eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 18 Mai 2017 (Rhifyn 495)

18 Mai 2017 • Rhifyn 495

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

ndla9090

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017 – 21 Mehefin 2017

Cofrestrwch nawr ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol! Bydd Kellie Williams un o’r diwrnod yn y farchnad digidol ble bydd hi’n cynnig enghreifftiau ymarferol o sut i fynd i’r afael â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch blog Kellie ar ei barn ar y Fframwaith a pam dylech chi fynd y digwyddiad.

TGGTCym9090

The Great Get Together 

Ysbrydolwyd gan Jo Cox

16-18 Mehefin 2017

Wedi’i ysbrydoli gan Jo Cox AS, a lofruddiwyd y llynedd, nod The Great Get Together yw tynnu ynghyd gymunedau, disgyblion, cymdogion a ffrindiau i rannu a dathlu'r hyn sydd gennym yn gyffredin. Darllenwch lythyr Kirsty Williams, yr Ysgrifennyd Cabinet dros Addysg sy'n gwahnodd ysgolion i gymryd rhan.

ptac9090

Darnau fideo'r Gwobrau Addysg Proffesiynol wedi cyhoeddi

Saith categori, yn cynnwys:

Pennaeth y flwyddyn.

Gwobr am hyrwyddo llesiant a cynhwysiant disgyblion yn yr ysgol.

Gwobr am gefnogi athrawon a dysgwyr.

Gwobr ysgol gyfan am hyrwyddo cydberthnasau â rhieni a’r gymuned.

 

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru

Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 7 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.

Datganiad y Pennaeth

Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16 Mehefin.

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Adnodd Cymorth Diagnostig

Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol nawr ar gael. Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Mae'r broses o adrodd am y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn newid

Daw'r newid i rym ar unwaith. Y cwbl y disgwylir i ysgolion ei ddarparu yw adroddiad naratif blynyddol i rieni/gofalwyr wedi'i seilio ar y Fframwaith yn y canlynol:

  • Cymraeg, Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 
  • Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen.

Bydd y newid hwn yn effeithio ar bob ysgol.

Canllawiau i rieni a gofalwyr: Sut roedd yr ysgol heddiw? - uwchradd

Bob blwyddyn, rydym wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6 mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.

Mae ymchwil ar ymgysylltu â rhieni wedi dangos bod nifer cynyddol o rieni a gofalwyr yn mynd ar-lein i gael gwybodaeth i helpu eu plant. O ganlyniad felly, byddwn yn ystyried lleihau nifer y copïau caled o’r cyhoeddiad hwn yn y dyfodol.

Os hoffai eich ysgol derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni,  a/neu fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen gais erbyn dydd Iau 25 Mai 2017 fan bellaf.

Ymgynghoriad Anghenion Dysgu Ychwanegol

Rydym eisiau eich barn ar y ffordd orau i weithredu'r system newydd i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn cau 9 Mehefin, 2017.

Rhaid i blant sy'n derbyn gofal gael yr un cyfleoedd addysgol â'u cyfoedion – Kirsty Williams

“Gwelwyd gwelliant chwe phwynt canran yng nghanlyniadau TGAU plant sy'n derbyn gofal”, meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wrth iddi amlinellu'r camau i helpu plant sy'n derbyn gofal heddiw (dydd Mercher 10 Mai).

Gŵyl y Gelli - Adnoddau Addysgu

Eleni am y tro cyntaf, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd Rhaglen Ysgolion Gŵyl y Gelli yn cael eu ffrydio’n fyw i bob ysgol yng Nghymru.  Ymunwch â’r ŵyl yn fyw ar www.hayfestival.com/livestream  - (ysgolion cynradd ar 25 Mai ac ysgolion uwchradd ar 26 Mai.)  Bydd adnoddau addysgu ar gael i’w defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl yr ŵyl.

Rheoliadau ar rannu gwybodaeth am fyfyrwyr

Rydym am gael eich barn ar Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru)  2017 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.

Profi gan ddefnyddwyr ar gyfer Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio, ac yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau.  Fel rhan o ymdrechion i barhau i wella, efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy Dysg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch help yn fawr!

Adnoddau ar gyfer ysgolion a cholegau – adnabod anghenion 2017

Gwahoddir athrawon ac ymarferwyr i’n helpu i adnabod adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd. 

Ap yr Wythnos

Mae dros 500k o bobl wedi dechrau cwrs dysgu #Cymraeg ar Duolingo.

dyddiadau i'ch dyddiadur

Sioeau Teithiol Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol 

Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

Dathlu Amrywiaeth Ddiwylliannol

21 Mai yw Dydd Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer deialog a datblygu yr UN. Mae nifer o ffyrdd y gallai'ch ysgol ddathlu fellly darganfyddwch fwy a rhannwch eich gweithgareddau drwy bostio nhw ar cyfrif Twitter eich ysgol #dathluamrywiaethddiwylliannol.

Diwrnod Adfywio Calon - 16 Hydref 2017

Ar Ddiwrnod Adfywio Calon Cyngor Adfywio Ewrop, mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’n gwahodd pob ysgol uwchradd yng Nghymru i wneud cais i hyfforddwyr gwirfoddol ymweld â’u hysgol i ddysgu CPR achub bywyd. Darganfyddwch fwy a cofrestrwch cyn diwedd mis Mai!

diweddariadau ôl-16

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017

Dydd Gwener 20 Hydref 2017 yn y Celtic Manor, Casnewydd

Mae ffurflenni cais ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar gael yn awr.  Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu y Rhaglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais fydd hanner dydd ar 23 Mehefin 2017.

hwb/Adnoddau ar Hwb

HwbMeet Aberhonddu – 13 Mehefin

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Aberhonddu eto? Bydd Aled Williams yn siarad am sut y mae adnoddau Hwb wedi caniatáu iddo ymgorffori’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ei waith addysgu ar ein CwrddHwb Aberhonddu. 

Dewch i archwilio Cymru!

Mae'r wefan hon yn sôn am 81 o'r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru, o gestyll ac abatai, i raeadrau a chamlesi.  Yn ogystal â darparu gwybodaeth gyffredinol ar y lleoliadau hyn i gyd, mae’r map yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol addysgiadol. (KS3/4)

Geirfa Termau Mathemateg

Adnodd sy'n cynnwys termau Mathemateg yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 a 4.

Celc – pecyn gwybodaeth y celfyddydau, llythrennedd a rhifedd

Pecyn newydd sbon sy'n helpu athrawon ac artistiaid i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy'r celfyddydau mynegiannol a sy'n dangos sut gall y celfyddydau creadigol ddarparu cyfleoedd sbardunol a chyfoethog i helpu athrawon. (CA2/3)

newyddion arall am addysg

Cyflwyno TGAU Cymraeg Ail Iaith

Yn dilyn y digwyddiadau ‘Cyflwyno TGAU Cymraeg Ail Iaith’ a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017, rydym wedi llunio trosolwg o’r ymholiadau a'r arsylwadau cyffredin a godwyd yn ystod y digwyddiadau, ynghyd ag ymatebion y panel. 

Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi ei Fframwaith a Dull Rheoleiddio

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei Fframwaith a’i Ddull Rheoleiddio ar 10 Mai 2017. Mae’r ddogfen hon yn crynhoi ei fframwaith a'i ddull cyfredol o reoleiddio cymwysterau yng Nghymru ac yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer eu datblygu ymhellach. Gellid dod o hyd i’r fframwaith yma

Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer hyfforddiant arolygwyr cymheiriaid

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener, 26 Mai.

Rhaid i bob arolygydd cymheiriaid fynychu hyfforddiant Estyn yn yr haf i fod yn gymwys i arolygu o dan y fframwaith newydd o Fedi.

Cysylltwch â digwyddiadau@estyn.gov.uk neu ffoniwch 02920 446510 i sicrhau gwahoddiad os nad ydych wedi cael un.

Mae hyfforddiant ar gael yn Ne, De Orllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru ar ddewis o ddyddiadau ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, er bod rhywfaint o gyfyngiad ar nifer y lleoedd erbyn hyn.

Blog Colegau Cymru

Darllenwch flog ColegauCymru ar ymweliad cynrychiolaeth o golegau addysg bellach a darparwyr yn seiliedig ar waith i Gatalonia yn ystod yr wythnos diwethaf.  Roedden nhw yno  i ddysgu oddi wrth sefydliadau ôl-16 sy’n dysgu trwy’r Gatalaneg a’r Sbaeneg mewn gwlad ddwyieithog, ac yn cyflwyno ieithoedd eraill i’r bobl ifanc.

Cylchgrawn addysg newydd gan y Rhwydwaith Maethu

Cyhoeddiad a grëwyd gan y Rhwydwaith Maethu yw GREATER EXPECTATIONS.  Nod y cylchgrawn hwn yw cefnogi gofalwyr maeth ar sut i helpu’r plant dan eu gofal godi eu dyheadau academaidd a llwyddo yn yr ysgol.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews