Bydd ein cestyll (a'n habatai) yn dod yn fyw dros y
penwythnos, wrth iddyn nhw gynnal nifer o ddigwyddiadau cyffrous dros Ŵyl Banc
Calan Mai.
Yn bendant, bydd rhywbeth at ddant pawb! O ail-greu brwydrau i arddangosfeydd
saethyddiaeth, cyfleoedd i ddeall ein hanes a hyd yn oed cyfle i weld ambell
ddraig!
#ChwilioamChwedlau — Mae Draig ar daith!
Tro Dwynwen yw hi i deithio Cymru, gan ymweld â nifer o'n
henebion ar y ffordd. I ble fydd hi'n
teithio dros yr haf os gwn i?
- Castell Caerffili, 3 Ebrill–28 Mai 2017
- Castell Cas-gwent, 29 Mai–11 Mehefin 2017
- Castell Rhaglan, 12–25 Mehefin 2017
- Llys a Chastell Tre-tŵr, 27 Mehefin–9 Gorffennaf 2017
- Castell Cydweli, 11–30 Gorffennaf 2017
- Castell Harlech, 1–13 Awst 2017
- Castell Biwmares, 15–28 Awst 2017
A gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich profiadau chwedlonol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashtag #ChwilioamChwedlau.
|