eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 7 Hydref 2016 (Rhifyn 472)

 

7 Hydref 2016• Rhifyn 472

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

estyn130130  

Newidiadau i arolygiadau o 2017 ymlaen

 

Wrth i’r hydref fynd rhagddo, mae pethau’n cyflymu. Mae’r arolygiadau peilot cyntaf yn dechrau ym mis Tachwedd a bydd ail ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn cael ei lansio ar ddiwedd mis Hydref.

 

Ymagwedd Estyn at ddiwygio'r cwricwlwm (PDF)

childcare130130  

Rydym eisiau clywed eich barn i ddatblygu'r cynnig newydd o 30 awr o ofal plant am ddim ymhellach

 

'Rydym eisiau clywed barn rhieni er mwyn dysgu am eich profiadau o ofal plant a’ch cynnwys chi yn y gwaith o ddatblygu ein cynnig. Ewch i’r wefan i rannu eich profiadau, ac i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cynnig gofal plant newydd.  Chwiliwch am #TrafodGofalPlant ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn ymuno yn ein sgwrs ar-lein.

 

ACLP130130  

Ysgolion Creadigol Arweiniol – Ffenestr ceisiadau ar agor

Ddoe (6 Hydref) fe agorwyd y cylch olaf o geisiadau ar gyfer y rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae ysgolion yn barod yn elwa o’r arfer creadigol sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen, sydd hefyd yn rhan annatod o ddatblygiad y cwricwlwm newydd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.  Yr ymarferwr sy’n berchen ar ei Basbort ei hyn ac bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy a sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.

Categoreiddio Ysgolion Cenedlaethol

 

Canllawiau a chwestiynau cyffredin diwygiedig i gyd-fynd gyda chyhoeddiad canlyniadau 2016 (i'w gyhoeddi ym mis Ionawr 2017).

CwrddHwb Tymor yr Hydref

 

Cyfarfodydd anffurfiol yw CwrddHwb ar gyfer y rheini sy’n chwilio am syniadau arloesol ar gyfer addysgu a dysgu digidol. Mae siaradwyr am ein CwrddHwb Tymor yr Hydref yn cynnwys IntoFilm Cymru, Ysgol Gynradd Johnstown, Ysgol Gynradd yr Holl Saint a J2e. Archebwch eich le nawr!

 

 

Ymateb i adolygiad thematig Estyn o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol

 

Gallwch ddarllen adroddiad lawn Estyn yma

Adrodd ar berfformiad ysgolion – bwletin 2 - Hydref 2016

 

Mae ein hail fwletin ar adrodd ar berfformiad ysgolion bellach wedi'i gyhoeddi. Mae'r rhifyn hwn yn nodi rhagor o fanylion am y newidiadau yn cael eu cymhwyso i fesurau perfformiad dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac yn darparu atebion i rai o'r ymholiadau cyffredin a geir. 

Lleoliad athro i ymweld â CERN - 7-11 Chwefror 2017

Mae gwahoddiad i chi fynegi'ch diddordeb ar gyfer recriwtio athrawon i ymweld â CERN. Cyfle unwaith ac am byth a wnaiff ymestyn eich profiadau a chyfoethogi bywydau’ch myfyrwyr.  Caiff costau teithio, cynhaliaeth a chostau cyflenwi  dysgu eu cefnogi tra o’r ysgol. Dyma brofiad Steffan Tudor o Ysgol Glan Clwyd a aeth llynedd.

 

Datganiadau i Manon Edwards neu Colin Kaijaks os gwelwch chi'n dda. 

Dengmlwyddiant Cymru o Blaid Affrica – Neges fideo i ysgolion gan Carwyn Jones AC

 

Dros y deng mlynedd diwethaf mae Cymru o Blaid Affrica y Llywodraeth Cymru wedi helpu pobl i chwarae mwy o ran mewn gwaith datblygu rhyngwladol drwy weithio a chydweithredu ag unigolion, cymunedau, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Fel rhan o’r dathliadau dengmlwyddiant hoffai’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog gydnabod gwaith y prosiectau cyswllt rhwng ysgolion Cymru ac Affrica dros y 10 mlynedd diwethaf.

 

Newidiadau i'r Arolwg o Gyrchfannau ar gyfer 2016 a diweddaru'r Prosbectws Ardal Gyffredin ar gyfer 2016-17

Hysbyseb am rai newidiadau pwysig sy'n ymwneud â’r Arolwg o Gyrchfannau myfyrwyr ar gyfer 2016/17 a gynhaliwyd gan Gyrfa Cymru, ac i'ch annog i barhau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Prosbectws Ardal Gyffredin cynhwysfawr o ansawdd uchel i bobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau am eu dysgu yn eich ardal, fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.

Skills Cymru ‘Ffocws ar wyddoniaeth’ 12-13 Hydref, Arena Motorpoint, Caerdydd

Cyfle i bobl ifanc i gwrdd â chyflogwyr o gwmnïau lleol i ddysgu  sut mae cymwysterau gwyddoniaeth yn agor drysau i yrfaoedd cyffroes.

Dewch i dorchi llewys a chymryd rhan mewn heriau rhyngweithiol, yn cynnwys arbrawf gyda Hylif Nitrogen.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2016

Caiff Gwobrau Prentisiaethau Cymru eu cyflwyno ar 20 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y gwobrau hyn yw cydnabod llwyddiannau unigolion, cyflogwyr a darparwyr ar draws Cymru.

 

Mae pecynnau noddi ar gael ar sawl gwahanol lefel a pho gynharaf y byddwch yn sicrhau nawdd, y mwyaf o gyfleoedd a fydd ar gael i chi. 

 

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2049 5861

DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR

Diwrnod Shwmae Sumae - 15 Hydref 2016  wythnos i fynd!

Cyfle penigamp i’ch ysgol chi cael hwyl a rhannu syniadau yn Gymraeg.

 

Sut felly, gall eich ysgol gymryd rhan?  Gallech rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech ychydig o ysbrydoliaeth cyn y 15fed, cliciwch yma am syniadau o 2013-2015  #shwmaesumae

Cynhadledd (am ddim) i Athrawon Bwyd TGAU gan Hybu Cig Cymru ac Meat & Education

Novotel Caerdydd 19 Tachwedd 2016 0900-1300

 

Bydd y sesiynau yn cefnogi’r arholiad newydd TGAU Bwyd a Maeth a bydd cynrychiolydd o CBAC ar law i sgwrsio.

E-bostiwch am ragor o fanylion neu i archebu lle

hwb

Gwelliannau o ran rheoli cyfrineiriau Hwb+

Nawr, gall athrawon ailosod cyfrineiriau dysgwyr. Mae diogelwch cyfrineiriau wedi’i wella o ran dysgwyr ysgol uwchradd a chaiff cyfrineiriau newydd eu creu’n awtomatig pan fydd dysgwr yn symud ysgol.

Adnoddau Newydd Hwb

Mae'r adnoddau diweddaraf ar Hwb yn cynnwys:

Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017

 

 

Mae ein tudalen ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017 nawr ar gael ar Hwb! 

 
 

 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym