
Mae Cymru yn 'Agored i Fusnes’
Mae Ken Skates,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi pwysleisio bod Cymru
yn agored iawn i fusnes.
Bu’n siarad â
chynrychiolwyr cwmnïau Angori yn ddiweddar, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru
wedi ymrwymo i gefnogi twf busnes a buddsoddi.
Bu’r
Ysgrifennydd Cabinet mewn cyfarfodydd o Fforymau’r Cwmnïau Angori yn y Gogledd
ac yn y De i siarad â chynrychiolwyr y cwmnïau er mwyn gwrando ar unrhyw
bryderon sydd ganddynt yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac i
drafod cyfleoedd newydd a sut y gall Llywodraeth Cymru eu helpu.
Cliciwch
yma i gael ragor o wybodaeth a gwyliwch
ddatganiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi.
 |
|
Cyhoeddi cyllid
ar gyfer Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd
Mae cynlluniau i greu Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd
yn Llanelli wedi symud gam ymlaen wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn ariannu
Uwchgynllun y prosiect.
Hefyd mae wedi cytuno i amrywio telerau’r cytundeb rhwng
Cyd-fenter Arfordir Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin fel ei fod yn cynnwys y
datblygiad arfaethedig yn ffurfiol, cyn belled â bod modd cytuno ar y cynllun
busnes.
Nod y Pentref Llesiant a
Gwyddorau Bywyd yw gweddnewid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu a lles
yn cael ei hybu yn y rhanbarth. Bydd yn ceisio creu cysylltiadau rhwng iechyd da,
ymchwil a’r gwyddorau bywyd, a chyfleoedd hamdden arloesol er mwyn helpu pobl i
fod yn iach. Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Medica’n profi’n
boblogaidd gyda DTR Medical
Bydd cwmni llwyddiannus o Abertawe sy’n cynhyrchu offer
llawfeddygol di-haint untro yn dychwelyd i Medica ym mis
Tachwedd.
Gwnaeth DTR Medical sicrhau 37 o gytundebau mewn 21 o
wledydd gwahanol wrth arddangos ar stondin Llywodraeth Cymru a bydd ugain o
gwmnïau eraill yn ymuno â nhw ar y stondin ym mis Tachwedd.
Medica yw sioe fasnach feddygol fwyaf blaenllaw’r byd ac
fe’i cynhelir bob blwyddyn yn Dusseldorf. Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Hedfan o Gaerdydd i
Lundain mewn awr
Mae cysylltiadau hanfodol rhwng Caerdydd a Llundain i gael eu
cryfhau gyda gwasanaeth awyr dros dro.
Bydd Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop, wedi
cyhoeddi y bydd yn cynnig ‘teithiau argyfwng’ ar gyfer y cyfnod o chwe wythnos
pan fydd Twnel yr Hafren ar gau.
Bydd modd i deithwyr
busnes a thwristiaid hedfan i ganol Canary Wharf hyd at deirgwaith y dydd am
ddim ond £34.99 un ffordd o’r 12 Medi – 21 Hydref 2016. Darllenwch fwy ac archebu yma.
|
 |
|
Y Gorau o Wyddorau Bywyd Cymru
Mae Cymru yn genedl
o bobl arbennig iawn. A ydych chi’n adnabod pobl sy’n gwneud pethau rhagorol ac
sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’ch sector neu’ch proffesiwn?
Dyma’ch cyfle i’w henwebu ar
gyfer Gwobr Dewi Sant. Gallwch enwebu grŵp neu unigolyn sydd, yn eich
barn chi, wedi gwneud cyfraniad mawr i’ch sector neu sydd wedi cael llwyddiant
nodedig yng Nghymru neu’n rhyngwladol.
Dominic Griffiths o Alesi Surgical enillodd y Wobr Fasnach eleni.
Gwnaeth ddyfeisio, ‘Ultravision’, i glirio mwg yn ystod llawdriniaethau laparosgopig. Mae’r ddyfais wedi’i hallforio
er mwyn i ysbytai ledled yr UE ei defnyddio.
Da chi,
peidiwch â cholli’r cyfle hwn i godi proffil eich sefydliad a’r diwydiant. I
enwebu rhywun, dilynwch y ddolen hon. Y dyddiad
cau yw 21 Hydref 2016.
|
Rydym eisiau eich barn ar ddatrys tagfeydd ar yr M4
Rydym yn gofyn i fusnesau roi eu barn wrth inni ddod gam yn nes at ganfod ateb i’r tagfeydd ar yr M4.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi cyhoeddi Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol annibynnol i brosiect Coridor yr M4 yn ardal Casnewydd.
Disgwylir i’r ymchwiliad hwn ddechrau yng Nghasnewydd yr hydref hwn.
Hoffwn glywed eich barn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar yr M4.
