|
|
Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn cael ei gynnal ar 7
Chwefror 2017 ac mae gennym her newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
Dyma alw ar ddysgwyr i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i greu logo newydd ynghylch diogelwch
ar-lein yng Nghymru.
|
|
|
Deunaw diwrnod ar ôl am eich
ymateb!
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050. Rydym yn cydnabod maint yr her a phwysigrwydd pawb sy’n gweithio yn y
system addysg i gyrraedd y nod. Rydym yn awyddus felly i glywed eich barn chi
ar ein strategaeth ddrafft, yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau sydd gennych chi
ar sut i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg! I ymestyn y neges drwy gyfryngau cymdeithasol defnyddiwch yr hashnod #Cymraeg2050
|
Mae’r rownd olaf o geisiadau ar gyfer y rhaglen
Ysgolion Creadigol Arweiniol ar agor. Mae ysgolion yn barod yn elwa o’r arfer
creadigol sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen, sydd hefyd yn rhan annatod o ddatblygiad y
cwricwlwm newydd.
Ddechrau 2017, bydd cynllun newydd, Gofal Plant Di-Dreth, yn
dechrau cael ei gyflwyno gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu rhieni sy’n
gweithio gyda’u costau gofal plant. Gall rhieni agor cyfrifon gofal plant
ar-lein i dalu eu darparwyr yn uniongyrchol.
Dylai
darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymru (CSSIW), gan gynnwys y rheini sy’n darparu gwasanaethau ar
safle ysgolion neu mewn partneriaeth ag ysgolion, fod wedi derbyn yn ddiweddar
lythyr yn eu gwahodd i ymuno â’r cynllun a gallant gofrestru ar y cynllun
ar-lein nawr.
Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i
gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i
gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar
gyfer y dyfodol. Yr ymarferwr sy’n
berchen ar ei Basbort ei hyn ac bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy
a sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.
Archebwch eich lle nawr!
Hoffech chi weld
arfer dda athrawon sydd ar flaen y gad yn eu defnydd o dechnoleg?
Lleoliad
athro i ymweld â CERN - 7-11 Chwefror 2017
Mae gwahoddiad i chi fynegi'ch diddordeb ar gyfer
recriwtio athrawon ysgolion uwchradd i ymweld â CERN. Cyfle unwaith ac
am byth a wnaiff ymestyn eich profiadau a chyfoethogi bywydau’ch
myfyrwyr. Caiff costau teithio, cynhaliaeth a chostau cyflenwi dysgu eu cefnogi tra o’r ysgol. Fideo o’r
athrawon gwyddoniaeth cyntaf o Gymru yn CERN.
E-bostiwch DYSG am eich datganiadau o diddordeb neu am ragor o wybodaeth.
Hoffem glywed eich barn am y meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni
addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru a’r cynigion i wella swyddogaethau a rôl Cyngor y
Gweithlu Addysg.
Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Y Rhaglen
Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf,
Kirsty Williams AC.
20 Hydref 2016
Caiff Gwobrau
Prentisiaethau Cymru eu cyflwyno wythnos nesaf yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y
gwobrau hyn yw cydnabod llwyddiannau unigolion, cyflogwyr a darparwyr ar draws
Cymru.
17-19
Tachwedd yn yr NEC Birmingham
Mae’r Sioe Sgiliau, yr achlysur mwyaf ar gyfer
sgiliau yn y Deyrnas Unedig, yn cymryd lle yn NEC Birmingham ar 17-19 Tachwedd.
Bydd cystadleuwyr yn ymladd am yr aur mewn amrywiaeth o sgiliau gwahanol, o
drin gwallt i beirianneg awyrenegol, Dylunio Gwefannau i plastro. Byddai
ymweliad i’r Sioe Sgiliau yn cynnig cyfle i gefnogi #TeamWales ac i wylio’r
unigolion talentog yn gwneud ei gwneud, yn ogystal ag ymweld â stand Cymru a
rhoi eich hunain ymlaen am amrediad o sesiynau rhyngweithiol.
Caiff y
cylchgrawn ei gyhoeddi’n flynyddol er mwyn
cyhoeddi deunydd sy’n dyfnhau dealltwriaeth o ymarfer gorau ar draws
sectorau addysg Cymru.
Mae samplau amrywiol o adnoddau cyfrifiadureg Barefoot Computing nawr ar
gael ar Hwb (mewngofnodwch). Mae’r casgliad yn cynnwys adnoddau i gefnogi’r fframwaith
cymhwysedd digidol, a deunyddiau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a
dysgwyr AAA.
Mae safleoedd Hwb+ wedi newid
ychydig o ran pryd a gwedd a naws. Bellach, mae yna ddewislen ‘gosodiadau’ ar y
brig ar y dde, ac mae yna adran ‘cynnwys y safle’ ac adran ‘Apiau’ newydd.
Mae canllawiau ar gyfer Hwb+ wedi’u
diweddaru a gellir dod o hyd iddynt yn yr adran cymorth a chefnogaeth newydd.
Gweithdy RHAD AC AM DDIM Llywodraeth
Cymru a Dangos Hiliaeth y Cerdyn Coch
19 Tachwedd,
Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd
Darlithoedd a
gweithdai ysbrydoledig ar gyfer athrawon ysgolion Cynradd ac Uwchradd sydd â’r
bwriad o gyfeirio at gwricwlwm newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg.
Archebwch eich lle rhad ac am ddim ac eich dewisiadau
gweithdy (gwefan Saesneg yn unig).
Am ragor o
wybodaeth, e-bostiwch, cerianangharad@ase.org.uk
(07870 351212).
29 Tachwedd 2016 - Y Pierhead, Bae Caerdydd 11:45–14.00pm
O dan
nawdd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Taith IPLC Cymhwysedd Digidol i Hong Kong 2017
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd i
Gymru i fod ar gael. Wrth ystyried hyn, pwrpas trosfwaol IPLC 2017 i Hong Kong
yw ysbrydoli ymagweddau newydd i wella cymhwysedd digidol ar draws ardaloedd y
cwricwlwm bydd yn trawsnewid gweithred o fewn ysgolion Cymraeg.
Ebostiwch am fwy o wybodaeth ac am
ffurflen gais.
Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin
diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw
sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso
i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu eich barn. Mae yna tua 21,500 o
lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr
ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr os gwelwch chi'n dda.
Cynhyrchwyd y ffilmiau ber ysbrydoledig yma a’u
trefnwyd i dri grŵp – y Gwyddorau, y
Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Ffilmiau ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch ydynt
ac ar gyfer pawb u’w gwylio a rhannu!
Mae Oxfam wedi lansio prosiectau
dinasyddiaeth fyd-eang a gweithdai newydd – gweler y manylion yn adran
newyddion Hwb.
Os yw’ch corff chi’n darparu rhaglenni rhianta fel Rhaglen Cysylltiadau
Teuluol: Magu Plant neu'r Blynyddoedd
Rhyfeddol a'n hoffi rhoi’r sgiliau a’r hyder i rieni allu
addysgu eu plant am arian, darllenwch ymlaen.
Thema Diwrnod Bwyd y Byd wythnos
nesa yw newid hinsawdd ac yn edrych ar ei effaith ar ffermio a'n gallu i
fwydo'r byd.
|