|
|
Wrth i’r hydref fynd rhagddo, mae
pethau’n cyflymu. Mae’r arolygiadau peilot cyntaf yn dechrau ym mis Tachwedd a
bydd ail ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn cael ei lansio ar ddiwedd mis Hydref.
Ymagwedd Estyn at ddiwygio'r cwricwlwm (PDF)
|
|
|
'Rydym eisiau clywed barn rhieni er mwyn dysgu
am eich profiadau o ofal plant a’ch cynnwys chi yn y gwaith o ddatblygu ein
cynnig. Ewch i’r wefan i rannu eich profiadau, ac i ddod o hyd i fwy o
wybodaeth am y cynnig gofal plant newydd. Chwiliwch
am #TrafodGofalPlant ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn ymuno yn ein sgwrs
ar-lein.
|
|
|
Mae'r cylch olaf o
geisiadau ar gyfer y rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi agor. Mae ysgolion yn
barod yn elwa o’r arfer creadigol sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen,
sydd hefyd yn rhan annatod o ddatblygiad y cwricwlwm newydd.
|
Portffolio
ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig,
gyda’r bwriad o’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a
chynllunio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol. Yr ymarferwr sy’n berchen ar ei
Basbort ei hyn ac bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy a sut y dylai
hi neu fe rannu’i Basbort.
Canllawiau
a chwestiynau cyffredin diwygiedig i gyd-fynd gyda chyhoeddiad canlyniadau 2016
(i'w gyhoeddi ym mis Ionawr 2017).
Gallwch
ddarllen adroddiad lawn Estyn yma
Dros
y deng mlynedd diwethaf mae Cymru o Blaid Affrica y Llywodraeth Cymru wedi
helpu pobl i chwarae mwy o ran mewn gwaith datblygu rhyngwladol drwy weithio a
chydweithredu ag unigolion, cymunedau, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus.
Fel rhan o’r dathliadau dengmlwyddiant hoffai’r Gwir Anrhydeddus Carwyn
Jones AC, y Prif Weinidog gydnabod gwaith y prosiectau cyswllt rhwng
ysgolion Cymru ac Affrica dros y 10 mlynedd diwethaf.
Hoffem
glywed eich barn am y meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i
athrawon (AGA) yng Nghymru a’r cynigion i wella swyddogaethau a
rôl Cyngor y Gweithlu Addysg.
Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Y Rhaglen Newid Addysg
Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf,
Kirsty Williams AC.
19
Tachwedd, Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd
Darlithoedd a
gweithdai ysbrydoledig ar gyfer athrawon ysgolion Cynradd ac Uwchradd sydd â’r
bwriad o gyfeirio at gwricwlwm newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg. Archebwch eich lle rhad ac am ddim ac eich dewisiadau gweithdy (gwefan Saesneg yn unig).
Am ragor o
wybodaeth, cerianangharad@ase.org.uk
(07870 351212).
Cyfle
penigamp ar y 15 Hydref i’ch ysgol chi cael hwyl a rhannu syniadau yn Gymraeg.
Sut
felly, gall eich ysgol gymryd rhan? Gallech rannu digwyddiadau’ch
ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech ychydig o ysbrydoliaeth cyn
y 15fed, cliciwch yma am syniadau o 2013-2015 #shwmaesumae
Dyddiad i’ch
dyddiadur! Gweithdy RHAD AC AM DDIM Llywodraeth Cymru a Dangos Hiliaeth y
Cerdyn Coch
Cyfarfodydd
anffurfiol yw CwrddHwb ar gyfer y rheini sy’n chwilio am syniadau arloesol ar
gyfer addysgu a dysgu digidol. Mae siaradwyr am ein CwrddHwb Tymor yr Hydref yn
cynnwys IntoFilm Cymru, Ysgol Gynradd Johnstown, Ysgol Gynradd yr Holl Saint a
J2e. Archebwch eich le nawr!
Trosglwyddo
o wyddoniaeth ysgol gynradd i wyddoniaeth ysgol uwchradd
Mae
Techniquest Glyndŵr wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i greu rhaglen
o ddiwrnodau paratoi i ddisgyblion cynradd fydd yn eu galluogi i ymdopi’n well
â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Mae diwrnodau Techniquest Glyndŵr yn canolbwyntio’n
benodol ar hwyluso’r trosglwyddo o wyddoniaeth CA2 i wyddoniaeth CA3.
-
Dyddiad: 14 Tachwedd 2016
-
Amser: 14:30 - 17:00
-
Lle: Techniquest Glyndŵr
Nawr,
gall athrawon ailosod cyfrineiriau dysgwyr. Mae diogelwch cyfrineiriau wedi’i
wella o ran dysgwyr ysgol uwchradd a chaiff cyfrineiriau newydd eu creu’n
awtomatig pan fydd dysgwr yn symud ysgol.
Mae'r
adnoddau diweddaraf ar Hwb yn cynnwys:
Mae ein tudalen ar Ddiwrnod Defnyddio’r
Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017 nawr ar gael ar Hwb!
|