Hoffwn ddechrau trwy ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a dweud bod y bwrdd yn disgwyl
ymlaen yn fawr at weithio gyda chi dros y flwyddyn i ddod wrth inni barhau i chwilio am ffyrdd
newydd ac arloesol i ysgogi twf o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru.
Mae deuddeg cwmni yn cynrychioli diwydiant bwyd a diod Cymru yn paratoi i ymweld â Gwlad Belg a’r Iseldiroedd y mis nesaf i geisio datblygu cyfleoedd masnachu ac allforio newydd.
Wrth edrych ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2017, mae adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi lansio canllaw newydd i helpu manwerthwyr i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.
BlasCymru/TasteWales bydd y digwyddiad a chynhadledd masnach bwyd a diod mwyaf erioed yng Nghymru. Fe’i drefnir gan gangen Bwyd a Diod Cymru, Llywodraeth Cymru gan ddwyn ynghyd cynhyrchwyr, prynwyr a phobl proffesiynol y diwydiant bwyd yn y Celtic Manor, cartref Cwpan Ryder 2010.