|
|
Ar ddydd Mawrth 22 Tachwedd, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynigion annibynnol sy'n golygu y caiff myfyrwyr swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio.
|
|
|
Dyddiad cau: 2 Rhagfyr 2016
Dim ond peth amser sydd ar ôl i’r
gweithlu addysg ddweud eu dweud am y pethau sy'n effeithio ar eu gwaith megis
datblygiad proffesiynol, rheoli perfformiad a llwyth gwaith. Mae’r arolwg
ar gael yn ddwyieithog ar-lein ar www.cga.cymru.
|
|
|
Darganfyddwch mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn trawsnewid y system ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Amlinellodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y system newydd yn ei Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig.
#AnhenionDysguYchwanegol
|
|
|
Gall carbon monocsid (CO) ladd. Gellir atal gwenwyno trwy CO yn
hawdd. Darllenwch ymlaen i weld sut.
|
|
|
Mae gwybodaeth am ddyddiadau cynnal y profion yn 2017 a dyddiadau pwysig eraill ar gael yma.
|
Mae’r llawlyfr yn nodi’r trefniadau profion darllen a rhifedd cenedlaethol 2017. Mae’n cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch archebu papurau profion, gweinyddu’r profion a threfniadau mynediad a datgymhwyso.
Ar ddydd Llun 21 Tachwedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau band eang cyflym iawn, diolch i £5m o gyllid newydd.
Ar ddydd Iau, 17 Tachwedd, datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams fod academi newydd wedi’i sefydlu sef Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.
Mae’r
Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams wedi lansio ymgynghoriad ar
nifer o gynigion newydd i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu i benodi
llywodraethwyr sydd â'r sgiliau angenrheidiol ac i drefnu eu hunain mewn ffordd
sy'n diwallu eu hanghenion.
Helpwch i ffurfio dyfodol arolygu yng Nghymru.
Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer y modd y maent yn
arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Bydd y cynigion yn dod i rym Medi 2017.
#cwricwlwmiGymru #cymhwysedddigidol
Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol (PQL) ddiwygiedig, yn nodi cyrsiau TGAU a Safon Uwch i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2017, yn ogystal â chyfres o gymwysterau mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2019. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.
Datganwch eich diddordeb – Dysg@wales.gsi.gov.uk
Yn agored
i holl athrawon gwyddoniaeth uwchradd. Dyddiad cau 31 Rhagfyr 2016. Ffurflen gais
O dan nawdd
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Dydd Mawrth
29 Tachwedd 2016, Pierhead, Bae
Caerdydd 11:45am – 2pm
Mae pedwar deg pump o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi ennill medalau yng nghystadleuaeth sgiliau mwyaf y DU, WorldSkills UK.
Mae Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod prosiect i wella sgiliau a rhagolygon swyddi pobl ifanc yn cael ei ymestyn i Ddwyrain Cymru diolch i £1 miliwn yn ychwanegol gan yr UE.
Wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r UE, mae ColegauCymru yn manteisio ar y
cyfle i lwyfanu enghreifftiau da o bartneru rhwng colegau yng Nghymru a’u
cyfoedion Ewropeaidd.
Cewch gyfle i glywed am y manteision gydweithio gyda Ewrop, ac am y
buddiannau i Gymru o ganlyniad i fuddsoddiad arian Ewropeaidd.
Yn agosach at adref fydd enghraifft o’r Alban sy’n rhoi mewnwelediad i
fodel ‘Cydnabod Dysgu Blaenorol’ (Recognition of Prior Learning).
Ydi’r dylunydd mawr nesaf yn eich
ysgol chi? Gofynnwch i ddysgwyr greu
logo newydd ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2017.
Cadw
dysgwyr yn ddiogel
-
Modiwl 1 - cyflwyniad cyffredinol i ddiogelu
-
Modiwl 2 - yn
disgrifio rôl yr uwch swyddog dynodedig (DSP)
-
Modiwl 3 - yn
ymwneud ag astudiaethau achos
Cafodd Cadw
dysgwyr yn ddiogel ei gyhoeddi ar ddechrau 2015 ar ôl i
randdeiliaid nodi bod angen dulliau dysgu cyson er mwyn helpu i weithredu'r
canllawiau. Mae'r modiwlau hyn ar gyfer pob aelod o staff mewn lleoliad
addysgol. Gellir agor y modiwlau drwy fynd i'r RHESTR CHWARAE. Nid oes angen
mewngofnodi i Hwb.
Geiriaduron ar-lein
Cymraeg-Almaeneg a Cymraeg-Sbaeneg
Geiriaduron ar-lein ar gyfer myfyrwyr TGAU. Ceir adran ar ferfau yn ogystal â gemau chwilair, hangman
a chroeseiriau. Mae’r cyfan ar gael ‘nawr ar Hwb!
Gall ysgolion fynd ati bellach i greu cyfrifon ar
gyfer eu Corff Llywodraethu er mwyn iddynt allu manteisio ar rai o'r nodweddion
a gynigir gan Hwb.
Yr adnodd sydd dan sylw yr wythnos
hon yw Biomecaneg
TGAU: Dadansoddi symud (CA4)
Canllawiau i athrawon ar gyfer creu a rhannu eich
adnoddau eich hunan ar Hwb.
Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin
diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw
sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso
i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu eich barn. Mae yna tua 21,500 o
lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr
ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr.
Pecyn Symbolau Hawliau Plant
Mae swyddfa’r Comisiynydd Plant
wedi lansio adnodd ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc gyda anghenion dysgu
arbennig ynglyn â’u hawliau dynol, wedi’u amlinellu yn CCUHP. Mae’r adnodd ar
gael am ddim o www.complantcymru.org.uk
Addysg gyfrifiadurol
Mae’r Gymdeithas Frenhinol wedi comisiynu Pye Tait i ddeall sut mae gwersi cyfrifiadurol (gan gynnwys TGCh) yn cael eu cyflwyno yn ysgolion cynradd ac uwchradd/colegau y DU, gan gynnwys y rhwystrau sy’n codi. Rydym yn annog pawb sy’n addysgu’r pwnc hwn i ymateb, fel y gallwn eich cefnogi yn y dyfodol. I gwblhau’r arolwg ar-lein, ewch i wefan Pye Tait.
13 – 15 Ionawr
2017, Neuadd Gregynog
Wyddoch chi fod dysgu Lladin yn gallu helpu efo
llythrennedd a dysgu ieithoedd eraill?
Dyma gyfle cyffrous i ddysgu sut y gall y Clasuron a Lladin gael eu plethu
i mewn neu ei gynnwys yn eich addysgu cyfredol. Mae’n agored i unrhyw athro,
mewn unrhyw bwnc, mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru. Cysylltwch â Catherine Rozier am fanylion
pellach catherinerozier@swansea.ac.uk
IPLC Canada- Ieithoedd Modern Tramor Ceisiadau ar agor!
Roedd cynllun ‘Dyfodol Byd-eang’ y Llywodraeth
Gymraeg, lansiwyd ym Mehefin 2015, am ddelio gyda dirywiad graddol o’r
niferoedd o ddisgyblion sy’n astudio ieithoedd modern tramor ar gyfer TGAU.
Bydd taith IPLC 2017 i Ganada, mewn cydweithrediad a British Council Canada a
Gweinidogaeth Addysg Ontario, yn archwilio arloeson mewn dysgu ieithoedd a
strategaethau i ymgysylltu disgyblion yng Nghymru gyda dysgu ieithoedd. Cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org am
fwy o wybodaeth.
|