|
|
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd
Addysg, Kirsty Williams yn ddiweddar y bydd y ffordd y caiff athrawon eu
hyfforddi yng Nghymru yn newid, gyda rôl gynyddol i ysgolion a mwy o fewnbwn
gan brifysgolion er mwyn codi safonau.
|
|
|
Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i
gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i
gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar
gyfer y dyfodol. Yr ymarferwr sy’n
berchen ar ei Basbort ei hyn ac bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy
a sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.
|
|
|
Ydych chi’n sicrhau bod y gwiriadau iawn o ran diogelwch a chymwysterau wedi’u gwneud wrth gyflogi athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi?
|
Ymateb i adolygiad
thematig Estyn o gymedroli asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 2 a
Chyfnod Allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb.
Os felly, gallai
rieni a gofalwyr ddefnyddio Gofal Plant di-dreth i dalu am y gweithgareddau
gofal plant hyn. Cofrestrwch ar-lein pan
fyddwch yn derbyn eich llythyr gwahoddiad gan Lywodraeth DU yn yr hydref er
mwyn sicrhau y gallwch dderbyn taliadau drwy Ofal Plant di-dreth (Saesneg yn
unig).
Mae Arweinwyr Digidol ar gael yn eich Consortia Addysg Rhanbarthol i'ch cefnogi
gyda mabwysiadu a defnyddio offer digidol a'r adnoddau sydd ar gael drwy Hwb a
Hwb+.
Rhaglen hyfforddi
drwy waith yw Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Bydd yn cyllido pobl ifanc 25 oed
neu’n hŷn, sy’n gweithio yn y sector gofal plant, sector y blynyddoedd cynnar
(gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen) a’r sector chwarae yng Nghymru i ennill
cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar lefel 2 a 3.
Gall pob ysgol
gynradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i hybu hawliau plant yng Nghymru trwy’r
cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd difyr i ddysgu
am hawliau plant a rhoi gwybod i’r Comisiynydd beth yw eu barn.
Dyddiad i’ch dyddiadur! Gweithdy RHAD
AC AM DDIM Llywodraeth Cymru a Dangos Hiliaeth y Cerdyn Coch
Ydych chi’n dysgu
yn ardal Aberteifi? Dewch i glywed sut gall Hwb gefnogi eich dysgu yng
NghwrddHwb Aberteifi ar 2 Tachwedd.
Grant Amddifadedd Disgyblion
Roedd gwybodaeth anghywir yn ymwneud â chynhadledd yng Nghaerdydd yn nodi
bod cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion yn dod i ben ym mis Mawrth 2017. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi
cytuno ar gyfres o flaenoriaethau sy’n cynnwys sicrhau bod pob plentyn yn cael
y cychwyn gorau mewn bywyd drwy ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion. Bydd
cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ddyblu o
£300 i bob dysgwr cymwys. Cyhoeddir manylion pellach am hyn maes o law.
Rydym ni’n galw
ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech cystal â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i
roi gwybod i ni pa faterion e-Ddiogelwch rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau
rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r
adnoddau hyn yn eich helpu i amddiffyn plant ar-lein.
Mae ein tudalen
ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy
Diogel 2017 nawr ar gael ar Hwb! Darllenwch hi i gael gwybod beth yw’r
dyddiad, beth fydd y slogan y flwyddyn nesaf, a sut i gymryd rhan. A chyn bo
hir, byddwn yn lansio ein cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy
Diogel felly cadwch lygad allan.
Mae'r adnoddau diweddaraf ar Hwb yn cynnwys:
Mae’r clasuron yma wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer cynulleidfa
newydd. Mae’r storïau yma yn gyfoethog eu cynnwys ac wedi eu haddasu yn
arbennig i ddarllenwyr ifanc. Mae’r adnodd yn dod ag uchafbwyntiau’r clasuron
a’u cymeriadau i genhedlaeth ifanc.
Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad
Estyn o arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd
Mae adroddiad
blynyddol sy'n cynnwys data sgorau safonedig ar sail oedran a mesurau cynnydd
yn ôl rhyw ac awdurdod leol.
Darganfyddwch ba
effaith y mae Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i chael ar
gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, codi safonau a chydweithredu â chonsortia
rhanbarthol.
Mae’r
Weinyddiaeth Almaeneg ar gyfer Addysg ac Ymchwil, ynghyd â'i bartneriaid yn y
DU yn cynnig grantiau teithio i ysgolion y DU i ymweld â'u hysgol bartner
Almaeneg i ffurfio timau ymchwil i weithio ar brosiect sy'n targedu’r
effeithiau niweidiol o’r tunelli o blastig sy’n cael eu dympio yn ein hafonydd
a’n cefnforoedd bob blwyddyn.
Cyfle penigamp
i’ch ysgol chi cael hwyl a rhannu syniadau yn Gymraeg.
Sut felly, gall
eich ysgol gymryd rhan? Gallech rannu digwyddiadau ‘ch ysgol chi drwy
Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech
ychydig o ysbrydoliaeth cyn y 15fed, cliciwch yma am syniadau o 2013-2015 #shwmaesumae
Trosglwyddo o
wyddoniaeth ysgol gynradd i wyddoniaeth ysgol uwchradd
Mae Techniquest Glyndŵr wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i
greu rhaglen o ddiwrnodau paratoi i ddisgyblion cynradd fydd yn eu galluogi i
ymdopi’n well â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Mae diwrnodau Techniquest
Glyndŵr yn canolbwyntio’n benodol ar hwyluso’r trosglwyddo o wyddoniaeth CA2 i
wyddoniaeth CA3.
-
Dyddiad: 14 Tachwedd 2016
-
Amser: 14:30 - 17:00
-
Lle: Techniquest Glyndŵr
|