eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 30 Mehefin 2017 (Rhifyn 172)

30 Mehefin 2017 • Rhifyn 172

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

brynelianaheard9090

Postiau blog newydd Cwricwlwm i Gymru

DDDD9090

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Dyma fideos, cyflwyniadau ac adnoddau gan y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Roedd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams a hefyd cafwyd y brif sgwrs gan John Jackson o London Grid for Learning yn ogystal â gweithdai a marchnad ddigidol.

NRNTExplainer

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm fer yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol ar gyfer sylw rhieni a gofalwyr.

Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018  ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

341 o ysgolion i gael cysylltiad band eang cyflym iawn diolch i £5 miliwn o gyllid

Datganiad Ysgrifenedig - Dyddiadau Tymhorau Ysgol 2018/19

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu peidio â defnyddio ei phwerau i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch pa ddyddiadau y dylent eu pennu.

Cyhoeddi penodi i fwrdd  achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon newydd

Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg dri phenodiad i fwrdd sy’n rhan hanfodol o’r ffordd y bydd athrawon Cymru yn cael eu hyfforddi (dydd Iau 15 Mehefin).

Grant Gwisg Ysgol Lywodraeth Cymru 2017 /18

Y disgyblion sy’n dechrau Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn ysgol 2017/18  sy’n cael cinio ysgol am ddim fydd yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol. Bydd disgyblion mewn ysgolion arbennig, lleoliadau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed neu fwy ar ddechrau blwyddyn ysgol 2017/18 ac yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim hefyd yn gymwys am y grant.

Digwyddiadau ymgynghori Fframwaith Gweithredu EOTAS

Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn fyw. Mae'r cynigion hyn yn cael eu hanelu at wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. I gefnogi'r ymgynghoriad hwn, bydd digwyddiadau ar y 14 Gorffennaf a 20 Gorffennaf 2017

Gallwch archebu lle ar y digwyddiadau yn awr

Am wybodaeth bellach am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â WELLBEINGshare.

Pedwar gweithdy Hwb+ rhanbarthol

Bydd pob sesiwn yn edrych ar y modd y mae platfform dysgu Hwb+ yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Cofrestrwch yma

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Cenedlaethol

Bwriad yr astudiaeth, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw datblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion i gefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd.  Os gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.  Nodwch, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau tan 21/07/17.

adnoddau

Adnoddau Addysg Ariannol

Gallwch ganfod adnoddau addysg ariannol ddefnyddiol sydd ar gael yn ddwyieithog ar Dysgu Cymru a Hwb. Gall yr adnoddau eich helpu chi a’ch ysgol i gynllunio a darparu addysg ariannol a hefyd i ddatblygu cynlluniau gwaith a gweithgareddau priodol fel bod eich disgyblion yn datblygu eu sgiliau ariannol.    

Ap yr wythnos

Mae ‘Codi Hwyl’ yn gêm i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg  o 7+ oed @SiarterIaith #Cymraeg

adroddiadau

Adolygiad o addysg perthnasoedd iach

Mae’r adroddiad hwn yn arfarnu pa mor dda y mae ysgolion yn cefnogi disgyblion i ddatblygu perthnasoedd personol diogel a pharchus.

Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pwysigrwydd canolbwyntio ar y medrau byw yn annibynnol fydd eu hangen ar bobl ifanc sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu ar gyfer eu dyfodol.

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon yn Penodi aelodau

Mae’r Cyngor Gweithlu Addysg yn chwilio am nifer o aelodau pwyllgor talentog a chydwybodol i ymuno â’r ‘Bwrdd’, dan gadeiryddiaeth Yr Athro John Furlong OBE, sydd bellach yn gyfrifol am ganfod derbynioldeb proffesiynol yr holl raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig, yng Nghymru.

Rolau Ymarferydd Ymchwilydd y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg (y Rhwydwaith)

Mae'r Rhwydwaith yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig a myfyriol o bob cyfnod addysg ym maes mathemateg yn ymarferwyr ymchwilwyr  Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu i ddatblygu addysgeg mathemateg, gallwch ddysgu rhagor yma.

Casglu data ar Gydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA)

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cysylltu ag ysgolion a cholegau i gasglu data ar Gydlynwyr CAAA. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer Bil Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (ALNET) arfaethedig a Rhaglen Trawsnewid ADY gysylltiedig. 

Gofynnir i CAAA/penaethiaid ymateb i CGA erbyn 21/7/2017. 

Cyswllt casglu data; ystadegau@cga.cymru 

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Herio plant ysgol ledled Cymru i fod yn arwyr ailgylchu

Bydd yr ymgyrch Her Ailgylchu yn y Cartref, sy’n cael ei gynnal drwy’r haf, yn gwahodd ysgolion cynradd o Gymru i annog eu disgyblion i ddod yn arwyr ailgylchu, gyda’r posibilrwydd hefyd o ennill gwobrau!  Cafodd yr her gan ein partneriaid ailgylchu Ailgylchu dros Gymru a Wastebuster ei lansio gan y cyflwynydd teledu Gethin Jones a Maddie Moate.

Newyddion Rhaglen Dysgu Byd-Eang – Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae Cylchlythyr yr Haf yn cynnwys astudiaethau achos newydd sy’n enghreifftio sut mae disgyblion wedi  dod yn fwy ymwybodol o'u heffaith ar y byd yn ogystal â sut mae dull sydd wedi'i seilio ar hawliau wedi helpu disgyblion i ganolbwyntio ar faterion byd-eang ac i ddangos empathi tuag at eraill.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews