|
|
Aston Martin wedi prynu safle yn Sain Tathan
Mae perthynas Llywodraeth Cymru gydag Aston Martin wedi ei
gryfhau ymhellach heddiw yn dilyn gwerthu’r safle yn Sain Tathan i’r cwmni
Prydeinig sy’n cynhyrchu ceir moethus.
Cafodd cwblhau y broses o werthu’r eiddo ei groesawu gan
Carwyn Jones y Prif Weinidog ac Andy Palmer, Llywydd a Phrif Swyddog
Gweithredol Aston Martin. Mae’n
paratoi’r ffordd ar gyfer dechrau’r gwaith ar Gam 1 canolfan weithgynhyrchu
newydd Aston Martin yn Sain Tathan.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Aston Martin eu bod wedi
dewis Sain Tathan allan o 20 o leoliadau ledled y byd yr oeddent wedi eu
hystyried ar gyfer eu hail ganolfan weithgynhyrchu, fel rhan o fuddsoddiad o
£200 miliwn mewn cynnyrch a chyfleusterau newydd.
Darllen mwy
|
|
|
Banc Cyllido a Datblygu
gwerth £136miliwn i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru wedi refferendwm yr
UE
Mae pecyn ar gyfer busnesau sy’n cynnwys cronfa fusnes
newydd gwerth £136 miliwn a sefydlu Banc Datblygu ar gyfer Cymru yn trawsnewid
y cymorth ariannol sy’n cael ei gynnig i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y
bleidlais i adael yr UE.
Dyma’r neges gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth
iddo lansio Cronfa newydd Busnes Cymru mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.
Darllen mwy
|
|
|
Hwb Economaidd dwbl i
Ogledd Cymru
Cafodd gogledd Cymru hwb ddwbl pan gyhoeddodd Ysgrifennydd
yr Economi Ken Skates £20miliwn i sefydlu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch.
Bydd gan yr athrofa ffocws cryf ar sectorau gweithgynhyrchu
uwch gan gynnwys y sectorau awyrofod, modurol, niwclear a bwyd. Ei nod yw
targedu ymchwil a datblygu ar y cyd, technegau gweithgynhyrchu uwch a phrosesau
cynhyrchu a’r angen am hyfforddiant a sgiliau ar draws y diwydiant. Bydd yn helpu i sicrhau lle amlwg i Gymru
wrth ddatblygu a chynllunio technoleg adennydd y dyfodol.
Darllen mwy
|
 |
|
Cwmni o Rydaman yn llwyddo
Mae LSN Diffusion yn
ehangu eu gwaith yn Rhydaman i fodloni y galw byd-eang sydd am ei gynnyrch
metelegol uwch-dechnolegol.
Mae’r cwmni yn
cynyddu ei gapasiti gweithgynhyrchu gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a fydd yn
creu ac yn diogelu swyddi.
Darllen mwy
|
 |
|
Cwmni o Bontypŵl i ddarparu
dyfeisiadau i brosiect Chernobyl
Mae cwmni gweithgynhyrchu Flamgard Calidair o Bont-y-pŵl
wedi ennill contract gydag adeilad cyfyngu diogel newydd Chernobyl.
Mae wedi gwneud hynny gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU drwy
Gyllid Allforio y DU (UKEF), grantiau ymchwilio a datblygu Llywodraeth Cymru a
Grŵp Bancio Lloyds.
Bydd Flamgard yn
darparu dampers tân a rhai sy'n cau i safle Chernobyl
Darllen mwy
|
|
|
Tim Meched Ysgol Uwchradd
Dinbych
Mae
tîm merched o Ysgol Uwchradd Dinbych wedi ennill her F1 i Ysgolion.
Bu
Tîm Tachyon yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn Texas.
Darllen mwy
|
|
|
Raytheon
continue RAF Sentinel support
Mae cwmni o Ogledd Cymru, sy’n derbyn
cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi derbyn contract gwerth miliynnau o bunnoedd
gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r Llu Awyr Brenhinol wedi penderfynu
ymestyn contract Raytheon UK gwerth £131 miliwn i reoli gwasanaethau cymorth ar
gyfer rhaglen Sentinel, sy’n gwylio awyrennau, ymlaen i 2021.
Darllen mwy
|
|
|
Y Riversimple Rasa ecogyfeillgar i ymddangos yn Cenex
Car celloedd tanwydd hydrogen, 2 sedd, fforddiadwy, sy'n
gwneud 250mpge yw’r Riversimple Rasa. Bydd yn gwneud ymddangosiad ecogyfeillgar
yn LCV 2016 Cenex, sioe cerbydau carbon isel bennaf y DU yn Millbrook, Bedford,
ar 14 ac 15 Medi.
Mae'r cwmni ceir ecolegol, Riversimple Movement, yn cyflogi
23 o weithwyr mewn canolfan ymchwil a datblygu yn Llandrindod ac ar hyn o bryd
mae wedi codi arian torfol ar gyfer eu Rasa (Lladin am llechen lân) i gyd-fynd
â grant UE gwerth €2miliwn.
Darllen mwy
|
|
|
Lansio Cronfa Twf a
Ffyniant newydd
Mae Cronfa Twf a Ffyniant, sef cronfa newydd gwerth
£5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei lansio’n swyddogol i gefnogi swyddi
a thwf o fewn cwmnïau ar draws Cymru.
Mae’r Gronfa, sy’n rhan o Gynllun 10 pwynt i godi hyder
busnesau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi’i rhannu’n ddwy
ran. Caiff £2m ei neilltuo i brosiectau llai a fydd yn derbyn grantiau o rhwng
£5,000 a £25,000 a chaiff £3 miliwn ei neilltuo i brosiectau buddsoddi cyfalaf
mawr a fydd yn derbyn grantiau o rhwng £50,000 a £500,000.
Darllen mwy
|
Y
Prif Weinidog yn cyfarfod ag Is-lywydd Ford Europe
Bu
y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn trafod
dyfodol y safle ym Mhen-y-Bont ar Ogwr pan fu iddynt gyfarfod ag Is-lywydd Ford
Europe, Linda Cash.
Wrth
siarad wedi’r cyfarfod, dywedodd Carwyn Jones y Prif Weinidog:
“Roeddwn
yn falch o gyfarfod Linda Cash a’i thîm uwch i drafod dyfodol gwaith Ford
Engine. Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol pan gawsom y cyfle i drafod cynlluniau i
fuddsoddi yn y safle a ffyrdd y gallwn ddiogelu gweithgynhyrchu a swyddi ym
Mhen-y-Bont ar Ogwr yn yr hirdymor.
“Bu
i bawb gytuno bod y gwaith yn rhan hollbwysig o economi weithgynhyrchu Cymru a
phwysleiswyd eto i Ford bod Llywodraeth
Cymru yn barod i helpu yn unrhyw ffordd y gall i gefnogi’r ffatri a’r
gweithlu.
"Dylid adeiladu Hinkley gyda Dur
Prydain", meddai Ysgrifennydd yr Economi
Mae
Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates wedi dweud
y bydd Hinkley Point yn hwb mawr i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a dylid ei
adeiladu gan ddefnyddio dur o Brydain.
Deillia ei sylwadau o benderfyniad
Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â Hinkley Point, sef y cyntaf mewn cyfres o
brosiectau niwclear newydd ac arfaethedig gan Lywodraeth y DU. Y nod yw sicrhau
bod cyflenwad digonol o drydan dibynadwy, fforddiadwy a charbon isel ar gael ar
draws Prydain.
Darllen mwy
Menter gwerth £14.7 miliwn a gefnogir
gan yr UE i hybu gweithgynhyrchu yng Nghymru
Caiff
menter £14.7m a gefnogir gan yr UE i fanteisio i'r eithaf ar arbenigedd ymchwil
o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru i helpu i roi hwb i’r diwydiant gweithgynhyrchu
yng Nghymru ei chyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark
Drakeford.
O dan gynllun ASTUTE 2020,
sy’n cael cymorth gwerth £10m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £4.7m o
brifysgolion sy'n cymryd rhan, bydd tîm o academyddion o’r radd flaenaf ac
arbenigwyr technegol cymwysedig iawn yn cydweithio â byd diwydiant i fynd i'r
afael â heriau gweithgynhyrchu i ddatblygu nwyddau cynaliadwy, gwerth uwch a
gwasanaethau ar gyfer y farchnad fyd-eang
Darllen mwy
Cymru mewn sefyllfa dda i adeiladu’r economi
Mae Cymru mewn sefyllfa dda i
adeiladu economi gryfach a mwy diogel, a rydym yn holi am safbwyntiau
cychwynnol ar y blaenoriaethau ar gyfer yr economi.
Cewch wybod mwy a
gwrando ar Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet a’r Seilwaith ar y
fideo
Pobl dda i wneud eu gwaith gorau yng
Nghymru
Mae
llyfryn newydd deniadol yn gwerthu Cymru i’r byd wedi ei gynhyrchu gan
Lywodraeth Cymru.
Gan
gynnwys tystiolaeth gan gwmnïau o safon megis Aston Martin ac Airbus, mae This is Advanced Materials and Manufacturing
yn arddangos popeth sydd gan Gymru i’w gynnig er mwyn denu mwy o
fuddsoddwyr lefel uchel i’r wlad.
Darllen mwy
GwerthwchiGymru: gwefan GwerthwchiGymru ar ei newydd wedd
Yr Haf hwn bydd
gwefan newydd, well GwerthwchiGymru ar ei newydd wedd.
Mae GwerthwchiGymru
yn ffordd hanfodol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau
gwerth am arian.
Mae’r porthol
gwybodaeth a chaffael yn caniatáu ichi chwilio am gyfleoedd ar gyfer
contractau, gyda gwerth oddeutu £4 biliwn o gontractau ar gyfer nwyddau a
gwasanaethau y sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y safle pob
blwyddyn.
Mae 80% yn gyfleoedd
llai sy’n cael eu cynnig gan ystod eang o sefydliadau sy’n derbyn cyllid y
cyhoedd – fell mae contractau ar gyfer busnesau o bob mathau ac o bob
maint.
Darllen
mwy.
Gweithgynhyrchu a
deunyddiau: gwneud cais am gyllid arloesi
Mae
busnesau o Brydain yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyfran o £15 miliwn i
weithio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r heriau ym maes gweithgynhyrchu a
deunyddiau.
Mae
gan Innovate UK hyd at £15
miliwn i’w fuddsoddi mewn prosiectau busnes sy’n chwilio am atebion i heriau
technegol a masnachol ym maes gweithgynhyrchu a deunyddiau.
Darllen mwy
Digwyddiadau Nabod Ein Diwydiannau Newydd
Mae Nabod ein Diwydiannau wedi cael hoe
dros yr haf ac mae nawr yn llawn egni ar gyfer ei drydedd flwyddyn.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Nabod ein
Diwydiannau wedi rhoi cyfle i fusnesau ledled Cymru ymweld ag ystod eang o
gwmnïau gan weld sut maen nhw’n gweithio ac yn rhannu arferion gorau mewn sawl
sector diwydiant a maes gwaith.
Darllen mwy
|