Ceisio penderfynu beth i'w wneud dros Ŵyl y Banc? Mae gennym dylwyth teg a llên gwerin a llu o ddigwyddiadau!

Cael trafferth gweld y neges hon yn iawn? Cliciwch yma i weld y neges ar-lein

Castell Coch
Aelodaeth

24 Mai 2017

Bydd Blwyddyn Chwedlau Cadw yn mynd â chi i fyd o ryfeddod dros Ŵyl y Banc a'r tu hwnt. O dylwyth teg i lên gwerin i arddangosfeydd arfau canoloesol byddwch yn dod i adnabod cymeriadau o orffennol Cymru, ac yn sicr ni chewch eich diflasu! Gwahoddir teuluoedd a helwyr dreigiau fel ei gilydd i gwrdd â Dreigiau anwes Cadw, ‘Dewi a Dwynwen’, yr hanner tymor hwn yng Nghastell Caerffili (hyd at Ddydd Sul 28 Mai) a Chastell Cas-gwent (o Ddydd Llun 29 Mai).  

Anogir ymwelwyr â safleoedd Cadw i rannu eu profiadau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #ChwilioamChwedlau.


Castell Coch

Darganfod y tylwyth teg

Trwy ddefnyddio ap Cadw yng Nghastell Coch gallwch bellach ddarganfod a chipio tylwyth teg digidol sydd i'w cael o amgylch ein castell tylwyth teg ein hunain, trwy ddefnyddio realiti estynedig.

 A allwch chi ddod o hyd i'r holl dylwyth teg? 


Hwyl Gŵyl y Banc

Bwrlwm Gŵyl y Banc!  


Haf o Straeon

Haf o Straeon

Gwrandewch ar fythau a chwedlau Cymru yn cael eu hadrodd yn y lleoliadau a ganlyn yr haf hwn: 

Castell Cas-gwent — 29 Mai; Llys a Chastell Tre-tŵr — 30 Mai; Gwaith Haearn Blaenafon — 30 Mai; Castell Cydweli — 30 Mai; Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion — 31 Mai; Abaty Tyndyrn — 1 Mehefin; Llys yr Esgob Tyddewi — 1 Mehefin; Castell Coch — 2 Mehefin