BBI Solutions yn ennill Gwobr
Allforio Glodwiw ‘Made in the UK’
Ym mis Tachwedd y llynedd, enillodd BBI
Solutions Wobr Allforiwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Made in Wales. Yn dilyn hynny,
mae’r cwmni, sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi parhau i gael
llwyddiant gan ennill Gwobr Allforio Made in the UK. Rhagor o wybodaeth.
Prentisiaeth Uwch Newydd mewn Gwyddorau Bywyd a Diwydiannau Cysylltiedig
ym maes Gwyddoniaeth
Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi ei
Brentisiaeth Uwch mewn Gwyddorau Bywyd a Diwydiannau Cysylltiedig ym maes
Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n gweithio yn y sector
Gwyddorau Bywyd a chaiff ei ddarparu dros gyfnod o 24 mis. Mae’r Brentisiaeth
uwch newydd hon yn cynnig 3 llwybr ar Lefel 4 gan gynnwys: Technegydd Gwyddorau
Bywyd, Technegydd Gwyddorau Cemegol a Thechnegydd Gwyddorau Bwyd. Rhagor o wybodaeth.
MedaPhor yn
ennill un o Wobrau Busnes Caerdydd
Mae MedaPhor, sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth
Cymru, wedi ennill Gwobr Busnes Technoleg ac Arloesedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes
Caerdydd 2016.
Roedd MedaPhor ar y rhestr fer ynghyd â chwmnïau
technoleg eraill sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd sef Circle IT, Net Support UK a Zipporah. Rhagor o wybodaeth.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – diwrnod agored 31 Awst 2016
Bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal ‘diwrnodau agored’ y mis hwn er mwyn i bobl fedru galw heibio.
Mae’r diwrnodau hyn ar gyfer pobl sydd â diddordeb yn y sector gwyddorau bywyd neu sydd eisiau dysgu mwy am yr hyn y mae’r Hwb yn ei gynnig i gwmnïau a sefydliadau yn y sector.
Bydd nifer cyfyngedig o ddesgiau poeth ar gael ar y diwrnodau hyn. Rhagor o wybodaeth.
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi cynllun i godi hyder ymhlith byd busnes ynghyd
â chronfa newydd i gefnogi twf a swyddi
Mae Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi cynllun
i godi hyder byd busnes a chronfa newydd i gefnogi twf a swyddi fel rhan o
ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniad refferendwm yr UE.
Wrth siarad yng nghyfarfod eithriadol o’r Cyngor Adfywio
Economaidd yng Nghaerdydd dywedodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau busnesau a mewnfuddsoddwyr bod Cymru’n
parhau i fod yn agored i fusnes. Rhagor o wybodaeth.
Cyfradd cyflogaeth Cymru yn uwch nag erioed
Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb i’r ystadegau diweddaraf
am y farchnad lafur, sy'n dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru yn uwch nag
erioed erbyn hyn.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Mae cyfradd
cyflogaeth Cymru heddiw yn uwch nag erioed. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer
y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi syrthio 30,000 i’w lefel isaf ers 2006. Rhagor o wybodaeth.
Venturefest
Cymru ̶
28 Medi, Stadiwm Swalec, Caerdydd
Mae Venturefest Cymru yn dod â buddsoddwyr,
entrepreneuriaid ac arloeswyr ynghyd i annog pawb i rannu gwybodaeth,
rhwydweithiau a syniadau. Bydd digwyddiad eleni yn mynd i’r afael â’r rhwystrau
sy'n wynebu entrepreneuriaid a busnesau wrth geisio datblygu busnes. P’un ai a
ydych chi’n cael trafferth cael gafael ar gyllid, ymgyfarwyddo â recriwtio, neu
eisiau dysgu sut mae datblygu’r strategaeth farchnata gywir neu reoli twf direolaeth;
bydd Venturefest Cymru yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r rhwystrau sy’n
wynebu’ch busnes. Rhagor o wybodaeth.
GwerthwchiGymru: gweddnewid gwefan
GwerthwchiGymru
Yr haf hwn bydd gwefan
GwerthwchiGymru yn cael ei gweddnewid er gwell a bydd yn edrych yn fwy ffres.
Mae GwerthwchiGymru yn wefan
hanfodol er mwyn i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sicrhau
gwerth am arian.
Mae GwerthwchiGymru yn
ffynhonnell wybodaeth ac yn borthol caffael sy’n caniatáu ichi edrych am
gyfleoedd i gael contractau a gwneud cais amdanynt. Mae oddeutu gwerth £4 biliwn o
gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yn cael eu
hysbysebu ar y safle hwn bob blwyddyn.
Mae 80% o’r cyfleoedd yn rhai llai ac yn cael
eu cynnig gan amrywiaeth eang o sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus – felly mae
contractau ar gael ar gyfer busnesau o bob math a maint. Rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar
@WG_economy
Bellach gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am adran
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru a chysylltu â ni trwy ein dilyn ar Twitter.
|