllid ar gael erbyn hyn i helpu ffermwyr i gadw cofnodion llaeth. Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 19 Awst.

Buwch

Llinell Gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) – manylion cyswllt diwygiedig

Mae BCMS wedi diweddaru’r gwasanaeth llinell gymorth ac mae bellach yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog i geidwaid gwartheg yng Nghymru. Y rhif ffôn yw 0345 050 3456. Pan fyddwch yn ffonio’r rhif hwn gallwch ddewis siarad Cymraeg neu Saesneg.

Pridd

Tir Ffrwythlon – assed werthfawr ar ffermydd Cymru

Tir Ffrwythlon yw un o’r asedau mwyaf gwerthfawr a’r ffermydd Cymru, ac mae’r Hydref 2017 yn un o’r amserau allweddol i ystyried rheolaeth pridd, dom a slyri. Felly beth am fynychu digwyddiad Dom a Phridd ar gampws Gelli Aur a’r yr  24 Awst 2017. Bydd yna gyfle gwych i ddysgu mwy am y dechnoleg ddiweddaraf , arddangosfeydd ac i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o prosiectau  mae Cyswllt Ffermio yn gweithio arnynt ar hyn o bryd.

Cyswllt Ffermio

Dyfodol disglair i ddau ffermwr defaid ifanc yng Ngogledd Cymru 

Mae dau ffermwr ifanc uchelgeisiol yng Ngogledd Cymru yn hyderus eu bod yn wynebu dyfodol disglair diolch i weledigaeth tirfeddiannwr lleol a threfniant cyd-ffermio a drefnwyd gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Cyswllt Ffermio

Cyfle am gymorth ar gyfer ffermwyr a fforestwyr gan Bartneriaethau Arloesi Ewrop

Mae arian Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yn gwireddu syniadau arloesol ar ffermydd a choetiroedd ledled Cymru. Mae gan y cynllun gyllid o hyd at £40,000 fesul pob prosiect ar gyfer uchafswm o 45 o brosiectau sy’n cynnwys holl sectorau amaethyddol yng Nghymru.

Bws

Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig

Ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor tan 12 Hydref 2017. Mae’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig (RCDF) yn cynnig grantiau sydd wedi’u hanelu yn bennaf at sefydliadau cymunedol.

Bwyd

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Ffenestr Mynegi Diddordeb yn cau ar 19 Medi 2017. Mae’r cynllun yn croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o fentrau sy’n ymwneud â phrosesu cynhyrchion amaethyddol ar lefel cynradd a/neu eilaidd, gan gynnwys.

 

SMS

Y Cynllun Datblygu Cynaliadwy

Ffenestr Mynegi Diddordeb yn cau ar 5 Medi 2017. Bydd y cynllun Datblygu Cynaliadwy yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella’r ffordd y caiff ein hadnoddau naturiol eu rheoli a chyfrannu at les ein cymunedau gwledig.

MSBF

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) ar gael i fusnesau micro a bychan.

Slyri

Prosiect newydd fydd yn arloesol wrth leihau gwastraff fferm ac yn helpu diogelu'r amgylchedd

Mae prosiect arloesol ar y gweill i fynd i'r afael ag effaith y diwydiant amaeth ar yr amgylchedd drwy ddatblygu system ddihysbyddu a phuro i reoli slyri.

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch 0808 281 9490 E-bost grants@rabi.org.uk

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch 03000 111 999 neu ewch i'r wefan.

Cronfa Addington

01926 620135 neu ewch i'r wefan.

Darllenwch mwy ar llyw.cymru

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/amgylcheddachefngwlad

Dilynwch ar Twitter:

@WGCS_Enviro

@WG_Farmingfood

@LIC_Pysgodfeydd