eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 20 Ionawr 2017 (Rhifyn 482):

20 Ionawr 2017 • Rhifyn 482

 
 
 
 
 
 

Newyddion Addysg yng nghymru

QualsLogo130130

Canlyniadau: TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg

Mae canlyniadau TGAU heddiw yn ymwneud â chymwysterau a gafodd eu diwygio i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2015: TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg.

KW9090

Yr Ysgrifennydd Addysg ar daith casglu gwybodaeth i'r Ffindir cenedlaethol

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn y Ffindir i gasglu gwybodaeth a dysgu rhagor am system addysg y wlad, sydd yn uchel iawn ei pharch.

donaldson2 9090

Blog Cwricwlwm i Gymru newydd

 

Yr Athro Graham Donaldson 

Amdani!

Tra mae eraill yn disgwyl, mae Cymru'n gweithredu. Mae blog yr Athro Donaldson yn canmol diwygiad dewr i'r cwricwlwm.


mwy o newyddion Addysg

Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Bwrdd Cymwysterau Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r gwaith o gyfyngu a chomisiynu cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Gallech ddarllen mwy am y datblygiadau ar wefan Cymwysterau Cymru.

Cyfleoedd i ymweld â CERN ar gyfer athrawon ffiseg yn 2017

  1. Ymweld â Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) yn y Swistir yn ystod wythnos agored Athrawon DU (14 -18 Chwefror 2017). O bosib caiff eich costau teithio a llety eu talu gyda chefnogaeth y wobr ENTHUSE.  Anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb i Dysg@wales.gsi.gov.uk os gwelwch chi’n dda.
  2. Ymweld â CERN am gyfnod estynedig yn ystod Rhaglen Wythnosau Athrawon Rhyngwladol 2017 caiff eu cynnal rhwng 6-19 Awst. Dyma yw eich cyfle olaf ar gyfer eich ceisiadau.

Ymgynghoriad: Casglu data am y gweithlu ysgolion 

Hoffem gael eich barn

Sialens Cymunedol Bagloriaeth Cymru y Comisiynydd Plant

Gall disgyblion nawr cymryd Sialens Cymunedol Hawliau Plant fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru CA4. 

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

O hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer 2017 ym mis Chwefror, byddwn yn rhannu adnoddau arfer da gan yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y llynedd ar Hwb. Mae’r adnodd engreifftiol cyntaf ar gael - enillydd Gwobr Disgyblion 2016.

Arolwg Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn ynghylch y cymorth a roddir i ddysgwyr yn profi sut mae’r safle’n cael ei drefnu. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i’w gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’n dogfennau.

Prosiect 2016-2018 yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol 

Trosglwyddo o wyddoniaeth ysgol gynradd i wyddoniaeth ysgol uwchradd.

Mae Techniquest Glyndŵr wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i greu rhaglen o ddiwrnodau paratoi i ddisgyblion cynradd a fydd yn eu galluogi i ymdopi’n well â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Mae diwrnodau gan Techniquest Glyndŵr yn canolbwyntio’n benodol ar hwyluso’r trosglwyddo o wyddoniaeth CA2 i wyddoniaeth CA3.

Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 1 Mawrth .2017. 

Cysylltu Dosbarthiadau'r Cyngor Brydeinig

Ymunwch â Connecting Classrooms y Cyngor Brydeinig am gefnogaeth gyda’ch Sgiliau Ehangach a Fframwaith Cymhwysedd Digidol am ddim. Unwaith i chi ymuno, byddem yn eich cefnogi gyda phartneriaeth broffesiynol tramor, gyda grant o £3,000 ar gael am daith ryngwladol.

dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur

Cynhadledd Ranbarthol GwE: 'Dysgu ac Addysgu - Gwthio'r Ffiniau'

Dydd Iau 16 Chwefror 2017, Venue Cymru, Llandudno

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru

 

'Cudd' hyfforddi ar Gamfanteisio Rhywiol gyda Barnardo's Cymru

Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a cofrestrwch heddiw.

Digwyddiad Cadw Dysgwyr yn ddiogel ar-lein

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2017, Y Senedd, Bae Caerdydd

I gefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017, mae’r digwyddiad amser cinio hon yn nodi lansiad swyddogol Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb, platfform dysgu digidol Cymru. 

    CwrddHwb Penarth – 15 Chwefror 2017

    Dewch i glywed sut gall Hwb gefnogi eich dysgu eleni. Archebwch eich lle nawr!

    ADNODDAU A CHYSTADLAETHAU

    Coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost - 27 Ionawr

    Diwrnod Crefyddau’r Byd

    Diwrnod Crefyddau’r Byd yw 22 Ionawr. Edrychwch ar yr adnoddau am grefyddau ar Hwb!

    Cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru

    Dyddiad cau yw 10 Mawrth 2017

    Y gystadleuaeth celfyddydau creadigol blaenllaw ar gyfer pobol ifanc yng Nghymru.

    Cystadleuaeth Prosiect Gwyddoniaeth Yr Urdd

    Dyddiad cau 1 Mawrth 2017

    Ydych ddysgwyr chi’n hoff o Wyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg neu Fathemateg?

    Anogwch nhw i gystadlu fel unigolion neu grwpiau gyda’r cyfle gwych o ennill gwobr i’w wario gan ysgol y fuddugol ar unrhyw adnodd STEM

    Macbeth – Cymeriadau Grymus

    Adnodd i gyd-fynd â'r addasiad ffilm 2015 o'r ddrama Albanaidd (CA4).

    Cymru ar Ffilm - Cynradd

    Adnodd sy'n dathlu'r ystod each o ffilmiau wedi eu creu yng Nghymru neu sy'n cynnwys talent o Gymru (CA3/4).

     
     

    YNGHYLCH DYSG

    Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth ar y we:

    dysgu.cymru.gov.uk

    hwb.wales.gov.uk

    llyw.cymru

    Dilynwch ni ar Twitter:

    @LlC_Addysg

    @LlywodraethCym