Dewch
i weld Siôn Corn neu wneud ychydig o siopa munud olaf y Nadolig hwn.
Wrth
i’r Nadolig nesáu, dewch am dro i’n canolfannau ymwelwyr i weld hoff nwyddau
ein cwsmeriaid e.e. Calendr Cadw a nwyddau mwy anghyffredin gan gyflenwyr annibynnol
o Gymru. Croeso cynnes i chi fwynhau awyr iach y gaeaf a dewis anrheg unigryw i
rywun arbennig yn eich bywyd.
Mae
lluniau trawiadol o’n safleoedd ledled Cymru yng Nghalendr Cadw eleni. Dangosodd Cadw ei gefnogaeth i dîm pêl-droed
Cymru drwy’r oleuo Castell Caerffili a Chastell Coch yn lliw coch, ac mae’r ddau
gastell i’w gweld yn ein calendr newydd.
Bydd y gweithdai traddodiadol o Wneud Torchau
yng Nghastell Coch y penwythnos hwn (26–27 Tachwedd), ac ym Mhlas Mawr 10–11 Rhagfyr.
|
|
Mae Siôn Corn ar ei ffordd …
|
|