Cylchlythyr BioCymru 2017

Cylchlythyr BioCymru 2017

English

 
 
 
 
 
 
Programme

Mae rhaglen BioCymru bellach yn llawn

 

Ewch i'r wefan i weld agenda lawn gan gynnwys y rhestr lawn o siaradwyr gwadd. Nid yw'n rhy hwyr i gofrestru i ddod.

 

Rhagor o wybodaeth

 

BBI

Y BBI Group a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi hwb o filiynau o bunnau i’r Cymoedd

 

Mae'r BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei holl weithgareddau gweithgynhyrchu ym Mhrydain mewn un safle yng Nghaerffili fel rhan o brosiect buddsoddi gwerth £8.5m fydd yn creu ac yn diogelu mwy na 360 o swyddi yng Nghymru.

 

Mae gan y BBI Group nifer o gyfleusterau gweithgynhyrchu yn y DU ynghyd â phrif swyddfa yng Nghaerdydd. Ar ôl ymchwiliad mewnol, penderfynwyd symud i Barc Technoleg Border, Crymlyn lle bydd y cwmni’n gallu dod â’i holl waith gweithgynhyrchu a datblygu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnal ym Mlaenafon, Caerdydd a Dundee o dan yr un to, gan greu prif swyddfa ryngwladol ar gyfer y Grŵp a Chanolfan o Ragoriaeth ar gyfer nifer o ffrydiau technoleg.

 

 

Rhagor o wybodaeth

Partnering

Cyfleoedd i Rwydweithio â Phartneriaid yn y maes Gwyddorau Bywyd

 

Elfen bwysig o ddigwyddiad BioCymru yw'r cyfarfodydd partner un i un.

 

Mae'n ychwanegiad gwych at y cyfleoedd rhwydweithio anffurfiol sy'n digwydd drwy gydol y digwyddiad. Gall gynrychiolwyr cofrestredig gwrdd ag academyddion, buddsoddwyr, prynwyr, cwmnïau a nifer o weithwyr proffesiynol eraill yn y sector gwyddorau bywyd i archwilio cyfleoedd newydd i gydweithio drwy ddefnyddio system partner busnes BioCymru.

  

Sut i gymryd rhan yng nghyfarfodydd rhwydweithio'r gwyddorau bywyd

 

 

Y wyddoniaeth y tu ôl i athletwyr ac Anturwyr Everest i ymddangos yn BioCymru

 

Mae'r Athro Nicki Phillips yn arwain timau athletau Cymru ar y llwyfan byd-eang ac yn darparu'r wyddoniaeth y tu ôl i ddringo Everest. Y profiadau gwerthfawr hyn fydd wrth wraidd ei chyflwyniad yn BioCymru 2017 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 7 a 8 Mawrth.

 

Rhagor o wybodaeth

   

 

Cadwch lygad am Ap BioCymru 2017

 

Eleni rydym yn lansio Ap BioCymru 2017. Bydd yr ap yn caniatáu i chi amserlennu'ch diwrnod a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiad.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru

Dilyn ar-lein: