|
|
Gwyliwch yn fyw! Cynhadledd
y Cwricwlum Newydd
Yn ystod
cynhadledd yn Llandudno ar ddydd Llun 10 a Mawrth 11 Gorffennaf, rhennir gwybodaeth ar gynnydd gan bartneriaid ac Ysgolion Arloesol. Gellir gwylio
cyflwyniadau gan Cymwysterau Cymru a’r Arloeswyr Dysgu Proffesiynol mewn sesiynau
byw ar Periscope drwy’r cyfrif Twitter @LlC_Addysg
|
|
|
Mae diwygio addysg ar frig agendâu llywodraethau ledled y byd.
|
Mae
canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2017 ar gael nawr i ysgolion
cynradd ac ysgolion uwchradd eu lawrlwytho, yn
ogystal â ‘canllawiau ar gyfer ymarferwyr’,
allai hwn fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod canlyniadau’r profion
gyda rhieni/gofalwyr. Mae’r dogfennau a fydd ar gael ar ddiwedd yr wythnos hon
i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo
Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell
oedran, ar wefan Dysgu Cymru.
Rydyn
ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i
esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r
ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib
hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich
ysgol.
Profion Cenedlaethol 2018
Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u
pennu fel a ganlyn:
-
Ysgolion
Uwchradd: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
-
Ysgolion
Cynradd: 2 – 9 Mai 2018
-
Ysgolion
Canol: 25 Ebrill – 9 Mai 2018
Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg wedi ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod.
Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg ar eich gwefannau yn barod ar gyfer y tymor nesaf os gwelwch chi'n dda. #SutRoeddyrYsgol
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £4.2 ychwanegol er mwyn roi hwb i addysgu a dysgu Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adolygiad annibynnol o rôl Estyn mewn perthynas â chefnogi'r diwygiadau ym maes addysg wedi'i gyhoeddi heddiw gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd.
Mae
cynllun peilot porthol recriwtio sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru sydd ar
gael am ddim sef Cyfnewid Pobl Cymru yn cael ei ehangu i bob ysgol uwchradd.
Bydd hyn yn eu galluogi i hysbysebu’n gyflym eu swyddi gwag ledled Cymru o
ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Gallwch gael pecynnau cofrestru a
manylion mewngofnodi drwy gysylltu â peopleexchangecymru@wales.gsi.gov.uk
25 diwrnod ar ôl i ymateb.
Dyddiad cau 10 Gorffennaf 2017 ar gyfer derbyn ceisiadau.
Yn rhad ac am ddim i’w mynychu, SkillsCymru yw digwyddiadau gyrfaoedd,
swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Yn digwydd yn Llandudno a Chaerdydd, mae’r digwyddiadau hynod
ryngweithiol hyn yn cynnig y cyfle i bobl ifanc ddarganfod eu potensial.
Ewch i’r wefan i weld beth sydd
ymlaen. Neu cadwch eich lle chi nawr drwy ein ffurflen
ar-lein.
Nodyn atgoffa am
gynnig cwricwlwm lleol 16-18 a chyfnod allweddol 4
Mae Gyrfa Cymru
ar-lein yn awr ar agor ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach i lanlwytho
gwybodaeth gwrs eu cynnig cwricwlwm lleol 16-18 a chyfnod allweddol 4. Gwnewch
yn siŵr eich bod yn cwblhau’r broses a bod pob cynnig cwricwlwm lleol yn cael
ei gadarnhau erbyn dydd Gwener 21 Gorffennaf
gan ddefnyddio system
ar-lein Gyrfa Cymru.
Modiwlau newydd Cadw dysgwyr yn ddiogel: Diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr a llywodraethwyr
Datblygwyd pob rhestr chwarae gyda’r nod o rymuso ymarferwyr addysg a llywodraethwyr gyda chyflwyniad pendant i ddiogelwch ar-lein a sut mae hyn yn effeithio ar ddiogelu dysgwyr. Mae'r rhestrau chwarae ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb neu drwy glicio'r dolenni isod.
Arolwg Llwyfan
Dysgu Hwb+ Dysgu yn y Gymru Ddigidol
A wnewch chi os gwelwch yn dda annog eich
cydweithwyr i gwblhau’r arolwg hwn a ddylai gymryd
dim mwy na 10 munud i'w gwblhau.
Dyma’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn ar-lein cyfrwng
Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ac athrawon Astudiaethau Crefyddol Cyfnod Allweddol 3. Bydd y cylchgrawn ar gael yn dymhorol ac ar
gael am ddim ar Hwb.
Stori
Hedd Wyn
Adnoddau
newydd yn awr ar gael ar Hwb a gwales.com sy'n adrodd hanes y bardd, Hedd Wyn.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad at yr adnoddau hyn!
Mae’r
adnoddau wedi’u cynhyrchu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys tasgau
ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.
Wedi ei ysgrifennu i nodi
canmlwyddiant Brwydr Passchendaele a marwolaeth y bardd enwog Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf
1917, mae’r adnodd hwn ar gyfer CA2/3 o’r Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru yn gofyn pam mae'r Rhyfel Mawr yn cael ei
alw'n Rhyfel Byd Cyntaf ac yn edrych ar ba mor fyd-eang oedd y gwrthdaro.
Mae’r ffilm fer hon yn amlygu sut bydd arolygiadau o
ysgolion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn newid o fis Medi.
Nodyn atgoffa ar gyfer y 207 o ysgolion uwchradd yng Nghymru
sydd wedi ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol...
Cofrestrwch erbyn dydd Gwener 21 Gorffennaf ar gyfer yr Arolwg
Lles ac Iechyd Myfyrwyr sy’n digwydd rhwng Medi–Rhagfyr 2017. Bydd y
canlyniadau’n bwydo mewn i’ch Adroddiadau Iechyd a Lles Myfyrwyr. Unrhyw
gwestiynau? Cysylltwch â’r tîm shrn@cardiff.ac.uk
Os oes diffibriliwr yn eich ysgol a
fyddech cystal â’i gofrestru gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd yn helpu
ein swyddogion 999 i gyfeirio galwadau i’r diffibriliwr agosaf i’w ddefnyddio
tra bo’r ambiwlans ar ei ffordd. ‘Byddwch yn Arwr Diffib’ a chofrestru yma cyn diwedd y tymor.
Ydych chi wedi hawlio’ch
pecyn hyfforddi CPR gan British Heart Foundation Cymru?
Mae AM DDIM! Mae’r pecyn, sy’n
cynnwys manicinau, defnyddiau glanhau a DVD hawdd i’w ddilyn, yn adnodd dysgu
pwysig ac mae’n werth dros £1,300. Cysylltwch â Rachel ar piggottr@bhf.org.uk i weld a yw’ch ysgol uwchradd chi’n gymwys i hawlio pecyn am ddim.
Mae’r Llysgenhadaeth Almaen Llundain a'r Swyddfa
Dramor Ffederal, yn trefnu taith flynyddol proffesiynol i athrawon hanes i Ferlin. Pwrpas
y daith yw i rhoi argraff eang a phresennol o Almaen i’r cyfranogwyr, er mwyn
rhoi gwell gefndir ar gyfer addysgu hanes am yr Almaen. Mae ceisiadau yn awr ar
agor tan 8 Medi.
|