|
|
Heddiw (Dydd
Mawrth 20 Medi), cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y bydd y
ffordd y caiff athrawon eu hyfforddi yng Nghymru yn newid, gyda rôl gynyddol i
ysgolion a mwy o fewnbwn gan brifysgolion er mwyn codi safonau.
|
|
|
Os felly, gallai rieni a
gofalwyr ddefnyddio Gofal Plant di-dreth i dalu am y gweithgareddau gofal plant
hyn. Cofrestrwch ar-lein pan fyddwch yn derbyn
eich llythyr gwahoddiad gan Lywodraeth DU yn yr hydref er mwyn sicrhau y
gallwch dderbyn taliadau drwy Ofal Plant di-dreth. (Saesneg yn unig)
|
Dyddiad i’ch dyddiadur! Gweithdy RHAD AC AM DDIM Llywodraeth
Cymru a Dangos Hiliaeth y Cerdyn Coch
4 digwyddiad hanner
diwrnod
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu
tynnu’n ôl y penderfyniad i newid y lefelau disgwyliedig ar gyfer Cyfnod
Allweddol 2 a 3 ac felly unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gosod targedau o
ganlyniad i hyn, er mwyn cynyddu’r lefel cyflawniad ddisgwyliedig ar gyfer
dysgwyr mewn Saesneg, Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg ar ddiwedd Cyfnodau
Allweddol 2 a 3 o Haf 2018 ymlaen.
Darganfyddir yma copi o’r llythyr a anfonwyd at y sector addysg.
Grant Amddifadedd Disgyblion
Roedd gwybodaeth yn ymwneud â chynhadledd yng Nghaerdydd (oedd yn anghywir) yn nodi bod cyllid y
Grant Amddifadedd Disgyblion yn dod i ben ym mis Mawrth 2017. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi
cytuno ar gyfres o flaenoriaethau sy’n cynnwys sicrhau bod pob plentyn yn
cael y cychwyn gorau mewn bywyd drwy ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion. Bydd
cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ddyblu o
£300 i bob dysgwr cymwys. Cyhoeddir manylion pellach am hyn maes o law.
Ydych chi’n sicrhau bod y gwiriadau iawn o ran diogelwch a chymwysterau
wedi’u gwneud wrth gyflogi athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi?
Dyma’ch
cyfle olaf i archebu lle yn y cynhadledd.
Mae’r ddogfen hon yn gwahodd sylwadau ar y meini prawf ar
gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru a’r cynigion ar
gyfer datblygu swyddogaethau a rôl y Cyngor Gweithlu Addysg.
yn cau
30 Medi 2016
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwahodd
ceisiadau ar gyfer 2017-18 gan ysgolion sydd â phlant o deulu lluoedd sy’n cael
eu symud ac adleoli’n aml. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi
2016.
Hon yw flwyddyn olaf y gronfa sydd yn
agored i bob ysgol a gynhelir ar draws y DU.
Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais (Saesneg yn unig)
Gwahoddir holl athrawon a thechnegwyr
ffiseg i Athrofa Flynyddol Ffiseg – Cynhadledd Athrawon Ffiseg Cymraeg ar 5 Hydref.
Ein prif siaradwr yw’r Athro Syr Michael
Berry, Bryste a cawn ddiweddariad gan Helen Francis o CBAC. Bydd y diwrnod yn
llawn gweithgareddau all wella’ch gwaith yn uniongyrchol. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle
AM DDIM.
13 Hydref 2016, Stadiwm Dinas Caerdydd
Caiff Gwobrau Prentisiaethau
Cymru eu cyflwyno ar 20 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y gwobrau hyn yw
cydnabod llwyddiannau unigolion, cyflogwyr a darparwyr ar draws Cymru.
Mae tocynnau ar gael i fynychu’r digwyddiad mawreddog
hwn. Archebwch
eich lle nawr.
Mae’r Sioe Sgiliau, yr achlysur mwyaf ar gyfer sgiliau yn y Deyrnas Unedig, yn cymryd lle yn NEC Birmingham ar 17-19 Tachwedd. Bydd cystadleuwyr yn ymladd am yr aur mewn amrywiaeth o sgiliau gwahanol, o drin gwallt i beirianneg awyrenegol, Dylunio Gwefannau i blastro. Byddai ymweliad i’r Sioe Sgiliau yn cynnig cyfle i gefnogi #TeamWales ac i wylio’r unigolion talentog yn gwneud ei gwneud, yn ogystal ag ymweld â stand Cymru a rhoi eich hunain ymlaen am amrediad o sesiynau rhyngweithiol.
Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow16
Mae digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru yn dod i
Landudno a Chaerdydd.
- Venue Cymru, Llandudno: 5 - 6 Hydref
-
Arena Motorpoint, Caerdydd: 12 - 13 Hydref
Mae’r digwyddiadau rhyngweithiol yma yn croesawu dros 100
o sefydliadau sydd yn ysbrydoli bron i 10,000 o ymwelwyr gan gynnig iddynt
wybodaeth am y nifer o wahanol gyfleoedd gyrfaol ar gael.#
Dewch i ryngweithio a chael eich ysbrydoli.
Pa ddiffyg sydd mewn sgiliau yng Nghymru? Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2015 yw’r brif
ffynhonnell gwybodaeth ynghylch y gofyn am sgiliau ymhlith cyflogwyr a’r
buddsoddiad mewn sgiliau yng Nghymru ac yn y DU. Mae adroddiad Cymru yn trefnu’r canfyddiadau
yn ôl rhanbarth, sector, maint y sefydliad a galwedigaeth. Mae hefyd yn ymdrin
â’r newidiadau o’r arolygon blaenorol yn 2011 a 2013.
Mae'r adnoddau diweddaraf ar Hwb yn cynnwys:
Mae
Techniquest Glyndŵr wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i greu rhaglen
o ddiwrnodau paratoi i ddisgyblion cynradd fydd yn eu galluogi i ymdopi’n well
â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Mae diwrnodau Techniquest Glyndŵr yn
canolbwyntio’n benodol ar hwyluso’r trosglwyddo o wyddoniaeth CA2 i wyddoniaeth
CA3.
DYDDIAD CAU ar gyfer ceisiadau Côr Cymru a Côr Cymru Cynradd 2017
Medi 30ain 2016.
Gweler amodau llawn y gystadleuaeth ar www.s4c.cymru/corcymru ac ar www.rondomedia.co.uk corcymru@rondomedia.co.uk
Mae’r
clasuron yma wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer cynulleidfa newydd. Mae’r
storïau yma yn gyfoethog eu cynnwys ac wedi eu haddasu yn arbennig i
ddarllenwyr ifanc. Mae’r adnodd yn dod ag uchafbwyntiau’r clasuron a’u
cymeriadau i genhedlaeth ifanc.
Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad
Estyn o arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd.
Mae’r Weinyddiaeth Almaeneg ar gyfer
Addysg ac Ymchwil, ynghyd â'i bartneriaid yn y DU yn cynnig grantiau teithio i
ysgolion y DU i ymweld â'u hysgol bartner Almaeneg i ffurfio timau ymchwil i
weithio ar brosiect sy'n targedu’r effeithiau niweidiol o’r tunelli o blastig
sy’n cael eu dympio yn ein hafonydd a’n cefnforoedd bob blwyddyn.
Menter yw Gwers Fwyaf y Byd sydd â'r nod o sicrhau bod
pob plentyn, ym mhobman, yn dysgu am y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Medi yma, mae'r
ffocws ar Nod 5 "Cyflawni cydraddoldeb rhywedd a grymuso pob menyw a
merch."
Mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang
Cymru yn awyddus i gynorthwyo ysgolion yng Nghymru i gyflwyno Gwers Fwyaf y Byd
ac mae wedi hwyluso'r gwaith o gyfieithu'r adnodd perthnasol i'r Gymraeg
|