Cylchlythyr arloesi - Rhifyn 19

Ebrill 2017 • Rhifyn 19

English

 
 
 
 
 
 
Wales&West

£1 miliwn o arbedion cost i Gyfleustodau yng Nghymru   

 

Roedd Wales & West Utilities yn un o wyth sefydliad i ymuno â rhaglen arbrofol ‘arloesi agored’. Roedd hon yn un a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i annog rhai o gyflogwyr mwyaf y wlad i ymestyn allan i’r gronfa enfawr o ddoniau sy’n bodoli yng Nghymru i’w cynorthwyo i fynd i’r afael â’u heriau busnes allweddol.

 

Hyd yma mae 47 o brosiectau penodol wedi derbyn £3 miliwn o fuddsoddiad, sydd eisoes wedi arwain at  amcangyfrif o £1 miliwn o arbedion costau sydd wedi golygu bod y cwmni mewn sefyllfa llawer gwell i fanteisio i’r eithaf ar bosibiliadau prosiectau ac atebion yn y dyfodol. 

Rhagor o wybodaeth

SureChill

Technoleg arloesol o Gymru

 

Yn dilyn y gefnogaeth gan Llywodraeth Cymru, mae Sure Chill wedi datblygu system oeri eco gyfeillgar sy’n gallu newid bywydau a ffordd o fyw. 

 

Gwyliwch Ian Tansley, eu Prif Swyddog Technegol, yn trafod â Busnes Cymru. 

KTPs

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn sbarduno arloesedd a chefnogi twf busnesau   

 

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn helpu busnesau i arloesi a thyfu. Mae'n gwneud hyn drwy eu cysylltu â phrifysgol ac unigolyn graddedig i weithio ar brosiect penodol.


Nod y cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gwell yw helpu busnesau Cymru i fod yn fwy cystadleuol drwy adnabod a manteisio ar wybodaeth a thechnoleg o dramor nad yw ar gael yn y DU fel arfer. 

 

Am ragor o wybodaeth ewch i borthol arbenigedd Cymru

Innozone

Parth Arloesi Newydd

Rydym wedi diweddaru ein Parth Arloesi ar wefan Busnes Cymru i ddod â’r wybodaeth ddiweddaraf ichi i helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a dod yn rhan o farchnadoedd newydd. 

Dod i wybod mwy am gymorth a chyllid arloesi

Click to edit this heading.

Gŵyl Arloesi Cymru: 19eg – 30ain Mehefin 2017

Mae Gŵyl Arloesi Cymru yn arddangos yr arloesi ledled Cymru drwy nifer o ddigwyddiadau, seminarau a gweithdai sy’n cael eu cynnal gan gwmnïau a’r byd academaidd. 

 

Darllenwch fwy yma.

CoInnovate 2017: 27ain – 28ain Mehefin 2017

Mae CoInnovate yn  ddigwyddiad sydd wedi’i gynllunio i ddod ag arloeswyr blaenllaw y byd at ei gilydd i gydweithio.  Mae’n llawn sgyrsiau difyr, sesiynau rhyngweithiol, trafodaethau technolegol, gweithdai trafod a digon o gyfle i rwydweithio.  Mae’r rhaglen yn cynnwys: 

  • Tech Live! I ymchwilwyr sy’n chwilio am bartneriaethau o fewn y diwydiant
  • Pitch Live! I gwmnïau newydd a Mentrau Bach a Chanolig sy’n chwilio am bartneriaid a buddsoddwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd neu ddatblygu eu busnesau   

I gael y rhaglen lawn ewch i yma

 

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: