Cylchlythyr Arloesi ̶ rhifyn 17 ̶ Tachwedd 2016

Tachwedd 2016

English

 
 
 
 
 
 
GL Jones

 

Partneriaeth y Gogledd yn mynd o nerth i nerth

Mae’r hyn mae cwmni teuluol yn ei gynhyrchu, ynghyd â’i gyfran o’r farchnad, wedi cynyddu ar ôl  iddo weithio mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai.

Gwnaeth GL Jones Playgrounds, sydd wedi'i leoli yng Ngwynedd, fanteisio ar gynllun y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

 

Mae hwn yn helpu busnesau i arloesi a thyfu drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phrifysgol ac unigolyn sydd wedi graddio er mwyn gweithio ar brosiect penodol.

 

Gall prosiectau KTP barhau rhwng 12 a 36 mis a chânt eu cyllido'n rhannol yng Nghymru gan grant a roddir gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth

Venturefest

Busnesau’n chwalu’r rhwystrau

Gwnaeth dros 1300 o entrepreneuriaid, buddsoddwyr ac arloeswyr dyrru i Stadiwm SWALEC ar gyfer 4ydd Venturefest Cymru. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn.

 

Daeth y nifer mwyaf erioed o gynrychiolwyr ynghyd ar gyfer y digwyddiad. Y nod oedd sbarduno twf busnes yng Nghymru. Roedd arddangoswyr yn cynnwys OR3D, a hwnnw'n gwmni sydd wedi cael cymorth Arloesi gan Lywodraeth Cymru.

 

I gofrestru’ch diddordeb yn Venturefest 2017 ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.

Screentec

Mae Screentec yn rhoi gwedd fwy gystadleuol i fusnesau

Mae cwmni Screentec yng Nglynrhedynog wedi  elwa ar gymorth ymgynghori oddi wrth Lywodraeth Cymru, a hwnnw’n gymorth am ddim. Roedd y cymorth, a gefnogwyd gan gyllid yr UE, yn helpu i nodi meysydd busnes y gellid eu gwella'n gyffredinol. Rhoddwyd argymhellion am y camau a oedd yn angenrheidiol i sicrhau'r gwelliannau hynny. 

 

Caiff y cymorth ei ddarparu gan ymgynghorwyr cymwys ac mae'r cymorth hwnnw'n canolbwyntio ar helpu pobl i fod yn fwy cystadleuol drwy wella cynhyrchiant, ansawdd ac effeithlonrwydd, ynghyd â datblygu cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd.

 

Rhagor o wybodaeth

Wi-Fi Cyflym o'ch sedd ar awyren

 Ymhlith yr heriau y mae byd diwydiant wedi’u rhoi i Lywodraeth Cymru ar ei phorthol newydd mae dod o hyd i ateb er mwyn gwella lled band ar gyfer teithwyr ar awyrennau a rheoli asedau tanddaearol Prydain yn well. Mae ein hadran newydd ar heriau a chydweithio ym maes Diwydiant ar wefan Arbenigedd Cymruar yn ei gwneud yn bosibl i fusnesau a’r byd academaidd nodi cyfleoedd i gydweithio. I weld rhestr lawn o'r heriau, ewch i Arbenigedd Cymru.

Heriau Menter Ymchwil Busnesau Bach– Creu gwerth o decstiliau sy’n dod o fatresi gwastraff

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio cystadleuaeth gwerth £350k i fusnesau ddatblygu syniadau a phrofi dulliau arloesol er mwyn creu gwerth allan o Decstiliau sy’n dod o Fatresi Gwastraff. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyllid o 100%i brofi pa mor ymarferol yw’r  atebion arloesol hynny ac i ddangos bod rhagor o atebion cynaliadwy ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem hon.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Enwi enillwyr Launchpad Ffotoneg y Gogledd

Mae pump o’r cwmnïau mwyaf cyffrous sydd yn eu cyfnodau cychwynnol ac sy’n canolbwyntio ar fusnesau ym maes ffotoneg, electro-opteg ac opto-electroneg yn y Gogledd wedi dod i’r brig yng Nghystadleuaeth Innovate UK. Bydd y cwmnïau’n cael cymorth gan amryw o bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

.

Digwyddiadau

Briff ar gyfer y Gystadleuaeth: Deunyddiau a Gweithgynhyrchu  ̶  1 Rhagfyr 2016

Bydd Innovate UK yn buddsoddi dros £15m mewn prosiectau arloesol sy’n ymwneud â deunyddiau a gweithgynhyrchu. Os ydych yn teimlo y gallai eich prosiect fod o fudd i bobl oresgyn heriau technegol a masnachol, dewch i’n digwyddiad briffio.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Seremoni Gwobrau Arloesi ar gyfer Myfyrwyr 15 Rhagfyr 2016

Bydd y seremoni wobrwyo yn rhoi sylw i waith y genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac yn gwobrwyo’r gwaith hwnnw. Mae'r seremoni'n dilyn dwy arddangosfa lwyddiannus a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Stadiwm SWALEC ym mis Hydref. Gwnaeth pob arddangosfa roi llwyfan i 80 o'r prosiectau dylunio mwyaf arloesol gan bobl ifanc ledled Cymru. Bydd y prosiectau a fydd yn ennill yn cael eu harddangos yn y Senedd rhwng 10am a 2pm.

 

Rhagor o wybodaeth

BioCymru 7 - 8 Mawrth 2017 - Canolfan Mileniwm Cymru

Bellach yn ei 15fed flwyddyn, thema'r digwyddiad yw Iechyd a Chyfoeth, lle bydd y ffocws ar y cyfleoedd unigryw mewn Therapi Celloedd, Meddygaeth Aildyfu a Thechnolegau Meddygol. Bydd digwyddiad 2017 yn dod ag arbenigwyr y diwydiant, buddsoddwyr mewn gwyddorau bywyd a rhwydweithiau rhyngwladol at ei gilydd. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar gyfathrebu rhwng busnesau, y byd academaidd a gofal iechyd.

Rhwng nawr â 2 Rhagfyr, mae BioCymru yn cynnig gostyngiad o 40% i Gynrychiolwyr sy’n archebu’n gynnar. Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth am sut i drefnu lle yn y digwyddiad.

Rhagor o wybodaeth

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: